Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n amlwg bod Plaid Cymru wedi cyrraedd, oherwydd mae'r Ceidwadwyr yn treulio mwy o amser yn trafod maniffesto a pholisïau Plaid Cymru nag y maen nhw eu polisïau eu hunain, ac unwaith eto mae hynny'n tanseilio, dwi'n meddwl, pa mor gynyddol amherthnasol y mae'r Ceidwadwyr yn dod yn y lle yma.
Dwi'n falch bod Sam wedi darllen maniffesto Plaid Cymru. Jest gobeithio ei fod e wedi darllen gweddill y maniffesto hefyd, er mwyn dysgu un neu ddau o bethau ynglŷn â beth sydd angen i'r Ceidwadwyr ei efelychu. Do, mi wnaeth Plaid Cymru wrthwynebu'r cydbwyllgorau corfforaethol yma, ond mi basiwyd y ddeddfwriaeth gynradd yna, yn erbyn ein dymuniad ni, ac wrth gwrs y ffocws nawr yw sicrhau bod y cydbwyllgorau yma, sydd yn mynd i ddod i fodolaeth, dim ots beth mae'r Ceidwadwyr yn pleidleisio heddiw, yn cael eu cyflwyno yn y modd mwyaf cydnaws a mwyaf triw i'r egwyddorion yr ydym ni fel plaid yn dal i sefyll arnyn nhw. Ac os darllenwch chi'r cytundeb cydweithredu gyda’r Llywodraeth, mi welwch chi ein bod ni'n dweud yn gwbl glir yn y fanna ein bod ni'n mynd i barhau—a dwi'n dyfynnu—i 'adolygu gwaith partneriaethau rhanbarthol' ac ein bod ni wrth gwrs yn sicrhau eu bod nhw yn cael eu 'seilio ar flaenoriaethau lleol', sef yn union, wrth gwrs, y ffaith bod angen cadw'r cysylltiad yna gyda democratiaeth leol. Nawr, mi ddywedaf yn ychwanegol hefyd wrth lefarydd y Ceidwadwyr bod rhaid i chi ddysgu i wrando'n well pan fo'r Gweinidog llywodraeth leol yn ateb fy nghwestiynau i yn y Senedd yn fan hyn, oherwydd, dim ond pythefnos yn ôl, mi ofynnais i'r cwestiwn ynglŷn â chymryd mwy o gyfrifoldebau o lywodraeth leol lan i lefel y cydbwyllgorau rhanbarthol yma, ac mi ddyfynnaf i eto i chi, i'ch safio chi rhag mynd i edrych ar y Record. Yr hyn y dywedodd y Gweinidog wrthyf i oedd,
'Ni fydd cyfrifoldebau'n cael eu symud oni bai bod y ceisiadau hynny'n dod gan awdurdodau lleol eu hunain.'
Felly, peidiwch â dod fan hyn i godi bwganod. Ydyn, mi rŷn ni o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod gwasanaethau'n aros mor lleol ag sy'n bosib, ac mi fyddwn ni yn craffu'r rheoliadau ychwanegol hefyd fydd yn dod gerbron y Senedd yma drwy'r lens yna. Mae symud y strwythurau yma yn rhedeg y risg—a dwi'n cytuno—yn rhedeg y risg ein bod ni'n mynd i greu haen ychwanegol o lywodraethiant a bod hynny'n dod â biwrocratiaeth a chost ychwanegol gydag e, ond dyw beth ŷch chi'n mynd i bleidleisio ar y rheoliadau yn fan hyn heddiw ddim yn mynd i newid y ffaith bod y CJCs yn dod. Felly, tyfwch lan, 'engage-wch' gyda'r ddadl a gwnewch yn siŵr bod y CJCs yn gweithredu yn y modd rŷch chi eisiau iddyn nhw, yn lle plannu'ch pennau yn y tywod. Beth bynnag, dwi'n ymateb i'r ddadl yn y modd y dylai'r Gweinidog gwneud, felly, gwnaf fi ddim gwneud hynny.
Mae yna bwynt dilys ynglŷn â chost, mae yna bwynt dilys ynglŷn â chost. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn dangos dros chwe blynedd, gall y gost fod rhwng £10 miliwn ac £16 miliwn, a'r cwestiwn yw: o ble mae hwnna'n dod? Nawr, fel y dywedodd un arweinydd cyngor wrthyf i, dydyn nhw ddim mewn sefyllfa i secondio adnoddau dynol i lenwi rhai o'r swyddi yma oherwydd maen nhw'n gwegian yn barod pan fo'n dod i adnoddau dynol o safbwynt darparu gwasanaethau creiddiol. Dydyn nhw ddim chwaith mewn sefyllfa i 'top-slice-o' yr adnoddau ariannol sydd ganddyn nhw fel awdurdodau lleol, oherwydd mae gwasanaethau yn gwegian oherwydd y sefyllfa ariannol rŷn ni i gyd yn ymwybodol ohono. Felly, mae yna gwestiwn i'w ateb yn fanna a dyna fy nghwestiwn sylfaenol i i'r Gweinidog heddiw. Y Llywodraeth sydd wedi mynnu bod y cydbwyllgorau corfforaethol yma'n digwydd, felly, dwi'n tybio, Weinidog, mai'r Llywodraeth ddylai fod yn talu amdanyn nhw.