Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Mae'r cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd i Gymru a lansiais yn gynharach y mis hwn yn uchelgeisiol ac mae'n arloesol, ac mae'n nodi sut y byddwn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed gennym mewn perthynas â lles anifeiliaid ers i bwerau gael eu datganoli i Gymru yn ôl yn 2006. Yn dilyn yr etholiad, roedd yn rhywbeth roeddwn yn awyddus iawn i'w wneud, i gael popeth mewn un lle, ac i ddod ag ystod o gamau gweithredu at ei gilydd, ynghyd â'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu, ac i ddangos mai dyma'r pethau y byddem yn eu gwneud dros gyfnod y Llywodraeth hon o bum mlynedd. Fy uchelgais, fel pob Aelod yn y Siambr hon rwy'n credu, yw i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da, ac er mwyn ceisio sicrhau hynny, mae ein cynllun yn cynnwys gwireddu'r pedwar ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu ar les anifeiliaid a gedwir, ac mae hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn integreiddio ystod o waith parhaus ym maes polisi lles anifeiliaid dros dymor y Llywodraeth hon.
Credaf fod y ffordd rydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig iawn o werthoedd ein cymdeithas. Mae bod yn berchen ar anifail yn fraint—nid yw'n hawl—ac mae perchnogaeth gyfrifol yn ddisgwyliad, nid yn ddyhead. Mae gan unrhyw un sy'n berchen ar anifail neu sy'n gyfrifol am anifail ddyletswydd gyfreithiol i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ei anghenion lles yn cael eu diwallu. Mae perchnogaeth gyfrifol yn dechrau o'r eiliad y mae person yn dechrau ystyried cael anifail. Mae'n hanfodol ystyried yn ofalus yr ymrwymiad hwnnw. Gydag anifeiliaid anwes yn arbennig, mae perygl bob amser o brynu ar sail emosiwn ac ar fympwy.
Bob blwyddyn, rydym yn cynnal ymgyrch yn y cyfnod cyn y Nadolig i atgoffa pobl ynglŷn â gofynion perchnogaeth gyfrifol, #ArosAtalAmddiffyn, ac mae'n annog pobl i ymchwilio'n drylwyr beth yw'r costau a'r ymrwymiadau sydd ynghlwm wrth hynny, addasrwydd yr anifail anwes i amgylchedd eu cartref, a sicrhau eu bod yn caffael eu hanifeiliaid anwes o ffynhonnell gyfreithiol a dibynadwy. Felly, unwaith eto, rwy'n annog pob Aelod yn y Senedd i gefnogi a hyrwyddo'r ymgyrch hon yn y cyfnod cyn y Nadolig. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r cynnydd mewn gwerthiannau ar-lein, a sut y mae'r posibilrwydd o werthiannau cyflym heb eu rheoleiddio hefyd yn denu bridwyr diegwyddor i wefannau. Am y rheswm hwn, rydym yn cefnogi gwaith y Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes i sicrhau bod hysbysebu anifeiliaid anwes i'w gwerthu yn cael ei wneud yn gyfreithlon ac yn foesegol.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn gwbl allweddol i lwyddiant popeth yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Yn ogystal â'r Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes, rydym yn falch o'n perthynas hirsefydlog â dau grŵp allweddol sy'n dwyn ynghyd sefydliadau'r trydydd sector—Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru y cyfeiriodd yr Aelodau ato. Daw aelodau'r grwpiau hyn o'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Dogs Trust a Cats Protection, ac yn ddiweddar fe wnaethant fynychu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i roi tystiolaeth ar faterion lles anifeiliaid. Clywyd canmoliaeth i'r modd y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn rhyngweithio â hwy ond wrth gwrs, mae mwy y gallwn ei wneud. Dyna pam y mae ein cynllun lles anifeiliaid yn tynnu sylw at rôl gweithgorau rhanddeiliaid, oherwydd gwyddom na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.
Ar gyfer y ddadl heddiw, ac fel rhagair i drafod cynlluniau ar gyfer trwyddedu neu reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, hoffwn dynnu sylw at ddwy enghraifft arall o weithio mewn partneriaeth. Yn gyntaf, rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi awdurdodau lleol. Mae gorfodi a chyflawni deddfwriaeth bob amser yn gryfach pan fydd dealltwriaeth glir a rennir o'r hyn a ddisgwylir a pham y disgwylir hynny. Mae swyddogion gorfodi angen hyfforddiant wedi ei ddarparu mewn modd cyson a chydlynol, ac mae angen i'r swyddogion eu hunain gael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi oherwydd y rôl sylfaenol y maent yn ei chwarae yn sicrhau bod safonau lles uchel yn cael eu cynnal.
Yn ail, arweiniodd ein cydweithrediad â Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru at gyhoeddi cod arferion gorau ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yn 2020, a chredaf fod hwn yn gam cyntaf pwysig iawn. Mae'r cod yn wirfoddol, ond mae'n cynnig cyngor rhagorol i annog mabwysiadu safonau uwch ar gyfer magu anifeiliaid. Felly, gan adeiladu ar hyn, fel y nodwyd yn y rhaglen lywodraethu a'n cynllun lles anifeiliaid, ein bwriad yw symud ymlaen gyda gwaith ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, sy'n rhywbeth y credaf fod y rhan fwyaf o'r bobl sy'n cysylltu â mi ar y mater hwn yn gefnogol iawn iddo. Felly, byddwn yn ymgynghori'n eang i sefydlu nifer a gwasgariad y sefydliadau sy'n ymwneud ag ailgartrefu ac achub anifeiliaid, yn amrywio o'r rhai a weithredir gan unigolion i eraill a gaiff eu gweithredu ar raddfa fwy. Bydd ein gwaith cydweithredol gyda'r Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes hefyd yn ein galluogi i ystyried cynnwys sefydliadau ar-lein, a bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod rheoliadau yn y dyfodol yn gyfredol ac yn gynhwysfawr ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol i oruchwylio'r sector amrywiol hwn y mae ei ddosbarthiad daearyddol yn anwastad iawn ledled Cymru.
Erbyn 2023, byddwn mewn sefyllfa i gyflwyno gofynion rheoleiddio newydd ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, i gynnwys trefniadau wedi'u cynllunio i ddiogelu safonau gofynnol mewn perthynas â hyfforddiant, staffio a'r amgylchedd. Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol i hyfforddi swyddogion i orfodi rheoliadau newydd er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson. Mae ein gwelliant i'r cynnig heno yn pwysleisio rôl allweddol gorfodaeth awdurdodau lleol ac yn nodi ein cynlluniau ar gyfer rheoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid yn unol â'r cynllun lles, gan gyfeirio'n arbennig at brosesau, amseru a rôl sylfaenol gweithio mewn partneriaeth.
Mae'r cyflawniadau a'r camau gweithredu a amlinellais yn dangos sut y mae lles anifeiliaid a pherchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru. I orffen gyda dyfyniad o'n cynllun lles anifeiliaid:
'Ein nod yw bod Cymru’n cael cydnabyddiaeth fel esiampl i bawb oherwydd ei safonau, am y modd y mae arferion da yn cael eu mabwysiadu a’u rhannu, am y modd y trafodir â’r prif randdeiliaid, am y mecanweithiau gorfodi effeithiol, cefnogol a chynaliadwy sy’n cael eu datblygu, am ei chyfraniad at ymchwil ac am hyrwyddo addysg a pherchenogaeth gyfrifol, hynny er lles cenedlaethau heddiw ac fory.'
A gwn y gallwn gyflawni hyn drwy weithio gyda'n gilydd. Diolch.