1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'r amrywiolyn newydd o COVID-19 wedi peri pryder dealladwy, yn enwedig o gofio nad ydym yn gwybod eto pa mor ffyrnig yw'r amrywiolyn, ac felly ni allwn fod yn gwbl sicr o fygythiad y feirws i Gymru. Serch hynny, bydd y newyddion am amrywiolyn newydd yn achosi cryn bryder i fusnesau Cymru, ac felly mae'n hanfodol cynnal deialog barhaus gyda Llywodraeth Cymru ynghylch effaith yr amrywiolyn newydd ar sut rydym yn byw ac yn gweithio fel yr ymgynghorir â busnesau ar unrhyw fesurau newydd neu unrhyw newidiadau i'r mesurau a'r strategaethau presennol. Nawr, gwrandewais yn ofalus iawn ar yr ateb a roesoch i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, ond Weinidog, ar hyn o bryd, a allwch ddweud wrthym sut y mae'r amrywiolyn newydd yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd? Ac a allwch ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyhoeddi unrhyw fesurau newydd wedi'u targedu at fusnesau yng Nghymru cyn y Nadolig?
Diolch am eich cwestiwn. Yr hyn sy'n anodd gydag amrywiolyn omicron yw nad oes gennym ddarlun llawn o'i effaith gyffredinol. Ond rydym yn wirioneddol bryderus ei fod yn lledaenu hyd yn oed yn gyflymach nag amrywiolyn delta yn ôl pob golwg. Byddwch wedi clywed Gweinidogion Ceidwadol Llywodraeth y DU yn sôn am hynny hefyd, ond am y ffaith nad ydym gyda'n gilydd yn y DU yn deall y tair prif broblem. Ar y gyntaf: mae gennym rai effeithiau, ond nid ydym yn gwybod faint yn gyflymach na delta yr ymddengys ei fod yn lledaenu, ond mae'n ymddangos ei fod yn lledaenu'n gyflymach; yr ail yw a yw'n peri mwy o niwed nag amrywiolyn delta, a dof yn ôl at hynny; a'r drydedd yw a all weithio heibio'r brechlyn.
Nawr, os ystyriwch y peth fel hyn: mae gennym oddeutu 2,000 o bobl y dydd yng Nghymru'n profi'n bositif am COVID—delta yw pob achos, bron â bod—a gwyddom fod hynny'n arwain at nifer penodol o bobl yn cael niwed, yn mynd i'r ysbyty. Yn anffodus, gwyddom na fydd nifer penodol o bobl yn goroesi. Os yw omicron yn cael yr un effaith yn y 2,000 o bobl hynny, dywedwch, yna byddech yn dweud bod ganddo'r un math o'r hyn y mae gwyddonwyr yn ei alw'n allu pathogenig. Y broblem yw: os yw omicron yn lledaenu'n gyflymach, byddwn yn gweld mwy o bobl yn dod i mewn i'n system iechyd a gofal yn llawer cyflymach, ac mae perygl gwirioneddol y gallai hynny achosi effaith ddifrifol iawn, hyd yn oed os nad yw'n gallu gweithio heibio i effaith y brechlyn. Felly, rydym yn ymdrin â chryn dipyn o ansicrwydd ar hyn o bryd.
Mae ein gwyddonwyr ledled y DU yn disgwyl gallu darparu rhywfaint yn rhagor o wybodaeth i wleidyddion o fewn y ddwy i dair wythnos nesaf fel y gallant ddeall y ffactorau ychwanegol hynny. Felly, rydym yn ymdrin ag ansicrwydd gwirioneddol, ar yr adeg fwyaf anghyfleus i lawer o fusnesau yn ystod yr wythnosau olaf cyn y Nadolig. Felly, nid ydym yn bwriadu cyflwyno mwy o gyfyngiadau cyn y Nadolig, ond pan gawn fwy o wybodaeth am amrywiolyn omicron—nid yn unig yr hyn y mae'n ei achosi a'r hyn y mae'n ei olygu, ond hefyd pa mor eang y mae wedi lledaenu eisoes yn y DU. Ac nid oes gennym ddarlun llawn eto; wrth gwrs, mae gennym achosion a gadarnhawyd ac achosion tebygol, ond gan y gwnaed penderfyniad oddeutu chwe wythnos yn ôl i roi'r gorau i'r gofyniad i bobl sy'n dod i mewn i'r wlad wneud profion PCR, golyga hynny nad ydym wedi gallu dilyniannu ymlaen llaw. Felly, mae'n debygol fod mwy o omicron yn y wlad a ledled y DU nag y gwyddom amdano ar hyn o bryd. Pan gawn ddarlun llawnach o ble y mae a'i effaith benodol, bydd angen i Lywodraeth Cymru wneud dewisiadau, a bydd angen gwneud dewisiadau ledled y DU, a dyna pam yr ysgrifennodd y Prif Weinidog ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban at Lywodraeth y DU i nodi'n glir, os oes angen cymryd camau, yr hoffem gael cymorth Trysorlys y DU i wneud hynny pe bai'r effaith honno'n cael ei theimlo yn gyntaf mewn rhan arall o'r undeb yn hytrach na Lloegr. Rydym wedi gweld hynny yn y gorffennol, a chredaf y byddai ymateb priodol a synhwyrol i hynny'n dangos y DU yn ymddwyn fel y dylai ac yn gwneud ei gorau i sicrhau bod y peryglon a'r cyfleoedd yn cael eu rhannu'n gyfartal ar y cam diweddaraf yn hanes parhaus y pandemig hwn.
Wel, Weinidog, fy mhwynt yw ei bod yn hanfodol, wrth i fwy o wybodaeth ddod i'r amlwg am y feirws hwn, fod Llywodraeth Cymru'n cyfathrebu'n glir â busnesau Cymru ac yn nodi ei bwriadau, ac felly edrychaf ymlaen at glywed mwy gennych dros yr wythnosau nesaf. Nawr, dros yr wythnosau diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sawl datganiad economaidd ac wedi dyrannu cryn dipyn o gyllid, ac mae'n bwysig inni ddeall yn well a fydd yr amrywiolyn newydd hwn yn cael unrhyw effaith ar gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth becyn cyllid gwerth £45 miliwn, gyda'r nod o helpu busnesau bach ledled Cymru i dyfu a chefnogi miloedd o bobl ledled Cymru, gobeithio, i hyfforddi i weithio mewn sectorau allweddol. Mae'r cyllid hwnnw'n hanfodol wrth fynd i'r afael â bylchau sgiliau ac uwchsgilio'r gweithlu. Yn wir, fe ddywedoch chi eich hun wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod pob sector busnes y siaradwch â hwy—bach, canolig neu fawr—bob amser yn wynebu her sgiliau allweddol. Felly, a allwch ddweud mwy wrthym am y ffrwd gyllido benodol hon a sut y bydd yn cael ei dyrannu ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru? Ac a allwch ddweud wrthym pa mor hyderus rydych chi y bydd y cyllid hwn yn ddigon nid yn unig i ddiogelu 4,000 o swyddi, ond hefyd i helpu i greu 2,000 o swyddi newydd yng Nghymru, fel yr amlinelloch chi yr wythnos diwethaf?
Gallaf. Felly, o ran y cyllid ychwanegol roeddwn yn falch o'i gyhoeddi—ac rwy'n arbennig o falch fy mod wedi cyhoeddi y byddwn ei ddarparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, a fydd yn darparu'r cyllid ac yn gallu gwneud dewisiadau o fewn ardal yr awdurdod lleol, felly bydd ar gael i bob awdurdod lleol yn y wlad. Ac mae'r ffigurau a ddarparwyd gennym ar nifer y swyddi newydd y credwn y bydd yn eu creu, yn ogystal â'r rheini a ddiogelir, yn dod o'n profiad o weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a busnesau yn ystod y pandemig. Credwn y bydd hyn, yn arbennig, o fantais wirioneddol i fusnesau bach a chanolig hefyd.
Felly, dyna'r sail dros ddyrannu cyllid a pham ein bod wedi nodi ffigurau ynghylch yr effaith y credwn y bydd yn ei chael, ac roeddwn yn falch iawn o ymweld â busnes ym mwrdeistref sirol Caerffili, yn etholaeth Islwyn rwy'n credu, pan lansiwyd y gronfa, ac maent hwy eisoes wedi nodi'r cymorth y maent wedi'i gael drwy rowndiau blaenorol o gymorth gan Lywodraeth Cymru, a'r hyn y mae wedi caniatáu iddynt ei wneud wrth arallgyfeirio eu busnes a llwyddo i dyfu, a daw'r twf hwnnw o gyflogaeth leol—felly, swyddi da, ac fel y dywedwn yn Llywodraeth Cymru, gwell swyddi yn nes at adref. Mae'n enghraifft dda o'r cyllid hwnnw'n cyflawni hynny. Mae busnesau wedi dangos awydd gwirioneddol i wneud hynny. Rhan o'r her oedd datgloi buddsoddiad ar gyfer eu busnesau eu hunain. Felly, mae'r gronfa'n caniatáu i bobl wneud cais am grant, ac i fuddsoddi rhywfaint eu hunain hefyd. Mae'n enghraifft wirioneddol o 'rywbeth am rywbeth', sydd â phob gobaith, yn ein barn ni, o fod yn llwyddiannus.
Ar eich pwynt ehangach am gyfathrebu â busnesau mewn perthynas â'r llwybr drwy'r pandemig, rwy'n cael sgyrsiau rheolaidd ag amrywiaeth o wahanol sectorau yn yr economi. Rwy'n siarad ag undebau llafur ac rwy'n siarad â sefydliadau busnes. Byddaf yn cael cyfres arall o sgyrsiau gyda grwpiau busnes yn ddiweddarach yr wythnos hon. Felly, mae'r cyfathrebu'n rheolaidd ac mae'r grwpiau busnes eu hunain yn dweud nad ydynt erioed wedi cael perthynas agosach neu well â Llywodraeth Cymru. Mae anghenion yn sgil y pandemig wedi gorfodi rhywfaint o hynny, ond credaf fod gennym well dealltwriaeth, ein bod yn rhannu gwybodaeth yn well, a bod gennym well ymddiriedaeth a hyder.
Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o'r sicrwydd i'r Aelod, y credaf ei bod yn rhesymol iddo ofyn amdano, fod sgyrsiau rheolaidd yn cael eu cynnal rhyngof fi, fy swyddogion a grwpiau busnes, a bod y rheini mewn sefyllfa dda i allu gwneud yr hyn sydd angen inni ei wneud, ond rwy'n mawr obeithio nad oes angen inni gyflwyno cyfyngiadau pellach. Ond byddaf i a Gweinidogion eraill yn y Llywodraeth yn gwneud y dewisiadau cywir i gadw pobl Cymru'n ddiogel, ac i wneud yr hyn a allwn i achub bywoliaeth pobl ar yr un pryd.
Wel, rwy'n falch iawn o glywed, Weinidog, eich bod yn cael trafodaethau parhaus gyda'r gymuned fusnes, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau dros yr wythnosau nesaf yn y cyfnod cyn y Nadolig. Nawr, yn yr un sesiwn graffu gweinidogol â Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, fe ddywedoch chi hefyd nad yw'r adferiad wedi'r pandemig o ran busnes wedi'i gwblhau eto yn sicr, ond mae'n destun trafodaethau rhyngoch chi a'r Gweinidog cyllid am y math o gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i fusnesau yn y dyfodol.
Nawr, fel y gwyddoch, dydd Sadwrn nesaf yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach, ac rwy'n gobeithio, Weinidog, y byddwch chi allan yn profi ac yn mwynhau popeth sydd gan ein busnesau bach i'w gynnig. Mae busnesau bach Cymru'n dal i fod mewn sefyllfa fregus, a gallai'r amrywiolyn newydd fygwth hynny, gan ei bod yn aeaf a gwyddom fod COVID-19 yn ffynnu mewn amgylcheddau dan do. Nawr, yn yr Alban, sefydlwyd cronfa gwerth £25 miliwn ar gyfer awyru busnesau, ac mae sefydliadau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gwneud yr un peth yma yng Nghymru. Felly, Weinidog, cyn y Dydd Sadwrn Busnesau Bach, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau rhyngoch chi a'r Gweinidog cyllid mewn perthynas â chymorth i fusnesau, ac yn arbennig, a oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch ardrethi busnes? Yn ail, a allwch ddweud wrthym pa gymorth tymor byr y mae Llywodraeth Cymru'n ei gynnig i fusnesau fel y gallant sicrhau bod eu lleoliadau mor ddiogel â phosibl dros fisoedd y gaeaf, gan gynnwys cronfa awyru bosibl, fel sydd wedi'i sefydlu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig?
Iawn, rwy'n fwy na pharod i drafod y pwyntiau hynny. Ni fydd yn syndod o gwbl i chi nad wyf am gyhoeddi'r gyllideb ymlaen llaw. Ni fyddai’r Gweinidog cyllid na’r Prif Weinidog yn arbennig o hapus pe bawn yn ceisio cyhoeddi rhannau o’r gyllideb a fydd yn cael ei chyhoeddi ddiwedd y flwyddyn ymlaen llaw, ond fel y Gweinidog cyllid, rwyf wedi clywed y galwadau gan ystod o sefydliadau busnes am ryddhad ardrethi pellach yn y flwyddyn newydd. Rydym mewn sefyllfa, wrth gwrs, lle gwnaethom ddarparu rhyddhad gwell o lawer yng Nghymru ar gyfer ystod o sectorau o gymharu â Lloegr, felly rydym eisoes ar y blaen i'r busnesau hynny sy'n gorfod gweithio gyda lefelau cymorth Lloegr, sydd wedi bod yn gostwng ers peth amser bellach.
Ar gronfa awyru'r Alban, roedd gennym ddiddordeb yn yr hyn roeddent yn ei wneud, ond nid oeddem wedi ein hargyhoeddi y byddai'r gronfa fel y'i cyhoeddwyd yn yr Alban yn gweithio i ni yma. Ni chredaf ei bod yn glir sut y byddai'n cael ei gweithredu a beth fyddai'n digwydd gyda'r gadwyn gyflenwi. Yr hyn rydym wedi'i wneud nawr, serch hynny, gyda'r gronfa £35 miliwn rydym wedi'i chyhoeddi ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, yw sicrhau bod awyru'n un o'r dibenion y mae'r gronfa ar gael ar eu cyfer, gan fod rhai busnesau eisoes wedi cymryd camau i wella awyru yn eu hadeiladau, ac rwy'n siŵr fod y rhai sydd wedi gwneud hynny wedi cysylltu â chi. O ran busnesau eraill nad ydynt wedi gwneud hynny ac sy'n awyddus i wella awyru ymhellach, dyna un o'r dibenion y gallant wneud cais amdanynt i'r gronfa a gyhoeddais yn ddiweddar, ac rydych wedi fy helpu i dynnu sylw ati'n gynharach yn y cwestiynau heddiw.
Yn fwy cyffredinol ar eich pwynt ynglŷn â busnesau bach, rwy'n gobeithio y bydd cytundeb ar draws y Siambr yn ddiweddarach y prynhawn yma yn y ddadl ar fusnesau bach—y ddadl fer 30 munud a gyflwynwyd gan eich grŵp. Yn sicr, rwy'n cefnogi busnesau bach yn fy etholaeth fy hun ac yn fwy cyffredinol, ac edrychaf ymlaen at glywed pobl o bob cefndir gwleidyddol yn y Siambr yn gwneud hynny ac yn tynnu sylw at fusnesau bach yr hoffem i bobl eu cefnogi yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau. Roedd pobl yn cefnogi busnesau bach ar anterth y pandemig, pan fu'n rhaid i bobl siopa'n lleol, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dal i ddewis siopa'n lleol a chefnogi eich stryd fawr leol a chefnogi eich busnesau bach lleol.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Ar hyn o bryd, mae gan Busnes Cymru raglenni sgiliau a hyfforddiant mewn tri maes: recriwtio a staffio, sgiliau yn y gweithle, ac arweinyddiaeth. Sut y mae Busnes Cymru'n dewis pa gyrsiau i'w cynnig, ac a oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno mwy o gyrsiau i helpu i roi hwb i fusnesau yng Nghymru?
Byddai hynny'n fater i'w drafod gyda'r sectorau busnes eu hunain, o ran pa gyrsiau y byddent yn eu cynnig yn uniongyrchol a beth yw ein cynnig mwy cyffredinol ar yr agenda sgiliau a hyfforddiant. Mae gennyf ddiddordeb mewn dyfodol gwaith a phobl ifanc sy'n dod i fyd gwaith am y tro cyntaf ac sy'n awyddus i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd. Dyna pam ein bod wedi lansio'r warant i bobl ifanc wrth gwrs. Mae'r warant i bobl ifanc yn cynnwys prentisiaethau, nad ydynt ar gyfer pobl ifanc yn unig. Dyma hefyd pam fod y cyhoeddiad diweddar ar gyfrifon dysgu personol yn ymwneud â buddsoddi yn y gweithlu presennol, a dyna pam fy mod mor bryderus ynglŷn â'r heriau mewn perthynas â'r gostyngiad yn y gallu i gynnal rhaglen sgiliau addas a chadarn gyda'r newidiadau i'r gronfa codi'r gwastad. Mae'n bryder gwirioneddol i ni. Ond edrychaf ymlaen at sgyrsiau pellach gyda mi a chyda fy swyddogion ar ledaeniad y gefnogaeth a'r cymorth y dylem eu darparu, a sut y mae hynny'n diwallu anghenion busnesau. Bydd hynny, wrth gwrs, yn cael ei lywio gan lawer o'r gwaith a wneir gan ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ac mae hynny'n ffactor allweddol wrth gynllunio sut y byddwn yn cefnogi busnesau yn awr ac yn y dyfodol.
Diolch am yr ymateb, Weinidog.
Ac rwy'n falch ei fod wedi dweud bod hwnnw'n gwestiwn i fusnesau. Fel y mae Paul Davies eisoes wedi nodi, mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn agosáu'n gyflym, a chyda Dydd Sadwrn Busnesau Bach mewn golwg, mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi ymweld â’n busnesau lleol ein hunain. Rhan o hynny, i mi, fu ymweld â busnesau yn fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru.
Mae un awgrym cyson a glywais yn ymwneud â rhai o'r cyrsiau a ddarperir gan Busnes Cymru. Er enghraifft, nododd un busnes ddiffyg cymorth mewn perthynas â hyfforddiant optimeiddio peiriannau chwilio, a nododd un arall ddiffyg cyrsiau'n ymwneud â thyfu eu busnesau. O fy ymchwil fy hun, ymddengys mai prif gwrs Busnes Cymru sy'n canolbwyntio ar dwf yw rhaglen arweinyddiaeth 2020. Fodd bynnag, yn ôl gwefan Busnes Cymru, dim ond i fusnesau sy'n gweithredu yn nwyrain Cymru, neu weithwyr sy'n byw yno, y darperir y cwrs hwnnw. A oes monitro'n digwydd i weld pa mor effeithiol yw'r dewis o gyrsiau a ddarperir, a beth yw'r rhesymeg pam yr ymddengys bod llawer o raglenni'n ymwneud ag ochr weithredol ac ymarferol busnes, ond ychydig iawn ar dwf ac arloesi? A fyddai'r Gweinidog yn ystyried gweithredu rhaglen arweinyddiaeth 2020 Busnes Cymru ledled Cymru i ddarparu mwy o gyrsiau sy'n canolbwyntio ar dwf ac arloesi ym mhob rhan o Gymru?
Ie, mae gennyf ddiddordeb, wrth gwrs, mewn asesu effaith pob un o'r cyrsiau a gynhelir gennym a sut y cânt eu cyflwyno mewn gwahanol rannau o Gymru i ddiwallu anghenion busnesau sy'n cael eu hasesu yno. Credaf fod eich pwynt ehangach ynghylch y mathau o gyrsiau sy'n cael eu cynnal a'r ddarpariaeth i helpu busnesau i dyfu yn bwynt a gododd mewn sgwrs gyda'r Aelod dros Gwm Cynon am y newid nid yn unig o ran helpu i gefnogi busnesau i ddechrau, ond yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud yn ein cymorth busnes i helpu busnesau i dyfu. Mae wedi bod yn ffactor allweddol o dan arweinyddiaeth flaenorol Ken Skates ac mae'n parhau yn awr, a byddwch yn gweld hyn yn y gronfa busnesau bach a ddarperir gyda'r awdurdodau lleol. Mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn helpu busnesau i oroesi ac i dyfu hefyd.
Felly, mae'n ymwneud â chyllid ac mae hefyd yn ymwneud â pheth o'r cymorth a'r sgiliau, ond mae llawer o hynny hefyd yn ymwneud â busnesau eu hunain yn nodi'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i dyfu. Nid yw'r holl syniadau hynny'n cael eu cadw'n ganolog o fewn y Llywodraeth. Felly, mae'n ymwneud â'r math o bartneriaeth sydd gennym gyda busnesau eu hunain, gyda phartneriaethau sgiliau rhanbarthol sy'n dweud wrthym beth y mae angen inni ei ddarparu, a lle y darperir hynny'n uniongyrchol—ni fydd darpariaeth uniongyrchol gan Busnes Cymru bob amser. Ond byddwn yn fwy na pharod i gymryd rhan mewn sgwrs fanylach gyda'r Aelod am yr amrywiaeth o gyrsiau gwahanol a ddarparwn yn uniongyrchol a sut y gwnawn hynny.
Dylwn ddweud, serch hynny, mewn perthynas â busnesau bach, fy mod yn mynd at fusnesau bach yn fy etholaeth fy hun yn rheolaidd. Efallai y byddwch wedi sylwi fy mod wedi cael fy ngwallt wedi'i dorri yn ddiweddar, busnes bach yn fy etholaeth a wnaeth hynny; rwy'n mynd at gigydd lleol, y siop ffrwythau leol, gallwn sôn am lawer mwy, ond rwy'n siŵr y byddwn yn clywed llawer o'r ganmoliaeth honno i fusnesau lleol pobl wrth eu henwau yn ddiweddarach y prynhawn yma hefyd.
Wrth gwrs, byddaf innau hefyd yn tynnu sylw at lawer o'r busnesau lleol rwyf wedi bod yn eu defnyddio yn y ddadl yn nes ymlaen, ac wrth gwrs byddaf yn rhannu fy nghyfrinach ynglŷn â ble rwy'n cael fy ngwallt wedi'i dorri hefyd. [Chwerthin.] Ac wrth gwrs rwy'n falch iawn fod y Gweinidog yn dweud ei fod yn ymgysylltu â busnesau. Yn amlach na pheidio, mae llawer o'r syniadau sy'n datrys llawer o'r problemau sy'n wynebu'r busnesau hyn wedi codi ar wyneb y gwaith felly rwy'n falch bod sgwrs yn digwydd.
Os caf fi droi at fasnach a phrotocol Gogledd Iwerddon, mae bygythiadau gan Lywodraeth y DU i danio erthygl 16 nid yn unig yn peri pryder mewn perthynas â sefydlogrwydd, heddwch a masnach yng Ngogledd Iwerddon, ond byddai tanio erthygl 16 yn effeithio'n negyddol ar gysylltiadau masnachu Cymru â'r UE. Tra bo Cymru'n ceisio adfer o effeithiau blynyddoedd o gyni, Brexit a COVID-19, ac wrth gwrs rydym eisoes wedi gweld tarfu ar fasnach yng Nghaergybi, ni allwn greu risg o darfu pellach ar economi Cymru. A yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw eglurhad ynghylch sut y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gweithredu erthygl 16, os byddant yn gwneud hynny, a beth fyddai rôl y Llywodraethau datganoledig yn y broses honno? A fyddwn, er enghraifft, yn gallu codi pryderon am yr effaith ar fasnach Cymru ac economi Cymru, a pha baratoadau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i leddfu'r ergyd i economi Cymru rhag ofn y bydd erthygl 16 yn cael ei thanio?
Tua dechrau mis Tachwedd, ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, gofynnais i'r Gweinidog am yr amserlen ar gyfer asesiad o effeithiau cronnol y darpariaethau mynediad i'r farchnad ar gyfer amaethyddiaeth yng nghytundebau masnach rydd Seland Newydd ac Awstralia, a dywedwyd wrthyf ei fod yn dibynnu ar y wybodaeth a ddarparwyd ac a yw'r cytundebau mewn egwyddor yn dod yn rhai terfynol. A yw'r Gweinidog wedi cael rhagor o fanylion gan Lywodraeth y DU ac a yw'n gallu rhannu'r manylion hynny â mi heddiw?
Rwyf am ymdrin â'ch ail bwynt yn gyntaf, ar y cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd. Credwn y gallai'r cytundebau mewn egwyddor newid yn y testun terfynol. Fe fyddwch wedi gweld bod llawer o ddyfalu wedi bod yn gyhoeddus am hynny hefyd. Ni allaf roi datganiad wedi'i ddiweddaru i chi ar hyn o bryd am nad ydynt wedi'u cwblhau. Pan fyddant wedi'u cwblhau, rwyf eisoes wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu ein hasesiad o'r effeithiau uniongyrchol gydag Aelodau a'r cyhoedd yn ehangach. Rhag-weld fydd rhywfaint o hynny, wrth gwrs, oherwydd, er enghraifft, mae'r cynnydd sylweddol yn y cwotâu ar gyfer cynnyrch amaethyddol y gellir ei fewnforio yn peri pryder ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yn awr ond hefyd yn y dyfodol, dros amser, gyda chynnydd sylweddol yn y cwotâu cyfradd tariff—y cwotâu y cytunwyd arnynt—gyda'r ddwy wlad, a'r bar y mae hynny'n ei osod i'r trafodaethau gyda gwledydd eraill a phartneriaethau masnachu eraill.
Ar erthygl 16, rydym yn pryderu'n wirioneddol ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd os caiff erthygl 16 ei danio, ond yn yr un modd, rydym yn pryderu am y cyfnod presennol o amser a'r ansicrwydd y mae'r ddiplomyddiaeth drwy benawdau ac areithiau yn ei achosi yn y cysylltiadau masnachu presennol. Pan oeddem yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, credaf fod dwsin o groesiadau fferi uniongyrchol rhwng ynys Iwerddon a chyfandir Ewrop, ac mae'r nifer bellach wedi cynyddu i dros 40, felly mae cynnydd sylweddol wedi bod eisoes mewn masnach sy'n osgoi porthladdoedd Cymru ac sy'n mynd yn uniongyrchol i dir mawr Ewrop. Mae hynny'n effeithio ar fasnach ac mae'n effeithio ar swyddi ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn masnach drwy ein porthladdoedd eisoes. Os caiff erthygl 16 ei thanio, mae bron yn sicr y ceir mesurau i ddial am hynny. Ni allwn ddweud wrthych beth fydd effaith y rheini, oherwydd nid ydym yn gwybod beth fyddai'r mesurau hynny. Rydym eisoes wedi mynegi ein pryderon am yr hyn y byddai tanio erthygl 16 yn ei wneud i swyddi a busnesau yng Nghymru, ond nid ydym mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn ein cynnwys yn uniongyrchol yn y sgyrsiau hynny. Rwyf wedi egluro fy mod yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn rhan o'r sgyrsiau hynny oherwydd yr effaith uniongyrchol ar drefniadau gydag ynys Iwerddon gyfan—y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon—a'r hyn y mae'n ei wneud i fasnach yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu â ni ar hynny.
O ystyried yr hyn sydd i'w weld yn gynnig adeiladol gan yr Undeb Ewropeaidd i newid ystod o ofynion ar wirio nwyddau, rwy'n obeithiol y gellir cytuno ar ffordd adeiladol a chytûn ymlaen nad yw'n achosi'r aflonyddwch sylweddol a'r niwed economaidd diamheuol a fyddai'n cael ei achosi pe bai erthygl 16 yn cael ei thanio. Ond nid wyf mewn sefyllfa i roi unrhyw fath o warantau i'r Aelod am hynny; fel y gŵyr yr Aelod, nid oes gennyf reolaeth dros y trafodaethau hynny. Ond beth bynnag sy'n digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu a chyflwyno'r achos dros swyddi a busnesau yng Nghymru'n glir ac wrth gwrs, byddaf yn parhau i adrodd yn ôl i'r Senedd a'r pwyllgorau pwnc perthnasol.