– Senedd Cymru am 6:27 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl Aelodau ar ddeiagnosis a thriniaeth canser. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Pawb wedi pleidleisio, felly. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 15 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr ar fusnesau bach. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf—gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 54, neb yn erbyn, neb yn ymatal. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
Y bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM7854 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod dydd Sadwrn busnesau bach sy'n hyrwyddo busnesau bach Cymru.
2. Yn credu mai busnesau bach yw calonnau'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a'u bod yn rhan hanfodol o economi Cymru.
3. Yn annog cymunedau i siopa'n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu, gan greu swyddi i bobl leol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau mewn polisi caffael ar draws y sector cyhoeddus, sy'n seiliedig ar egwyddor lleol yn gyntaf, a fydd yn cynyddu’r lefel caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o'r lefel bresennol o 52 y cant, gan eu helpu i wella o bandemig COVID-19.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn wedi ei ddiwygio.
Dadl y Ceidwadwyr Cymraeg sydd nesaf, ar glefyd niwronau motor. Dwi'n galw am bleidlais felly ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Ac felly does yna ddim rhagor o bleidleisiau ar yr eitem yna. Dadl Plaid Cymru sydd nesaf.
A gallwn symud at y ddadl hon a gallaf weld—. Nid at y ddadl; at y bleidlais. Gallaf weld llygaid Huw Irranca-Davies yn symud, felly rwy'n cymryd ei fod wedi ailgysylltu â Zoom, ac—[Torri ar draws.] Rydych chi'n ôl yn yr ystafell Zoom. Fe symudwn ymlaen at y bleidlais felly ar—
—dadl Plaid Cymru ar ddyled aelwydydd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
A dyna ni ddiwedd ar y pleidleisio am y prynhawn yma.