Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch, Gweinidog, am ddod â'r datganiad heddiw i'r fan hon yn y Siambr heddiw. Yn sicr, rwyf i'n sicr yn croesawu'r cymhellion y tu ôl i'r cynllun gweithredu—mae'r awydd i fynd i'r afael â digartrefedd cyn gynted â phosibl yn sicr yn rhywbeth yr wyf i'n siŵr y byddem ni i gyd yn awyddus i'w gefnogi. Yn benodol, roeddwn i'n falch o glywed sôn o fewn y camau a nodwyd yn y datganiad am y cyfle i fod â'r tenantiaethau hirach hynny, yn enwedig, fel y gwnaethoch chi sôn, gyda landlordiaid y sector preifat y gellid gweithio yn agosach gyda nhw, a fyddai mewn gwirionedd yn cefnogi'r landlordiaid a'r rhai y mae angen y lleoedd hynny arnyn nhw.
Hoffwn i ganolbwyntio yn fyr ar ran o'ch datganiad chi, ac rwy'n dyfynnu, gan ddweud:
'Nid mater o dai yn unig yw hwn. Mae'r cyfrifoldeb dros roi terfyn ar ddigartrefedd yn ymestyn y tu hwnt i'r timau a'r adrannau pwrpasol ar gyfer digartrefedd a thai. Mae'n rhaid i hyn fod wedi ei seilio ar ymateb gan y gwasanaethau cyhoeddus i gyd ac felly y bydd hi.'
Ac rydych chi'n mynd ymlaen i ddweud:
'Mae hyn yn gwneud rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn flaenoriaeth draws-sector, draws-Lywodraeth sy'n berthnasol i iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg'— ac yn y blaen, ac yn y blaen. Ac rwy'n cytuno â hynny yn llwyr. Felly, gyda hynny mewn golwg, Gweinidog, o'r 16 o gamau gweithredu lefel uchel yn y cynllun gweithredu, pa rai o'r rhain, yn eich barn chi, a fydd yn gwneud y gwaith gorau o ran sicrhau na fydd y meysydd eraill o gyfrifoldeb, o wasanaeth cyhoeddus, yn dirywio'r sefyllfa ymhellach o ran rhai o'r materion yr ydym ni'n eu gweld ynglŷn â digartrefedd?