Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 30 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:56, 30 Tachwedd 2021

Un o'r heriau penodol sy'n wynebu'r gymuned amaethyddol ar hyn o bryd yw bod cwmnïau ariannol byd eang yn dod i mewn i gymunedau gwledig ar hyn o bryd ac yn prynu tir amaethyddol i blannu coed er mwyn prynu credydau carbon. Fe gefais i ar ddeall y bore yma gan un o'r undebau amaethyddol fod gwerthwyr tir nawr yn galw ffermwyr o ddim unman, fel petai—cold calling—mewn ymgais i'w cymell nhw i werthu eu tir i gwmnïau buddsoddi. A allwch chi, Brif Weinidog, roi sicrwydd bod y Llywodraeth yn ystyried bod yr ymgais yma, sy'n gwneud mwy dros elw, a dweud y gwir, na chynaliadwyedd, mewn gwirionedd, yn groes i'n syniad ni yng Nghymru o gynaliadwyedd, yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mai ein nod ni fel cenedl arweiniol yn y maes yma yw cefnogi perchnogaeth a rheolaeth leol o fesurau i helpu cynlluniau o ran yr hinsawdd, fel rŷm ni'n bwriadu gwneud, wrth gwrs, o ran generadu ynni adnewyddol i'r un graddau?