Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae ein pwyllgor ni wedi cytuno mai craffu ar bolisïau a chamau gweithredu i roi terfyn ar ddigartrefedd yw un o'n prif flaenoriaethau ni yn ystod tymor y Senedd hwn. Yn wir, croesawodd y pwyllgor blaenorol, yr oeddwn i'n ei gadeirio hefyd, y camau a gafodd eu cymryd ar ddechrau'r pandemig i roi llety dros dro i bobl a oedd yn cysgu ar y stryd a phobl ddigartref eraill. Ers hynny, mae llawer iawn o bobl sy'n ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref wedi bod yn cyflwyno'u hunain i'r awdurdodau lleol bob mis ac wedi cael llety dros dro. Mae nifer sylweddol o'r bobl hynny hefyd yn cael lle mewn llety parhaol hirdymor. Felly, mae llawer o waith da wedi ei wneud ac yn cael ei wneud, ond wrth gwrs mae hi'n hanfodol nad yw'r cynnydd a fu drwy gydol y pandemig yn cael ei golli, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o hynny. Rydym ni'n gweld nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn cynyddu eisoes, sy'n peri gofid mawr.
Yr wythnos hon, bydd ein pwyllgor yn clywed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynglŷn â'i adroddiad, 'Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol'. Rwy'n siŵr, yn dilyn y sesiwn honno, ac yn wir, datganiad y Gweinidog a'r drafodaeth hon heddiw, y bydd ein pwyllgor yn penderfynu ar ei gamau nesaf o ran parhau â'n gwaith craffu. Felly, mae datganiad y Gweinidog heddiw yn amserol iawn yn ein golwg ni, ac wrth gwrs mae'n amserol iawn o ran y bygythiad i bobl ddigartref yng Nghymru, o gofio ein bod ni wedi gweld y tymheredd yn gostwng yn sydyn a thywydd mawr. Dros yr wythnos ddiwethaf, rwy'n credu bod hynny wedi gwneud i bobl feddwl yn fwy byth am yr hyn y gellir ei wneud i helpu pobl sy'n wynebu'r sefyllfa enbyd honno o gysgu ar y strydoedd. Yn amlwg, mae gwir angen symud ar frys os ydym ni am sefydlu mannau diogel i bobl fyw oddi ar y strydoedd y gaeaf hwn.
Felly, hoffwn i ofyn i'r Gweinidog pa gamau penodol y byddwn ni'n eu cymryd y gaeaf hwn yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol—y cynnydd a wnaed, ond yr heriau parhaus—i helpu pobl a'u hatal nhw rhag bod yn cysgu ar y stryd a'u helpu nhw oddi ar y strydoedd. Hefyd, mae'r cynllun gweithredu yn nodi'r angen am ddiwygio deddfwriaethol eang, a tybed a allai'r Gweinidog roi amcan o ba bryd y mae hi'n gobeithio y gallai'r ddeddfwriaeth hon gael ei chyflwyno gerbron y Senedd. Diolch yn fawr.