Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Canfu adroddiad diweddar Sefydliad Bevan ar ddyledion aelwydydd yng Nghymru fod degau o filoedd o bobl ledled y wlad yn byw mewn dyled broblemus ymhell cyn i'r pandemig daro, ond bod effaith economaidd COVID-19 wedi dyfnhau'r argyfwng hwn. Ledled Cymru, roedd 130,000 o aelwydydd—mae hynny yn un ym mhob 10 o holl aelwydydd Cymru—mewn dyled ar ryw fil rhwng Ionawr a Mai 2021. Dros yr un cyfnod, roedd 230,000 o aelwydydd—17 y cant o'r holl aelwydydd yng Nghymru—wedi benthyca arian. Mae hyn wedi arwain at nifer o aelwydydd yng Nghymru yn cael eu gwthio i mewn i dlodi, yn gorfod mynd heb hanfodion bywyd bob dydd, ac yn dioddef o'r straen a'r pryder a achosir gan dlodi a dyled. Does dim dwywaith y bydd y gaeaf hwn yn anodd iawn i gymaint o aelwydydd ledled Cymru.
Mae Llywodraeth y Torïaid yn San Steffan wedi bradychu pobl Cymru. Gwaethygwyd y pwysau ariannol sy'n wynebu teuluoedd mewn sawl achos gan y penderfyniad creulon i dorri'r codiad credyd cynhwysol o £20. Mae'r apêl o sawl cyfeiriad, gan gynnwys o Lywodraeth Cymru, i wyrdroi'r toriad trychinebus hwnnw wedi cwympo ar glustiau byddar. Credwn mai mesur arall y gallai Llywodraeth Cymru bwyso ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i'w weithredu fyddai ymestyn y cynllun rhyddhad dyletswydd tanwydd gwledig i Gymru. Mae'r cynllun yn darparu gostyngiad o 5c y litr i werthwyr tanwydd mewn ardaloedd gwledig penodol, ond does yr un ohonynt yng Nghymru ar hyn o bryd. Byddai hyn yn sicrhau nad yw pobl mewn ardaloedd gwledig yn cael eu gorfodi i ysgwyddo cyfran annheg o gostau tanwydd uwch. Yn y tymor hir, wrth gwrs, mae'n rhaid buddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddyled ledled Cymru yw'r rhai sydd eisoes yn wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, wrth gwrs, fel rhentwyr, pobl anabl, plant, rhieni sengl, menywod, pobl hŷn, pobl sy'n gadael gofal, ac aelwydydd sy'n dod o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Dylai pob un ohonom ni wybod, yn sgil y ffaith inni nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl â thrafodaeth yn y Siambr hon ddoe, fod pobl anabl yn wynebu costau ychwanegol yn eu bywydau bob dydd o dros £500 y mis. Nid yw'n syndod felly fod pobl anabl wedi bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn ôl-ddyledion dros y pandemig. Roedd 20 y cant o bobl anabl yng Nghymru mewn ôl-ddyledion yn hanner cyntaf eleni, a bu'n rhaid i bron i chwarter o bobl anabl fenthyca arian i gael dau ben llinyn ynghyd dros yr un cyfnod.
Mae Barnardo's Cymru hefyd wedi tanlinellu'r heriau ariannol sy'n cael eu hwynebu pan fydd ymadawyr gofal yn trosglwyddo i fyw'n annibynnol, oherwydd gall sefydlu eu cartref eu hunain achosi pryder sylweddol i ymadawyr gofal, gyda llawer yn gorfod cymryd benthyciadau diwrnod tâl i dalu dyledion sy'n arwain at gylch dieflig o anawsterau ariannol.