Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr am y cwestiwn, wrth gwrs, a diolch i'r Aelod am beth ddywedodd hi am y cytundeb. A nawr mae cyfleon gyda ni i gymryd camau pellach, drwy ymestyn prydau ysgol am ddim ac ymestyn darpariaeth gofal plant. Bydd y Llywodraeth yn canolbwyntio ar beth sydd yn y cytundeb, achos mae hwnna'n heriol ac uchelgeisiol, ond nawr rŷn ni'n gallu cydweithio i wneud beth mae'r cytundeb yn ei ddweud. Bydd popeth rydyn ni'n mynd i'w wneud yn gallu gwneud mwy i amddiffyn ein plant rhag tlodi. Wrth gwrs, mae mwy o bethau yn y dyfodol rydym yn gallu meddwl amdanynt, ac roedd nifer o bwyntiau pwysig gan yr Aelod. Ond i ni, fel Llywodraeth, y peth pwysig i ni yw i ganolbwyntio ar y pethau sydd yn y cytundeb ac i fwrw ymlaen i roi popeth ar waith.