1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Ar ran y Ceidwawyr Cymreig nawr, Paul Davies, i ofyn cwestiynau'r arweinwyr.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ffigurau diweddaraf y GIG yn dangos bod gwasanaethau iechyd Cymru yn ei chael hi'n anodd, wrth i amseroedd aros ac amseroedd ymateb ambiwlansys gofnodi eu lefelau gwaethaf erioed yn ddiweddar. Mae is-lywydd Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru, Dr Suresh Pillai, wedi dweud bod 709 o gleifion yng Nghymru yn 2020-21 yn unig wedi marw o ganlyniad uniongyrchol i orlenwi ac arosiadau hir. Dywedodd hefyd,
'Roedd modd atal y marwolaethau hyn; mae'n rhaid i'r llywodraeth, Byrddau ac arweinwyr y GIG ddeall a gweithredu nawr i sicrhau nad yw'r argyfwng presennol yn gwaethygu ac yn arwain at ragor o farwolaethau y byddai modd eu hosgoi.'
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â sylwadau Dr Pillai y gellid atal y marwolaethau hyn?
Nac ydw, nid yn y ffordd or-syml honno, Llywydd. Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn iawn bod y GIG yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd o dan y gofynion y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â nhw ar hyn o bryd, ac mae hynny ar fin gwaethygu a mynd yn fwy anodd oherwydd yr amrywiolyn newydd sydd eisoes wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig. Mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdrin ag effaith pandemig byd-eang, gyda'r oediadau i driniaeth y mae hynny wedi eu creu yn anochel. Mae'n ymdrin â'r holl bethau bob dydd yr ydym ni'n disgwyl iddo eu gwneud—darparu'r rhaglen brechu rhag y ffliw mewn gofal sylfaenol, er enghraifft—ac, ar yr un pryd, mae'n ymateb i'r lefelau uchaf erioed o alw drwy'r system frys a thrwy adrannau damweiniau ac achosion brys. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn—ac yn hyn o beth, rwyf i wedi cytuno yn y gorffennol â chyngor gan y coleg meddygaeth frys—fod yn rhaid ystyried hynny yn broblem, nid yn unig wrth ddrws blaen yr ysbyty, ond i'r ysbyty yn ei gyfanrwydd, a bod yn rhaid i'r system gyfan ddod o hyd i ffordd o ymateb i'r pwysau niferus iawn sydd ar y gwasanaeth ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei bod yn wirionedd difrifol iawn, Llywydd, bod y problemau hyn ar fin mynd yn fwy heriol byth dros yr wythnosau nesaf wrth i ni geisio ymateb i'r troadau a'r troellau diweddaraf yn stori heriol iawn coronafeirws.
Prif Weinidog, y gwir amdani yw bod angen gweithredu, a hynny yn gyflym iawn. Wrth i ni symud i'r gaeaf, bydd pwysau pellach ar wasanaethau'r GIG, a gyda'r newyddion bod amrywiolyn COVID newydd yn y DU, mae'n hanfodol nawr bod gan Lywodraeth Cymru gynllun i sicrhau y rhoddir sylw i amseroedd aros ac nad yw marwolaethau y gellir eu hatal yn digwydd.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos mai'r amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys oedd tair awr a saith munud, sef y ffigur uchaf erioed, ac maen nhw hefyd yn dangos bod perfformiad ambiwlansys o ran y targed ymateb o wyth munud yr isaf erioed, sef 50 y cant, a oedd i lawr o 52.3 y cant yn y mis blaenorol. Mae Dr Pillai wedi rhybuddio nid yn unig bod angen rhoi sylw i gapasiti gwelyau, ond bod diffyg staff o tua 100 o feddygon ymgynghorol brys hefyd, ynghyd â nyrsys meddygaeth frys hanfodol, staff iau a staff ategol eraill. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo nawr i ddychwelyd adfer capasiti gwelyau yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig, ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i gyhoeddi cynllun gweithlu hirdymor sy'n recriwtio staff ac yn eu cadw nhw hefyd?
Llywydd, mae mwy o bobl yn gweithio yn GIG Cymru heddiw nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes, ac mae hynny yn cynnwys mwy o feddygon, mwy o nyrsys, mwy o ffisiotherapyddion, mwy o therapyddion galwedigaethol, a'r holl dîm sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae hynny o ganlyniad i fuddsoddiad parhaus gan Lywodraethau Cymru olynol yn ein GIG ac yn ei weithlu. Mae'r nifer uchaf erioed o bobl nid yn unig yn cael eu cyflogi, ond yn cael eu hyfforddi hefyd—mwy o nyrsys yn cael eu hyfforddi, mwy o weithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig â meddygaeth yn cael eu hyfforddi—nag ar unrhyw adeg yn ein hanes.
Rydym ni wedi cyhoeddi'r cynlluniau hynny bob un flwyddyn ac maen nhw'n dangos canlyniad y buddsoddiad hwnnw. Bu mwy o welyau ar gael yn ystod argyfwng COVID o ganlyniad i gapasiti ysbytai maes a'r capasiti ychwanegol arall yr ydym ni wedi sicrhau ei fod ar gael drwy fuddsoddiad ychwanegol sylweddol, ac ymdrechion enfawr gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth i sicrhau bod y capasiti ffisegol hwnnw ar gael ac yna i ddod o hyd i bobl i ddarparu'r gwasanaethau ochr yn ochr ag ef. Pan fydd y pandemig ar ben a gallwn ni ddychwelyd i'r lefelau o weithgarwch yr oeddem ni'n gallu eu gweld yn GIG Cymru cyn iddo ddechrau, yna wrth gwrs bydd angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni'r capasiti ffisegol i fynd ochr yn ochr â'r aelodau staff ychwanegol y byddwn ni wedi eu recriwtio yn y cyfamser.
Prif Weinidog, mae'n gwbl eglur bod angen i chi flaenoriaethu mynd i'r afael â'r ôl-groniadau hyn, a phe bai Llywodraeth Cymru yn dymuno blaenoriaethu'r mater hwn byddem ni wedi gweld rhywfaint o ymrwymiad i fynd i'r afael â phroblemau'r GIG yn eich cytundeb clymblaid gyda Phlaid Cymru. Yn hytrach, fe wnaethoch chi ddewis blaenoriaethu mwy o ddiwygio cyfansoddiadol, mwy o wleidyddion, a hyd yn oed creu awdurdod darlledu, er nad yw'n rhan o gylch gwaith y Llywodraeth hon. Nid oedd dim am flaenoriaethau'r bobl—yr angen am ymyrraeth frys i gefnogi ein gwasanaethau iechyd—ac yn sicr nid oedd dim sôn am ymchwiliad Cymru gyfan yn ymwneud â COVID yn benodol.
Nawr, byddwch chi wedi gweld sylwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sydd hefyd wedi dadlau dros ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru, gan ei bod yn credu y byddai'n rhoi'r cyfle gorau i bobl hŷn gael eu clywed, i deimlo gwerthfawrogiad o'u profiadau a'u safbwyntiau, a chael atebion i'w cwestiynau, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi wrando arni hi, oherwydd bod angen i ni weld atebion ac atebolrwydd.
Prif Weinidog, codwyd cam-drin cleifion a'r diwylliant o fwlio a bygwth sydd wedi digwydd yn y GIG yn y gogledd gyda chi yr wythnos diwethaf, ac nid oedd unrhyw atebion nac atebolrwydd gwirioneddol gan y Llywodraeth hon. Yr wythnos hon, rwyf i wedi gofyn i chi am yr hyn y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael ag amseroedd aros ac atal marwolaethau y gellir eu hatal rhag digwydd. Unwaith eto, nid oes dim atebion nac atebolrwydd gwirioneddol, a bellach, mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi ymuno â galwadau am ymchwiliad COVID Cymru gyfan. A fyddwn ni'n cael atebion ac atebolrwydd nawr, Prif Weinidog, neu a fyddwch chi'n parhau i wrthwynebu ymchwiliad cyhoeddus i Gymru ac atal pobl Cymru rhag cael yr atebion y maen nhw'n eu haeddu?
Llywydd, byddai'n well pe na bai'r Aelod yn darllen ei sgriptiau a baratowyd ymlaen llaw i ni, oherwydd wedyn byddai wedi cael cyfle i wrando ar yr atebion yn hytrach na darllen yr hyn yr oedd yn mynd i'w ddweud, beth bynnag oedd yr ateb yn digwydd bod. Mae arnaf ofn bod ei gwestiynau heddiw yn flinedig ac yn anghywir. Nid yw wedi darllen—neu os ydyw wedi darllen, nid yw wedi deall—y cytundeb yr ydym ni wedi ei daro gyda Phlaid Cymru. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus iawn i fentro egluro iddo, pan fydd yn dweud pethau wrthyf sy'n amlwg yn anghywir, ei bod yn rhan o fy swydd i yma i'w helpu i ddeall ychydig yn well nag y mae natur y cytundeb hwnnw. Mae'r cytundeb, fel y bydd eraill sydd wedi mynd i fwy o drafferth yn ei ddeall, yn gytundeb cyfyngedig a phenodol ar amrywiaeth o faterion pwysig iawn yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw gyda phlaid arall yn y Siambr. Ceir llawer iawn o bethau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud sy'n rhan o'n rhaglen lywodraethu y byddwn ni'n bwrw ymlaen â nhw, a bydd gan unrhyw blaid yn y Siambr hon hawl i gyflwyno safbwynt i'r gwrthwyneb ar y materion hynny os byddan nhw'n dewis gwneud hynny. Dyna natur y cytundeb hwn—wedi ei lunio yn benodol i Gymru yn unig ac wedi ei deilwra i Gymru.
O ran ei bwyntiau olaf, rwyf i wedi gweld llythyr y comisiynydd pobl hŷn. Rwyf i hefyd yn falch o ddweud fy mod i wedi derbyn llythyr gan Brif Weinidog y DU yn ystod yr wythnos ddiwethaf lle mae'n darparu cyfres o ymrwymiadau ynghylch natur yr ymchwiliad cyhoeddus arfaethedig; ymrwymiadau i gynnwys Llywodraethau datganoledig yn y broses o benodi'r cadeirydd, ac yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad; ymrwymiad y bydd yr ymchwiliad yn ymateb yn gadarnhaol i'r pwyntiau y gwnes i iddo yn fy llythyr pan nodais yr hyn y byddai angen i bobl yng Nghymru ei weld mewn ymchwiliad ar gyfer y DU. Cefais lythyr hefyd heddiw gan Brif Weinidog yr Alban, lle mae'n amlinellu ei chefnogaeth i'r pwyntiau a wnaed gen i yn fy llythyr at Brif Weinidog y DU, ac yn ail-bwysleisio’r angen i ymchwiliad y DU ymrwymo i gynrychioli'r materion y bydd pobl mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig eisiau gweld, a hynny yn gwbl briodol, ymchwiliad o'r fath yn ei wneud.
Felly, rwy'n cymryd rhywfaint o hyder o'r ohebiaeth yr wyf i wedi ei chael gan Brif Weinidog y DU a gan Brif Weinidog yr Alban. Mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd, Llywydd, i wneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau hynny yn cael eu cyflawni yn ymarferol, a'n bod ni'n gweld ymchwiliad sydd â'r cyfle gorau o ddarparu'r atebion gorau posibl y mae pobl yng Nghymru yn dymuno eu gweld, a hynny yn gwbl briodol, yn cael eu codi a'u hateb, ond, am y tro, rwy'n credu bod y sicrwydd y mae llythyr Prif Weinidog y DU yn ei roi yn mynd â ni ymhellach i lawr y llwybr hwnnw, ac rwy'n parhau i fod wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU ar y mater hwn fel bod pobl yng Nghymru yn cael ymchwiliad y gallan nhw fod yn gwbl hyderus ynddo, ac a fydd yn rhoi atebion iddyn nhw y maen nhw'n chwilio yn gwbl briodol amdanyn nhw.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y gwyddoch, Brif Weinidog, mae'r ffair aeaf yn digwydd yn Llanelwedd ar hyn o bryd. Y bore yma, fe fûm yno yn gynnar iawn. Roedd e'n gyfle gwych i gael cyfarfod yn uniongyrchol gydag amaethwyr a gyda chynrychiolwyr y gymuned. Y neges yn glir roeddwn i'n gael o sector sydd yn wynebu cymaint o bwysau o wahanol gyfeiriadau oedd bod angen sefydlogrwydd ar y diwydiant yn y cyfnod hynod heriol yma. A fyddech chi, Brif Weinidog, yn ategu y neges hynny, ac ydych chi'n cytuno gyda ni ym Mhlaid Cymru, er mwyn galluogi ffermydd i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol, a chwarae eu rhan nhw yn gwireddu cyfraniad Cymru fel gwlad i ddelio â'r argyfwng hinsawdd, er enghraifft, bod angen i ffermwyr hefyd gael cynaliadwyedd economaidd?
Wel, Llywydd, a allaf i ddechrau drwy longyfarch pob un sydd wedi bod yn rhan o greu gŵyl y gaeaf yn Llanelwedd, mewn ffordd sy'n addas i'r cyd-destun rŷm ni'n wynebu? Fe gefais i gyfle i siarad gyda'r Gweinidog, Lesley Griffiths, am ei hymweliad hi i Lanelwedd ddoe, a dwi'n falch i glywed popeth oedd yn ei le i helpu pobl i fynd at y ffair mewn ffordd ddiogel. Ac wrth gwrs, dwi'n gwybod bod y cyd-destun presennol yn un heriol i'r ffermwyr yng Nghymru ar ôl Brexit, yn y cyd-destun coronafeirws, ac yn y blaen. Mae pethau yn newid, Llywydd, ym maes amaethyddiaeth. Mae'n rhaid i bethau newid. Ond wrth gwrs rŷn ni'n cydnabod y ffaith fod sefydlogrwydd yn bwysig i ffermwyr hefyd, so rŷn ni, fel rhan o'r cytundeb gyda Phlaid Cymru, yn mynd i fwrw ymlaen i gydweithio yn agos gyda'r bobl yn y sector i baratoi am y dyfodol, dyfodol ble rŷn ni'n gallu talu ffermwyr am y pethau pwysig iddyn nhw eu gwneud i'n helpu ni yng nghyd-destun newid hinsawdd. So, trwy gydweithio, trwy glywed beth mae pobl yn y maes yn dweud, a thrwy chynllunio yn agos gyda'n gilydd, dwi'n hyderus y gallwn ni greu dyfodol i'r sector ond hefyd i'w wneud e mewn ffordd sydd yn rhoi sefydlogrwydd ond hefyd sy'n creu posibiliadau newydd i'r sector sy'n mynd i helpu ni i gyd gyda'r sialens rŷn ni i gyd yn wynebu yn newid hinsawdd.
Un o'r heriau penodol sy'n wynebu'r gymuned amaethyddol ar hyn o bryd yw bod cwmnïau ariannol byd eang yn dod i mewn i gymunedau gwledig ar hyn o bryd ac yn prynu tir amaethyddol i blannu coed er mwyn prynu credydau carbon. Fe gefais i ar ddeall y bore yma gan un o'r undebau amaethyddol fod gwerthwyr tir nawr yn galw ffermwyr o ddim unman, fel petai—cold calling—mewn ymgais i'w cymell nhw i werthu eu tir i gwmnïau buddsoddi. A allwch chi, Brif Weinidog, roi sicrwydd bod y Llywodraeth yn ystyried bod yr ymgais yma, sy'n gwneud mwy dros elw, a dweud y gwir, na chynaliadwyedd, mewn gwirionedd, yn groes i'n syniad ni yng Nghymru o gynaliadwyedd, yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mai ein nod ni fel cenedl arweiniol yn y maes yma yw cefnogi perchnogaeth a rheolaeth leol o fesurau i helpu cynlluniau o ran yr hinsawdd, fel rŷm ni'n bwriadu gwneud, wrth gwrs, o ran generadu ynni adnewyddol i'r un graddau?
Wel, Llywydd, mae'r Gweinidog, Julie James, a'r Gweinidog, Lesley Griffiths, wedi cwrdd gyda'r undebau i drafod beth rŷm ni'n clywed sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd. Y peth pwysig i ni yw i gasglu'r wybodaeth, i fod yn glir am y sefyllfa a beth sydd yn digwydd yn y maes. A dweud y gwir, dŷn ni ddim cweit yn siŵr eto beth yn union sydd yn mynd ymlaen, ond rŷn ni eisiau cydweithio gyda'r undebau a phobl eraill i gasglu'r wybodaeth. Rŷn ni wedi dod â grŵp o bobl gyda'i gilydd i'n helpu ni, ac mae hwnna yn cynrychioli pobl sy'n gweithio yn y maes, i feddwl am sut y gallwn ni dynnu buddsoddiadau i mewn i'r maes. Bydd rhaid inni wneud hynny, ond ei wneud e mewn ffordd sy'n mynd gydag ein polisïau ni, nid yn erbyn nhw, ac wrth gwrs, rŷm ni'n ymwybodol i'w wneud e fel yna. Rŷn ni eisiau ei wneud e drwy weithio gyda chymunedau lleol, i fod yn glir am berchnogaeth y tir yma yng Nghymru, ond hefyd, ble gallwn ni—. Ac mae'n bwysig inni ei wneud e; gallwn ni ddim dod at ein huchelgais yn y maes hwn heb dynnu pobl eraill ac arian arall i mewn i'r sector. Dyna beth rŷn ni eisiau trafod gyda'r bobl, i gynllunio gyda nhw, ac fel dywedais i, i dynnu at ei gilydd y wybodaeth, y wybodaeth go iawn am beth sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd.
Rydym ni hyd yn oed wedi clywed yn ddiweddar rhai Ceidwadwyr yn y Senedd hon yn codi eu lleisiau yn erbyn corfforaethau rhyngwladol yn prynu tir amaethyddol Cymru. Mae'n wych gweld y Torïaid yn cael tröedigaeth hwyr yn erbyn gweithrediad anghyfyngedig y farchnad rydd, ac rwy'n credu bod angen ychydig o undod ar fyd amaeth Cymru, sydd o dan yr holl bwysau hyn ar hyn o bryd. Ond mae'r ymgais ehangach i gyflwyno'r blaid Dorïaidd fel un sy'n amddiffyn ffermio Cymru yn anodd ei lyncu i lawer o ffermwyr. Pan gawson nhw addewid ym maniffesto 2019 y byddai'r Ceidwadwyr yn sicrhau cyllideb flynyddol ffermwyr ym mhob blwyddyn y Senedd nesaf, beth ydym ni wedi ei gael ond y gwrthwyneb: yr addewid o doriad bob blwyddyn yn yr adolygiad cynhwysfawr hwn o wariant? Cymaint felly, mewn gwirionedd, fel y mae Undeb Amaethwyr Cymru yn ei nodi, erbyn 2025, mae'n mynd i fod yn—[Torri ar draws.] —mae dyraniad amaethyddiaeth Cymru yn mynd i fod £248 miliwn yn llai. Rwyf i'n llwyr o blaid dod o hyd i dir cyffredin, ond gadewch i ni fod yn eglur pwy yw'r gelyn cyffredin: Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi bradychu ffermwyr a ffermio yng Nghymru dro ar ôl tro.
Wel, Llywydd, cafodd arweinydd Plaid Cymru gyfle i fynd i Lanelwedd heddiw. Treuliais i nos Wener yng nghwmni Clwb Cinio Caerfyrddin, a noson braf iawn oedd hi hefyd. Roedd pawb o fy nghwmpas yn bobl sy'n gweithio yn y diwydiant ffermio, a'r hyn a ddywedodd Adam Price oedd yr hyn a gafodd ei adlewyrchu i mi yn sicr. Dyma bobl sy'n teimlo eu bod wedi eu siomi yn fawr iawn gan yr addewidion a gafodd eu gwneud iddyn nhw—[Torri ar draws.] Gallaf sicrhau'r Aelod nad oedd sôn am barthau perygl nitradau wrthyf i unwaith, ond yr hyn a gafodd ei grybwyll i mi dro ar ôl tro oedd yr addewidion yr oedden nhw o'r farn y cafodd eu gwneud iddyn nhw yn y cyfnod cyn y refferendwm yn 2016. Roedd digonedd o bobl ar y meinciau yna yn barod iawn i wneud yr addewidion hynny yn y dyddiau hynny. Rydych chi'n eu cofio nhw: 'Dim ceiniog yn llai', 'Sicrwydd pendant'—£137 miliwn yn cael ei gymryd oddi ar economi wledig Cymru gan eich plaid chi eleni yn unig, a rhagor o doriadau i ddod bob blwyddyn, bob un blwyddyn, o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Ble oedd y 'sicrwydd pendant' o 'ddim ceiniog yn llai' a glywodd y bobl hynny gennych chi bryd hynny? Nid oes dim rhyfedd—. Nid oes dim rhyfedd, dim rhyfedd—[Torri ar draws.] yn fy marn i—[Torri ar draws.] Allaf i ddim clywed yr Aelod, Llywydd, ond mae'n ymddangos ei fod yn dynwared plismon traffig. Efallai fod hwn yn uchelgais arall ar y meinciau yna.
Yr hyn yr wyf i'n cyfeirio ato, Llywydd, yw'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, y dicter sy'n cael ei deimlo—[Torri ar draws.]—y dicter sy'n cael ei deimlo mewn cymunedau gwledig ynglyn â'r addewidion a gafodd eu gwneud iddyn nhw a'r ffordd y maen nhw wedi eu siomi byth ers hynny—cymryd arian oddi wrthyn nhw; taro cytundebau masnach mewn rhannau eraill o'r byd heb unrhyw ystyriaeth o gwbl o'r effaith y byddan nhw'n ei chael ar yr economi wledig yma yng Nghymru. Nid oes dim rhyfedd—[Torri ar draws.]—nodd oes dim rhyfedd, pan fyddwch chi'n cyfarfod â phobl o'r cymunedau hynny, eu bod nhw'n mynd allan o'u ffordd i ddweud wrthych chi am eu dicter a'u siom yn y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru.