Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 30 Tachwedd 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fras y datganiad gan y Llywodraeth heddiw. Yn gyffredinol, mae pobl yng Nghymru yn byw'n hirach; amcangyfrifir y gallai chwarter y boblogaeth fod dros 65 oed mewn 20 mlynedd. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae cyhoeddi strategaeth sy'n gwneud bywyd yn haws i bobl hŷn yn rhywbeth y dylai unrhyw lywodraeth gyfrifol fod yn ei wneud, o ochr ymarferol pethau. Fodd bynnag, nid yw gofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed yn ymarferol yn unig; mae hefyd yn beth moesol i'w wneud. Mae gennym ni ddyletswydd i ofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac mae rhai o'n pobl oedrannus ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed.
Yr wythnos diwethaf, cawsom ni Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, felly mae'r strategaeth hon yn eithaf amserol. Mae Confensiwn Cenedlaethol Pensiynwyr Cymru yn dweud bod gofalwyr di-dâl hŷn yn aml yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gymorth wrth i wasanaethau gwybodaeth a chyngor barhau i symud ar-lein. Mae perygl gwirioneddol y gallai pobl hŷn gael eu hallgáu'n ddigidol yma ac mewn ffyrdd eraill hefyd. Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau y bydd gwybodaeth ynghylch gwasanaethau a chymorth ar gael yn eang ac yn hygyrch ym mhob fformat? A yw'r Gweinidog yn cytuno y byddai cyfuno gwasanaethau iechyd a gofal yn well yn gwella hygyrchedd gwybodaeth, a bod angen gwneud rhagor o waith i gefnogi gofalwyr di-dâl a sicrhau eu lles corfforol a meddyliol?
Mae'r pandemig hefyd wedi newid y ffordd yr ydym ni'n defnyddio gwasanaethau iechyd. Mae llawer o ymgynghoriadau wedi symud ar-lein, sy'n golygu nad yw llawer o bobl hŷn yn gallu manteisio ar wasanaethau hanfodol oni bai eu bod yn fedrus ym maes technoleg gwybodaeth. Cafodd hyn ei ategu gan arolwg Age Cymru o brofiadau pobl hŷn yng Nghymru yn ystod cyfnod clo COVID-19. Gwnaethon nhw ddarganfod bod gan 40.5 y cant o'r ymatebwyr broblemau o ran cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu, ac ymatebodd 6 y cant na allen nhw fanteisio ar wasanaethau meddygon teulu o gwbl. Rwy'n awyddus i sicrhau nad yw'r bobl hynny nad ydyn nhw ar-lein, am ba reswm bynnag, a'r rhai y mae'n well ganddyn nhw ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn cael eu gadael yn aros yn hir yn y ciw, gan dderbyn gwasanaeth eilradd. A wnaiff y Llywodraeth, felly, weithredu dull cyfunol sy'n cynnig mynediad priodol i'r rhai sydd angen a/neu sy'n well ganddyn nhw ymgynghori wyneb yn wyneb?
Mae wedi hen sefydlu bod rhai pobl sydd â'r Gymraeg fel iaith gyntaf yn colli eu gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Saesneg wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Rwy'n falch bod y strategaeth hon yn cydnabod bod y mater hwn yn bwysig i bob gwasanaeth, ond mae hyn yn arbennig o wir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd gall cyfathrebu aneffeithiol beryglu ansawdd y gofal. A allai'r Gweinidog, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel bresennol y ddarpariaeth Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd a gofal?
A yw'r Llywodraeth yn credu bod digon o staff sy'n siarad Cymraeg yn gweithio ym maes gwasanaethau iechyd a gofal ar hyn o bryd? I grynhoi, er mwyn i'r strategaeth hon fod yn effeithiol, rhaid ei chydblethu drwy'r Llywodraeth gyfan. A fydd pob adran yn ymwneud â chreu cymdeithas sydd o blaid pobl hŷn? A fydd y cynllun hwn, sydd i'w ganmol mewn print, yn cael y gyllideb a'r gefnogaeth angenrheidiol i'w rhoi ar waith? A fydd allbynnau'n cael eu monitro, eu hadolygu, ac yn arwain at newidiadau os bydd eu hangen? Er mwyn pobl hŷn, yr wyf i'n fawr obeithio hynny. Diolch yn fawr.