Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Mae sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru yn darparu gwasanaeth hanfodol ac angenrheidiol, fel y gallwn weld yn ôl pa mor brysur ydynt. Fodd bynnag, mae eu hygrededd wedi'i niweidio gan rai sefydliadau ofnadwy. Hoffwn ddod â rhai enghreifftiau i'r amlwg i ddangos pam y mae angen i ni reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid.
Ers 2016, bûm yn gwylio camau gweithredu yn erbyn elusen leol yn fy rhanbarth i, Capricorn Animal Rescue, a gafodd sylw mewn rhaglen ohebu cudd gan BBC Wales y cymerodd fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, ran ynddi. Bu'r gwirfoddolwyr yn brwydro am fwy na thair blynedd cyn i'r rhaglen gael ei darlledu, ac eto ni chafodd yr elusen ei thynnu oddi ar y gofrestr elusennau tan fis Medi eleni—wyth mlynedd—ac ni chafwyd unrhyw gamau ffurfiol gan y Comisiwn Elusennau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol, nac adroddiad gan ymchwiliad a agorodd yn 2017. Roedd rhwystredigaethau'r gwirfoddolwyr a oedd yn ymladd yma wedi'u cyfeirio'n unig at y Comisiwn Elusennau fel yr unig awdurdod a allai weithredu ar hyn.
Y broblem allweddol i'r gwirfoddolwyr hyn hefyd oedd nad oedd yna un corff a oedd yn gyfrifol am gamu i mewn, a hwy a wynebodd faich iechyd meddwl a chost ariannol ymladd rhywbeth a oedd mor amlwg yn anghywir. Ar eu rhan hwy, rhaid imi ddiolch yn gyhoeddus i'n cyngor gwirfoddol lleol, a helpodd y gwirfoddolwyr hyn ym mhob ffordd y gallent, a darparu'r unig elfen o gymorth uniongyrchol a oedd ar gael.
Unwaith eto, yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, yn 2019 roedd sefydliad arall, yn ne Cymru, lloches geffylau Whispering Willows, yn achosi problemau'n lleol. Datgelodd rhai ymchwiliadau syml gan etholwyr lleol bryderon difrifol iawn ynghylch y sefydliad hwnnw, ac ar ddechrau 2021 plediodd y sylfaenydd yn euog i droseddau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid ac fe'u gwaharddwyd am 10 mlynedd. Yr wythnos diwethaf cafodd 34 o gŵn a dau ffured eu symud o fferm yn Eryri a oedd yn gysylltiedig â helfa leol. Mae pob achos o'r fath yn rhoi straen enfawr ar sefydliadau lles anifeiliaid eraill pan gânt eu cau, am eu bod yn gorfod derbyn anifeiliaid ychwanegol nad oedd yn rhan o'r angen y cynlluniwyd ar ei gyfer.
Mae cynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach o lawer. Fodd bynnag, un man cychwyn yw rheoleiddio pob sefydliad sy'n gyfrifol am anifeiliaid yn ein cymdeithas. Mae'n peri pryder y gall unrhyw un ddechrau sefydliad lles anifeiliaid, ni waeth beth fo'u cymwysterau na'u profiad. Rhaid inni sicrhau ein bod i gyd yn gwneud popeth a allwn i ddarparu adnoddau digonol, ac yn bwysig, pwerau i roi rheoliadau sefydliadau lles anifeiliaid mewn grym ac i ymchwilio'n briodol i broblemau sy'n codi pan fydd aelodau o'r cyhoedd neu wirfoddolwyr yn eu datgelu. Bydd angen llawer iawn o gymorth ac addysg ar awdurdodau lleol ar feysydd pwysig nad ydynt yn rhan o'u harbenigedd. Mae'r materion sy'n codi y tu allan i fusnesau a drwyddedir ar hyn o bryd a'r cymhlethdodau sy'n deillio o ddeddfwriaeth elusennol, a'r anawsterau cyfarwydd gyda syndrom sylfaenydd, yn fynydd i'w wynebu heb ddealltwriaeth drylwyr. Rhaid inni wrando ar brofiadau'r rhai sydd wedi datgelu problemau lles a chreu'r rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i nifer o sefydliadau gydweithio er mwyn rhoi'r gorau i gamweithredu. Ac eto, mae'n rhaid cael gofyniad i gael un corff sy'n gyfrifol am gamu i mewn, ac ni ddylai hyn fod yn faich ar wirfoddolwyr mwyach. Diolch.