1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2021.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau bach i dyfu yn Ogwr? OQ57300
Llywydd, fel conglfaen cymunedau ledled Cymru, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo yn llwyr i gefnogi busnesau bach yn Ogwr a phob rhan o Gymru i ffynnu, i gynnal ac i dyfu drwy wasanaethau allweddol, gan gynnwys Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Dros y mis cyfan hwn, yn y cyfnod cyn Dydd Sadwrn Busnesau Bach, rwyf i a fy nghyd-Aelod da Chris Elmore AS wedi bod yn arddangos dwsinau ar ddwsinau ar ddwsinau o fusnesau anhygoel ac amrywiol ym meysydd gweithgynhyrchu, adeiladu, gwasanaethau proffesiynol, manwerthwyr ar y stryd fawr a mwy ar hyd a lled etholaeth Ogwr. Rydym ni wedi bod yn annog pobl i ddefnyddio'r busnesau lleol hyn yn y cyfnod cyn y Nadolig, ond hefyd drwy gydol y flwyddyn, boed hynny i brynu'r cinio Nadolig blynyddol neu'n paratoi'r ffurflen dreth flynyddol neu'n adeiladu'r estyniad newydd hwnnw hefyd. Felly, Prif Weinidog, os ydym ni'n mynd i adeiladu'r Gymru gryfach, wyrddach a thecach hon, mae'n bwysig bod busnesau bach yn chwarae eu rhan hefyd ac yn cael eu cefnogi i wneud hynny, felly mae'r cyllid a gyhoeddodd Gweinidog yr economi yr wythnos diwethaf ar gyfer ein busnesau bach i'w helpu i ddatblygu, datgarboneiddio a thyfu yn bwysig iawn. Pa asesiad ydych chi wedi ei gynnal o'r effaith y bydd y gronfa £45 miliwn hon yn ei chael ar fusnesau bach yng Nghymru ac o ran hybu ein hadferiad economaidd gwyrddach a thecach?
Rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies am hynna. Rwyf i, fel yntau, yn edrych ymlaen at fod gyda busnesau bach ddydd Sadwrn nesaf—Dydd Sadwrn Busnesau Bach—a chael siarad â busnesau am y cymorth y maen nhw eisoes wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru a'r cymorth newydd y cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yr wythnos diwethaf. Diben y cymorth hwnnw, Llywydd, yw helpu'r busnesau hynny i ail-fuddsoddi i greu'r amodau lle byddan nhw, ar ôl y pandemig, yn gallu datblygu a thyfu. Ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae'n bartneriaeth allweddol â'n hawdurdodau lleol sydd yno ar lawr gwlad—rwy'n falch iawn o weld bod Pen-y-bont ar Ogwr dan arweiniad Llafur wedi hysbysebu'r cynllun grant newydd ar eu gwefan yn syth ar ôl ei gyhoeddi ac wedi tynnu sylw at bwyslais penodol y cynllun ar greu cadwyni cyflenwi newydd a lleol fel y gall busnesau bach atgyfnerthu ei gilydd a helpu ei gilydd ar y llwybr hwnnw at adferiad.
Ochr yn ochr â hynny i gyd, Llywydd, rydym ni'n parhau i wneud y pethau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i wneud yn siŵr ein bod ni'n cefnogi adferiad economaidd yma yng Nghymru, boed hynny drwy'r warant i bobl ifanc—ac rydym ni'n gwybod mai llawer o fusnesau bach yw'r lle cyntaf y gall person ifanc gael ei droed ar yr ysgol i gyflogaeth—neu'r buddsoddiad parhaus yr ydym ni'n ei wneud yn yr economi sylfaenol yma yng Nghymru. Y busnesau hynny sydd yno ddydd ar ôl dydd, blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ein strydoedd mawr ac sy'n darparu nid yn unig cyflogaeth werthfawr a chyfleoedd economaidd pwysig iawn, ond, fel yr ydym ni wedi ei glywed yn aml yma yn y Siambr, yn rhoi i'r trefi a'r ardaloedd hynny eu cymeriad, yn eu gwneud yn lleoedd lle mae pobl eisiau mynd ac eisiau bod. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn, fel y gwn y mae Huw Irranca-Davies, i fod allan yno ddydd Sadwrn i gefnogi'r agenda gyfan honno.
Prif Weinidog, wrth i ni edrych ymlaen at ddydd Sadwrn Busnesau Bach, fel yr ydych chi wedi ei wneud, hoffwn i gydnabod hefyd ddyfalbarhad anhygoel busnesau bach yma yng Nghymru, yn enwedig yn fy rhanbarth i, sef Gorllewin De Cymru. Mae'r cwmnïau hyn, lle mae llawer ohonyn nhw'n wedi eu rhedeg gan deuluoedd, yn gwneud tua £46 biliwn bob blwyddyn, sy'n fwy na dwywaith holl gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â darparu 62.5 y cant o'r holl gyflogaeth yng Nghymru, mae busnesau bach hefyd yn ail-fuddsoddi cyfradd uwch o'r refeniw yn ôl yn yr economi leol, sy'n hybu ffyniant cyffredinol ardal. Felly, gyda hynny mewn golwg, rwy'n credu ei bod hi'n destun siom gweld cwmnïau o Gymru yn dal i dalu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain Fawr gyfan, gan fod Cymru yn defnyddio lluosydd uwch ar werth ardrethol na Lloegr neu'r Alban. Sut yn y byd y mae gadael cwmnïau o Gymru o dan anfantais gystadleuol â'u cymheiriaid yn y DU yn cyd-fynd ag ysbryd Dydd Sadwrn Busnesau Bach?
Ar adeg pan fo'n busnesau bach a'n strydoedd mawr yn ceisio adfer ar ôl y pandemig ac mae llawer yn wynebu mwy o gystadleuaeth gan fanwerthwyr ar-lein hefyd, ni allwn fforddio gwasgu cwmnïau bach a theuluol gyda threthi uwch. Felly, er bod y cymorth COVID dros dro gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu, yn ôl ei union natur, mae dros dro. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau baich ardrethi busnes ar fusnesau bach yng Nghymru i ganiatáu iddyn nhw ffynnu?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod. Cymru sydd â'r cynllun cymorth ardrethi busnes mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac nid dim ond ar hyn o bryd y mae hynny, pan fo busnesau Cymru wedi cael sicrwydd o flwyddyn o wyliau o ardrethi busnes o'i chymharu â'r chwe mis y cawson nhw ei gynnig yn Lloegr, ond mae hynny ar unrhyw adeg—nid yw 70 y cant o fusnesau bach yng Nghymru yn talu ardrethi busnes o gwbl. Ac rydym ni wedi ymrwymo—ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog cyllid eisoes wedi gwneud hyn yn eglur—i ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr, nid y mynegai prisiau manwerthu, fel y ffordd y byddwn ni'n pennu ardrethi busnes yn y dyfodol, a bydd hynny yn arwain at ddegau lawer o filiynau o bunnoedd o ryddhad i fusnesau bach yma yng Nghymru.
Yr hyn y gwnaf i gytuno ag ef o'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, Llywydd, o ran ei ymadrodd, yw 'dyfalbarhad anhygoel' busnesau bach a'r camau y maen nhw wedi eu cymryd i ymdrin â'r pandemig. Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cyn mynd i Gaerfyrddin, bues i yn Llanelli, Llywydd, ac ymwelais â Jenkins Bakery yno i helpu i ddathlu eu canmlwyddiant; mae'n gwmni a gafodd ei sefydlu union 100 mlynedd yn ôl eleni. Roedd hi'n galonogol iawn clywed gan y cwmni am y ffordd yr oedden nhw, er gwaethaf yr heriau gwirioneddol iddyn nhw eu hwynebu ar anterth y pandemig a'r penderfyniadau anodd y bu'n rhaid iddyn nhw eu gwneud i gadw eu busnes yn fyw, bellach yn ail-fuddsoddi, yn ail-gyflogi, yn gwneud dyfodol i'r busnes hwnnw er mwyn iddo barhau ymhell i'r ganrif nesaf. Mae hynny yn deyrnged i ddyfalbarhad anhygoel y bobl sy'n rhedeg y cwmni a'r bobl sy'n gweithio iddo, ac rwy'n eithaf sicr bod hynny yn nodweddiadol o'r ffordd y mae cynifer o fusnesau bach yng Nghymru wedi gweithio i ddal ati a dod o hyd i ddyfodol, er gwaethaf yr heriau syfrdanol y bu'n rhaid i ni i gyd eu hwynebu.