Part of QNR – Senedd Cymru ar 24 Tachwedd 2021.
Mae mwy na 3,600 o gartrefi incwm is yng Ngwynedd wedi elwa ar ein rhaglen Cartrefi Clyd cenedlaethol ers 2009, gan arbed £300 ar gyfartaledd bob blwyddyn ar eu biliau ynni. Gall preswylwyr cymwys yn Nwyfor Meirionnydd nawr hefyd gael mynediad at y cynllun cymorth tanwydd gaeaf, sy’n cynnwys cyfraniad o £100 tuag at gostau tanwydd y gaeaf.