Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies am hynna. Rwyf i, fel yntau, yn edrych ymlaen at fod gyda busnesau bach ddydd Sadwrn nesaf—Dydd Sadwrn Busnesau Bach—a chael siarad â busnesau am y cymorth y maen nhw eisoes wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru a'r cymorth newydd y cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yr wythnos diwethaf. Diben y cymorth hwnnw, Llywydd, yw helpu'r busnesau hynny i ail-fuddsoddi i greu'r amodau lle byddan nhw, ar ôl y pandemig, yn gallu datblygu a thyfu. Ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae'n bartneriaeth allweddol â'n hawdurdodau lleol sydd yno ar lawr gwlad—rwy'n falch iawn o weld bod Pen-y-bont ar Ogwr dan arweiniad Llafur wedi hysbysebu'r cynllun grant newydd ar eu gwefan yn syth ar ôl ei gyhoeddi ac wedi tynnu sylw at bwyslais penodol y cynllun ar greu cadwyni cyflenwi newydd a lleol fel y gall busnesau bach atgyfnerthu ei gilydd a helpu ei gilydd ar y llwybr hwnnw at adferiad.
Ochr yn ochr â hynny i gyd, Llywydd, rydym ni'n parhau i wneud y pethau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i wneud yn siŵr ein bod ni'n cefnogi adferiad economaidd yma yng Nghymru, boed hynny drwy'r warant i bobl ifanc—ac rydym ni'n gwybod mai llawer o fusnesau bach yw'r lle cyntaf y gall person ifanc gael ei droed ar yr ysgol i gyflogaeth—neu'r buddsoddiad parhaus yr ydym ni'n ei wneud yn yr economi sylfaenol yma yng Nghymru. Y busnesau hynny sydd yno ddydd ar ôl dydd, blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ein strydoedd mawr ac sy'n darparu nid yn unig cyflogaeth werthfawr a chyfleoedd economaidd pwysig iawn, ond, fel yr ydym ni wedi ei glywed yn aml yma yn y Siambr, yn rhoi i'r trefi a'r ardaloedd hynny eu cymeriad, yn eu gwneud yn lleoedd lle mae pobl eisiau mynd ac eisiau bod. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn, fel y gwn y mae Huw Irranca-Davies, i fod allan yno ddydd Sadwrn i gefnogi'r agenda gyfan honno.