Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Er bod y mesurau cyfyngedig a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i liniaru'r lefel erchyll ac annerbyniol hon o ddyled aelwydydd i'w croesawu, wrth gwrs, teimlwn y gellid gwneud mwy i gefnogi teuluoedd nid yn unig dros y misoedd nesaf ond hefyd yn fwy hirdymor. Mae'r cyhoeddiad diweddar ar y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn golygu y bydd aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio sy'n seiliedig ar brawf modd yn gallu hawlio taliad untro o £100 i ddarparu cymorth tuag at dalu biliau tanwydd gaeaf, y gwyddom y byddant yn uchel iawn. Ond i rai sy'n cael budd-daliadau oedran gweithio yn seiliedig ar brawf modd yn unig y caiff ei roi. Ac mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu nad yw 69 y cant o aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn derbyn y budd-daliadau hynny. Felly, yn amlwg, ni fydd y taliad yn cyrraedd pawb sy'n mynd i fod ei angen. Ac o ran tlodi tanwydd, gwyddom y bydd pethau'n anoddach fyth ar ôl y codiad nesaf i'r cap ar brisiau ynni sydd i ddod i rym o fis Ebrill nesaf.
Mae croeso hefyd wrth gwrs i'r cymorth brys a gyhoeddwyd hefyd, a fydd ar gael o dan y gronfa cymorth dewisol i'r rhai oddi ar y grid mewn ardaloedd gwledig yn bennaf sy'n dibynnu ar nwy petrolewm hylifedig ac olew fel tanwydd. Ond unwaith eto, nid yw'r cymorth brys hwn ond ar gael yn ystod y misoedd oeraf, a byddai cymorth drwy gydol y flwyddyn, yn ôl grwpiau fel National Energy Action, yn fwy effeithiol a theg gan y gallai pobl gael cymorth pryd bynnag y bydd ei angen arnynt a gallent gyllidebu a chynllunio'n well ar gyfer y gaeaf yn hytrach na gorfod aros am fisoedd y gaeaf pan fydd hi eisoes yn oer. Gallent hefyd dalu am danwydd ar adeg pan fo llai o bwysau ar wasanaethau cyflenwi a gwell gwerth am arian y litr, sydd hefyd yn cyd-fynd, wrth gwrs, â'r dulliau ataliol parhaus drwy gydol y flwyddyn a argymhellir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn amlwg, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull trawsadrannol a thrawslywodraethol o fynd i'r afael â'r argyfwng dyled aelwydydd cynyddol sydd ar y gorwel er mwyn sicrhau bod anghenion y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu diwallu. Mae'r rhagolygon yn llwm i ormod o deuluoedd yng Nghymru. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y rhai sydd mewn dyled yn cael eu cefnogi ac na chânt eu gwthio ymhellach i argyfwng ariannol dyfnach a'u gorfodi i wneud penderfyniadau amhosibl sy'n bygwth iechyd a llesiant eu teuluoedd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw er mwyn helpu i gyflawni hynny. Diolch.