1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2021.
5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu faint o fwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol a ddefnyddir mewn prydau ysgol? OQ57302
Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am hynny, Llywydd. Rydym ni wedi ymrwymo i gynyddu cyfran y bwyd sydd wedi ei dyfu yn lleol sydd mewn prydau ysgol, a fydd o fudd i economïau lleol drwy gaffael a chadwyni cyflenwi cynaliadwy a chyfrifol. Er enghraifft, cafodd estyniad i'r prosiect Bocs Bwyd Mawr llwyddiannus ei gynnwys yn y cyhoeddiad y mis hwn o'n cronfa cymorth i aelwydydd newydd.
Prif Weinidog, byddwch chi'n ymwybodol fy mod i'n un o gefnogwyr mwyaf yr ymrwymiad pwysig iawn i sicrhau y bydd pob plentyn ysgol gynradd yn cael pryd ysgol am ddim yn y dyfodol, ond rwy'n gwbl ymwybodol o'r heriau sy'n gysylltiedig â hynny—cael y personél cywir sy'n gwybod sut i goginio, yn ogystal â sicrhau ei fod yn fforddiadwy yn y tymor hir. Mae'n ymddangos i mi yn hanfodol ein bod ni'n gofyn i'n hawdurdodau lleol egluro faint yn union o dunelli o datws a moron a'r holl bethau eraill sy'n mynd i mewn i fwyd i blant ysgol y bydd eu hangen arnyn nhw yn y dyfodol, er mwyn i ni allu cael ein ffermwyr i dyfu'r pethau hynny yn hytrach na gorfod cael gafael arnyn nhw o rywle arall, oherwydd wedyn rydym ni'n rhoi maeth i'n plant yn ogystal â meithrin ein heconomi leol. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa sgyrsiau sydd wedi digwydd gydag awdurdodau addysg lleol ar sut i ddechrau cynllunio'r mater pwysig hwn o ddifrif.
Rwy'n diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig iawn yna, ac am ei chefnogaeth gref iawn i brydau ysgol yn gyffredinol, ond hefyd i ansawdd a natur y prydau hynny. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn ymwybodol o brosiect cronfa her Cyngor Sir Gaerfyrddin, y gwnaethom ei ariannu drwy'r gronfa economi sylfaenol—prosiect gwirioneddol ragorol wedi ei arwain gan yr awdurdod lleol mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd lleol a'r brifysgol leol. Tynnodd sylw at nifer o gyfleoedd pwysig iawn, ond amlygodd hefyd rai o'r heriau ymarferol gwirioneddol, y mae Jenny Rathbone newydd dynnu sylw atyn nhw—problemau llunio bwydlenni, ceginau cyhoeddus, a diffyg capasiti prosesu. Felly, llaeth o Gymru yw'r holl laeth a ddefnyddir mewn ysgolion yn sir Gaerfyrddin, ond mae'n rhaid mynd â rhywfaint o'r llaeth hwnnw, nid yn unig y tu allan i'r sir, ond weithiau y tu allan i'r wlad, er mwyn ei brosesu a'i botelu. Mae'r awdurdod lleol wedi ymrwymo i wneud rhywfaint o waith i weld pa un a ellid ail-greu capasiti prosesu, ar sail gydweithredol, yn y sir. Ac roedd yr angen i ddatblygu sector garddwriaeth Cymru, y mae'r Aelod wedi sôn amdano yn aml ar lawr y Senedd, yn un o'r gwersi a gafodd eu dysgu o brofiad y gronfa her hefyd.
Felly, mae llawer o waith wedi ei wneud, Llywydd, i nodi'r problemau y mae angen eu datrys os ydym ni am wneud yn siŵr bod y gwaith o ehangu prydau ysgol am ddim yn cael ei ategu gan gynnydd i gapasiti cyflenwyr cynhenid Cymru i fod yn rhan o hynny i gyd wedyn. Mae cyngor Caerffili yn arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran bwyd yn y sector cyhoeddus, ac rwy'n gwybod ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol iawn ar hyn o bryd, er enghraifft, â Castell Howell, i weld lle ceir cyfleoedd i ddisodli rhai o'r cyflenwyr sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd â chyflenwyr o Gymru, nid yn unig o ran prydau ysgol, ond yn y sector bwyd cyhoeddus ehangach. Ceir cyfleoedd gwirioneddol yno, ond rhai problemau ymarferol, dilys iawn y bydd yn rhaid eu datrys os yw'r cyfleoedd hynny am gael eu gwireddu yn briodol.