Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch am y diweddariad heddiw. Mae hon yn dro arall, onid ydy, yng nghynffon y pandemig yma, ac fel y clywsom ni rŵan, mae o'n ddatblygiad sydd yn sicr angen ei gymryd o ddifrif. Mae o'n bryder bod yna dystiolaeth ei fod o'n gallu ailheintio pobl sydd wedi cael COVID-19 yn barod neu sydd wedi derbyn brechiad dwbl, fel y clywsom ni, ond maen nhw'n ddyddiau cynnar, wrth gwrs, ac mae'n bwysig cofio hynny. Mae yna lawer o waith dysgu i'w wneud.
Rhyw hanner dwsin o gwestiynau, dwi'n meddwl, sydd gennyf fi, rhag ofn eich bod chi eisiau eu nodi nhw. Yn gyntaf, cwestiwn cwbl ymarferol: allwn ni gael cadarnhad bod y labordai sy'n gwneud y bulk o waith profi yng Nghymru yn gallu adnabod yr amrywiolyn yma fel ein bod ni yn cael rhybudd cynnar iawn o'r sefyllfa yma?
Ac yn ail, rhywbeth dwi'n gwybod mae un cartref gofal yn fy etholaeth i yn eiddgar i wybod: ydyn ni'n gwybod bellach ydy profion llif unffordd yn gallu adnabod yr amrywiolyn yma? Mae'n amlwg pam eu bod nhw'n bryderus. Maen nhw, gyda llaw, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn holi ynglŷn â chefnogaeth i gyflwyno peiriannau profi PCR o fewn 90 munud, a dwi'n edrych ymlaen i weld yr ymateb ar hynny.
Mae'n rhyfeddol, dwi'n meddwl, bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cais i weithio ar sail pedair cenedl wrth ymateb i'r amrywiolyn yma. Mae yna benderfyniadau, wrth gwrs, sydd wedi gorfod digwydd yn gyffredin ar draws y pedair cenedl, dros deithio rhyngwladol, er enghraifft. Dwi'n cyd-fynd yn sicr efo'r penderfyniad i'w gwneud hi'n angenrheidiol i wisgo mygydau.
Wedyn, mewn ysgolion yng Nghymru, rhywbeth sydd wedi cael ei benderfynu yma yng Nghymru o ran ysgolion uwchradd a cholegau, un cwestiwn penodol: a allaf i gael sicrwydd ydy'r gofyniad yna ar gyfer gwisgo gorchudd wyneb mewn ysgolion a cholegau yn ofyniad cyfreithiol? Roedd yna rywfaint o ansicrwydd wedi cael ei godi efo fi ynglŷn â hynny.
Mae'r Llywodraeth yn iawn i newid y rheolau hunanynysu, i dynhau y rheolau hunanynysu eto, ond, un cwestiwn penodol arall, pa gymorth ychwanegol, yn ariannol neu fel arall, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o'i gynnig i bobl i sicrhau eu bod nhw yn gallu ynysu yn effeithiol? Mae hwn yn gwestiwn rydyn ni wedi ei ofyn droeon dros y flwyddyn a thri chwarter ddiwethaf. Mae'n ymddangos ei fod o'n codi o bosib fel cwestiwn pwysig eto.
Yn symud at gyngor newydd y JCVI, oes, yn sicr, mae angen cyflymu ac ehangu'r broses frechu. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael awgrym gan y Gweinidog o ba mor benderfynol y mae hi i godi gêr o ran y broses frechu rŵan mewn ymateb i'r cyngor yna. Gaf i ofyn beth ydy'r adnoddau ychwanegol fydd ar gael i wneud hynny, yn adnoddau ariannol ac fel arall?
A thema dwi'n dychwelyd ati hi eto: a gawn ni raglen gyfathrebu glir iawn fel bod pobl yn cael syniad clir o bryd maen nhw'n debyg o dderbyn eu brechiad, a beth i'w wneud wedyn os ydyn nhw ddim wedi cael gwahoddiad pan ddylen nhw? Dwi'n derbyn yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei ddweud, bod angen mynd drwy bobl yn nhrefn blaenoriaeth, ond mae pobl yn eiddgar i gael y brechiad ac angen gwybod pa bryd mae eu tro nhw'n debyg o ddod. Ac os oes yna rywbeth wedi mynd o'i le, mae'n iawn eu bod nhw'n gwybod i godi'r ffôn neu gysylltu ym mha bynnag ffordd i ddweud, 'Rydych chi wedi methu fi.' Mae hynny, dwi'n meddwl, yn rhan bwysig o'r broses.
Yn olaf, buaswn i'n licio tynnu sylw'r Gweinidog at bryderon difrifol sydd wedi cael eu codi'r prynhawn yma am lesiant corfforol a meddyliol chwaraewyr a staff clwb Rygbi Caerdydd—y pryderon yna'n cael eu codi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ohebydd chwaraeon ITV Cymru, Beth Fisher, oedd yn adrodd am bryderon difrifol i'r tîm, wrth gwrs, sydd dal allan yn Ne Affrica. Wrth gwrs, maen nhw eisiau dod adre, ac wrth gwrs, byddai'n rhaid rhoi cyfundrefn brofi a chwarantîn ac ati mewn lle iddyn nhw allu dod adre, ond, a all y Gweinidog ddweud beth mae hi yn ei wneud i hwyluso eu dychweliad nhw i Gymru mor fuan ag sydd yn bosibl?