Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 30 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:53, 30 Tachwedd 2021

Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y gwyddoch, Brif Weinidog, mae'r ffair aeaf yn digwydd yn Llanelwedd ar hyn o bryd. Y bore yma, fe fûm yno yn gynnar iawn. Roedd e'n gyfle gwych i gael cyfarfod yn uniongyrchol gydag amaethwyr a gyda chynrychiolwyr y gymuned. Y neges yn glir roeddwn i'n gael o sector sydd yn wynebu cymaint o bwysau o wahanol gyfeiriadau oedd bod angen sefydlogrwydd ar y diwydiant yn y cyfnod hynod heriol yma. A fyddech chi, Brif Weinidog, yn ategu y neges hynny, ac ydych chi'n cytuno gyda ni ym Mhlaid Cymru, er mwyn galluogi ffermydd i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol, a chwarae eu rhan nhw yn gwireddu cyfraniad Cymru fel gwlad i ddelio â'r argyfwng hinsawdd, er enghraifft, bod angen i ffermwyr hefyd gael cynaliadwyedd economaidd?