Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ein bod ni wedi gweithio'n agos iawn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Yn sicr, mae llawer o wasanaethau na fydden nhw wedi eu darparu oni bai am eu gwaith. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw newidiadau i'r gronfa caledi ar hyn o bryd. Efallai y bydd yn rhan o'n cyllideb ddrafft, ond, os na, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni.