Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

QNR – Senedd Cymru ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol ynglŷn ag effaith COVID-19 ar ei wasanaethau?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

Byddaf yn cyfarfod â’r Post Brenhinol unwaith eto ar ddechrau mis Rhagfyr i drafod effaith barhaus COVID-19 ar wasanaethau post yng Nghymru. Byddaf hefyd yn cael y newyddion diweddaraf ar y paratoadau i gwrdd â’r galw cynyddol adeg y Nadolig a chynlluniau i’r Post Brenhinol fod yn fusnes di-garbon.