Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'n fawr y ddadl hon ar ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid. Mae bob amser yn dda clywed am anifeiliaid sy'n aelodau o deuluoedd yr Aelodau, ac rwy'n credu y byddai'n well i mi sôn bod gan fy nheulu innau ddau gi, Minnie a Bronnie; ci o ganolfan achub yw Bronnie, ac fel y dywedwyd, maent yn aelodau annwyl iawn o'n teuluoedd.