Bwyd Lleol ar gyfer Prydau Ysgol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 30 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:14, 30 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynny, Llywydd. Rydym ni wedi ymrwymo i gynyddu cyfran y bwyd sydd wedi ei dyfu yn lleol sydd mewn prydau ysgol, a fydd o fudd i economïau lleol drwy gaffael a chadwyni cyflenwi cynaliadwy a chyfrifol. Er enghraifft, cafodd estyniad i'r prosiect Bocs Bwyd Mawr llwyddiannus ei gynnwys yn y cyhoeddiad y mis hwn o'n cronfa cymorth i aelwydydd newydd.