Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch am y cwestiwn atodol. Nid wyf yn credu y byddwn yn rhannu disgrifiad yr Aelod o ddadleuon yn y Senedd a blaenoriaethau'r Llywodraeth. Heddiw, wrth gwrs, clywsom am dwristiaeth mewn nifer o gwestiynau, ond mae'n rhan bwysig o'n heconomi. Credwn y gall dyfu'n gynaliadwy yn y dyfodol, drwy gydol y flwyddyn. Ond rydym wedi sôn hefyd am sectorau eraill. Rydym wedi clywed cwestiwn am wasanaethau cyfreithiol proffesiynol heddiw, ac rwyf fi fy hun wedi cael cyfarfod dilynol yn ddiweddar yn fy rôl fel y Gweinidog sy'n arwain ar wyddoniaeth yn y Llywodraeth gyda'r hyb gwyddorau bywyd rownd y gornel o'r Senedd. Felly, yn bendant mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd rydym yn sicrhau sgiliau uchel a chyflogau da yma yng Nghymru. Mae wedi bod yn rhan allweddol o'r hyn rwyf wedi'i drafod a'r hyn y gwnaeth fy rhagflaenydd yn glir yn ystod ei amser fel Gweinidog yr economi hefyd.
Rwy'n obeithiol ynglŷn â'n gallu i greu mwy o dwf yn y meysydd hyn. Gwyddom fod arloesi digidol yn allweddol ar gyfer busnesau bach, canolig a mawr yn y dyfodol. Gyda gwyddorau bywyd, gwyddom ein bod eisoes yn gwneud yn well na'r disgwyl. Mae'r ffordd y trefnir y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o fudd gwirioneddol i greu mwy o fuddsoddiad yn y sector hwnnw, yn ogystal â'r rhagoriaeth ymchwil o fewn y sector prifysgolion. Bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn ymwybodol fod gan ei brifysgol leol, Prifysgol Abertawe, Pfizer, er enghraifft, lle gwnaethant ddewis dod i Abertawe oherwydd rhagoriaeth yn y brifysgol ac oherwydd yr hyn y mae'r system gofal iechyd yn ei gynnig ar gyfer cael dadansoddiad system gyfan o welliant.
Felly, rydym eisoes yn gweithio gyda phrifysgolion. Maent yn pryderu ynglŷn â cholli rhywfaint o'r cyllid ymchwil yr arferent ei gael drwy arian Ewropeaidd, ond rwy'n hyderus y byddwn yn parhau i weld mwy o elw o'r hyn y mae prifysgolion yn ei wneud ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi i wella ein heconomi, nid yn unig yn y tri maes y mae'r Aelod yn eu disgrifio, ond mewn meysydd eraill hefyd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelod i wneud hynny.