Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Fel chithau, Rhianon, rwy'n angerddol ynglŷn â sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn ystyried y diwydiannau creadigol yn ddewis gyrfa hygyrch a gwerth chweil, gan roi cyfleoedd gwaith gwych i'n pobl ifanc yng Nghymru mewn sector sy'n darparu cynnwys gwerthfawr, yn gwasanaethu pob cynulleidfa ac yn allweddol i gefnogi ein twf economaidd yn y dyfodol. Rwy'n cydnabod yn llwyr bwysigrwydd addysg cerddoriaeth i bobl ifanc a'r manteision i'w dysgu, a dyna pam yr hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi addysg cerddoriaeth.
Mae gwaith wedi dechrau ar ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i sefydlu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. Rydym yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid cerddoriaeth ar fodel ar gyfer y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, a bydd y cwricwlwm i Gymru yn cryfhau ei sylfaen er mwyn sicrhau mynediad i bawb, gan ddarparu gwell cyfleoedd ar gyfer gwersi cerddoriaeth a phrofiadau i ddysgwyr. Rwy'n parhau i drafod gyda'r Gweinidog addysg sut yn union a pha bryd y caiff hwn ei gyflwyno a beth fydd y gyllideb ar gyfer y gwasanaeth. Bydd y Senedd hon, wrth gwrs, yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau wrth i hynny fynd yn ei flaen.
Ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yw adeiladu ar y gefnogaeth i ddarpariaeth addysg cerddoriaeth ledled Cymru. Ar hyn o bryd, caiff hyn ei hwyluso i raddau helaeth drwy ein cyllid grant o £1.4 miliwn y flwyddyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol a £100,000 i gefnogi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rydym hefyd, yn ystod y mis diwethaf, wedi darparu cyllid ychwanegol o £503,000 ar gyfer prosiect cerddoriaeth o dan y rhaglen Gaeaf Llawn Lles i gefnogi prosiectau cerddoriaeth allgyrsiol mewn ysgolion. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer addysg cerddoriaeth, fel y dywedais, i sicrhau bod pobl ifanc yn elwa o'r cyfleoedd gorau i brofi a chymryd rhan mewn gweithgareddau cerddoriaeth.
Mae Cymru Greadigol yn parhau i ymwneud yn llawn â'r diwydiant cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghymru, ac mae'r dull cydweithredol a ymgorfforwyd gan Cymru Greadigol ar ddechrau'r pandemig yn parhau i wasanaethu'r diwydiant yng Nghymru yn well gyda llawer o randdeiliaid yn cymryd rhan lawn yn y sgyrsiau polisi ehangach ar draws Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â chyflwyno mesurau COVID newydd, megis y pàs COVID. Yn dilyn ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y bumed Senedd i'r diwydiant cerddoriaeth fyw ym mis Chwefror eleni, mae fy swyddogion yn gweithio tuag at lansio cynllun gweithredu ar gyfer y sector yng Nghymru ym mis Ebrill 2022, a rhoddir sylw ynddo i lawer o'r blaenoriaethau a nodwyd yn yr adroddiad. Bydd y cynllun gweithredu hwn yn adlewyrchu'r angen am gamau gweithredu tymor byr sydd eu hangen i helpu'r sector i adfer o'r pandemig, a chynlluniau mwy hirdymor ar gyfer dyfodol cynaliadwy yn y farchnad fyd-eang.
Gan adeiladu ar argymhellion yr adroddiad a gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, rydym wedi comisiynu prosiect ymchwil dau gam yn ddiweddar. Mae'r cam cyntaf, sydd i'w gwblhau cyn bo hir, yn plotio hyd a lled busnesau cerddoriaeth, lleoliadau cerddoriaeth fyw, stiwdios recordio a mannau ymarfer ledled Cymru. Caiff hyn ei ddangos mewn map rhyngweithiol ar ffurf offeryn cyfeirio deinamig a chaiff ei gynnwys ar wefan Cymru Greadigol. Cynhelir yr ail gam yn y flwyddyn newydd a bydd yn mynd i'r afael â diffyg data penodol yng Nghymru sy'n ymwneud â'r effaith economaidd y mae'r diwydiant cerddoriaeth yn ei chael ar economi Cymru. Cydnabyddir mai'r diwydiant cerddoriaeth fyw yw un o'r rhai a gafodd eu taro waethaf drwy gydol y pandemig, ac er bod llawer o'r busnesau bellach yn weithredol eto, maent yn debygol o gael eu heffeithio'n negyddol am gryn dipyn o amser.
Drwy gam cyntaf y gronfa adferiad diwylliannol, buddsoddwyd tua £6.6 miliwn mewn lleoliadau cerddoriaeth, mannau ymarfer a stiwdios recordio, gyda £2 filiwn arall yn cael ei fuddsoddi mewn gweithwyr llawrydd yn y sector cerddoriaeth. Bydd gwybodaeth wedi'i diweddaru am y cymorth ychwanegol a dderbyniwyd gan y sector drwy'r ail gam ar gael pan fydd y gwerthusiad o'r gronfa wedi'i gwblhau. Mae ein cymorth wedi chwarae rhan hanfodol yn cadw busnesau cerddoriaeth yn fyw. Mae'n debygol y bydd angen cyllid pellach ar y busnesau hyn, nid yn unig ar gyfer y dyfodol agos, ond ar gyfer twf a chynaliadwyedd y diwydiant yn fwy hirdymor. Byddwn yn llunio cronfa datblygu cerddoriaeth i fynd i'r afael â'r uchelgais hwn.
Fel rhan o'n cefnogaeth barhaus i'r sector, rydym heddiw wedi lansio ein cronfa cyfalaf cerddoriaeth, a fydd yn darparu hyd at £10,000 ar gyfer gwelliannau cyfalaf bach i'n lleoliadau, stiwdios recordio a mannau ymarfer. Mae'r busnesau hyn yn allweddol i sicrhau dyfodol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Hyd yn oed yn wyneb heriau digynsail, mae meysydd allweddol o'n gwaith wedi datblygu ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ehangu a chryfhau ein cefnogaeth i brosiectau datblygu talent, megis Bannau a chronfa PPL Momentum, a bydd yn rhan sylfaenol o'r cynllun gweithredu cerddoriaeth hwnnw. Rhoesom £60,000 i brosiect Bannau i redeg ei raglen eleni, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ei waith ar rymuso cenhedlaeth nesaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn siarad â Bannau am ei strategaeth ar gyfer 2022, ac rydym yn awyddus i gynrychiolwyr gyflwyno eu gwaith mewn cyfarfod o'r gweithgor trawsbleidiol ar gerddoriaeth yn y dyfodol. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglenni sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i dirwedd Cymru. Cafodd cronfa PPL Momentum a Gorwelion gymorth ariannol gan Cymru Greadigol eleni i barhau â'u gwaith rhagorol yn cefnogi artistiaid o Gymru a hyrwyddo'r artistiaid hyn yng Nghymru ac o gwmpas y byd.
Mae'n bwysig fod gan bobl Cymru fynediad at gerddoriaeth Gymreig, ond hefyd ein bod yn arddangos doniau Cymreig a'r Gymraeg ar lwyfannau rhyngwladol. Mae sianel Spotify Cymru Greadigol, a lansiwyd ym mis Mehefin 2020, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda bron i 700 o draciau wedi'u cynnwys rhwng ei lansio a mis Tachwedd 2021. Ac yn ddiweddar, rydym wedi cefnogi'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, dathliad a chydnabyddiaeth o ragoriaeth greadigol ym maes cerddoriaeth Gymreig. Mae'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ei blwyddyn olaf o gytundeb ariannu tair blynedd gyda Cymru Greadigol, ac o flwyddyn un, mae'r prosiect wedi datblygu ac ymgysylltu â phartneriaethau i hyrwyddo a chefnogi diwydiant cerddoriaeth Cymru drwy gyfnewid, cydweithio ac arddangos perfformiadau gan ganolbwyntio ar gynwysoldeb. Kelly Lee Owens oedd enillydd y wobr eleni am ei halbwm Inner Song. Comisiynwyd Kelly yn ddiweddar gan FIFA i ysgrifennu a pherfformio'r gerddoriaeth thema swyddogol ar gyfer Cwpan y Byd i Fenywod 2023. Cafodd y gerddoriaeth ei hysbrydoli gan gorau yng Nghymru, ac mae'n gyfle gwych i arddangos ei thalent anhygoel i weddill y byd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd tîm pêl-droed menywod Cymru yno i'w chlywed yn y cnawd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cefnogi FOCUS Cymru, gŵyl aml-gyfrwng ryngwladol i arddangos talentau sy'n cael ei chynnal yn Wrecsam yng ngogledd Cymru. Mae FOCUS yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn arddangos talent Cymru yn rhyngwladol. Er mwyn lliniaru risgiau i drefnwyr ac i annog y diwydiant i ailddechrau gweithgarwch, rydym wedi rhoi £5,000 yr un o gefnogaeth i ŵyl Sŵn yng Nghaerdydd a gŵyl Fringe Abertawe sydd i'w cynnal eleni, er ar raddfa lai nag arfer. Ategir y gweithgaredd hwn hefyd gan y prosiect digidol AM dwyieithog PYST, sy'n parhau i ddarparu llwyfan unigryw sy'n tyfu ar gyfer arddangos cerddoriaeth fyw. Mae'r platfform digidol hwn wedi bod yn bwysig iawn drwy gydol y pandemig yn darparu cyfleoedd a fyddai fel arall wedi'u colli oherwydd mesurau a weithredwyd i leihau lledaeniad y feirws. Bydd Cymru Greadigol yn parhau gyda'r ymateb cadarnhaol hwn i'r sector, gan weithio'n agos gyda phartneriaid y tu mewn a'r tu allan i'r Llywodraeth. Mae'r dull partneriaeth gwirioneddol hwn wedi'i ymgorffori yng ngwaith tîm cerddoriaeth Cymru Greadigol, a bydd ein cynllun gweithredu yn adlewyrchu hyn.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am y ddadl heddiw, ac am eu cefnogaeth barhaus i'r gwasanaeth cerddoriaeth yng Nghymru? Rwy'n eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r gwasanaeth cerddoriaeth yng Nghymru.