Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ffigurau diweddaraf y GIG yn dangos bod gwasanaethau iechyd Cymru yn ei chael hi'n anodd, wrth i amseroedd aros ac amseroedd ymateb ambiwlansys gofnodi eu lefelau gwaethaf erioed yn ddiweddar. Mae is-lywydd Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru, Dr Suresh Pillai, wedi dweud bod 709 o gleifion yng Nghymru yn 2020-21 yn unig wedi marw o ganlyniad uniongyrchol i orlenwi ac arosiadau hir. Dywedodd hefyd,
'Roedd modd atal y marwolaethau hyn; mae'n rhaid i'r llywodraeth, Byrddau ac arweinwyr y GIG ddeall a gweithredu nawr i sicrhau nad yw'r argyfwng presennol yn gwaethygu ac yn arwain at ragor o farwolaethau y byddai modd eu hosgoi.'
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â sylwadau Dr Pillai y gellid atal y marwolaethau hyn?