Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 30 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:00, 30 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym ni hyd yn oed wedi clywed yn ddiweddar rhai Ceidwadwyr yn y Senedd hon yn codi eu lleisiau yn erbyn corfforaethau rhyngwladol yn prynu tir amaethyddol Cymru. Mae'n wych gweld y Torïaid yn cael tröedigaeth hwyr yn erbyn gweithrediad anghyfyngedig y farchnad rydd, ac rwy'n credu bod angen ychydig o undod ar fyd amaeth Cymru, sydd o dan yr holl bwysau hyn ar hyn o bryd. Ond mae'r ymgais ehangach i gyflwyno'r blaid Dorïaidd fel un sy'n amddiffyn ffermio Cymru yn anodd ei lyncu i lawer o ffermwyr. Pan gawson nhw addewid ym maniffesto 2019 y byddai'r Ceidwadwyr yn sicrhau cyllideb flynyddol ffermwyr ym mhob blwyddyn y Senedd nesaf, beth ydym ni wedi ei gael ond y gwrthwyneb: yr addewid o doriad bob blwyddyn yn yr adolygiad cynhwysfawr hwn o wariant? Cymaint felly, mewn gwirionedd, fel y mae Undeb Amaethwyr Cymru yn ei nodi, erbyn 2025, mae'n mynd i fod yn—[Torri ar draws.] —mae dyraniad amaethyddiaeth Cymru yn mynd i fod £248 miliwn yn llai. Rwyf i'n llwyr o blaid dod o hyd i dir cyffredin, ond gadewch i ni fod yn eglur pwy yw'r gelyn cyffredin: Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi bradychu ffermwyr a ffermio yng Nghymru dro ar ôl tro.