Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Weinidog, mae'r cwestiwn am fwy o bobl mewn sectorau â chyflogau uwch yn hanfodol. Ceir rhai rhannau o Gymru lle nad yw pobl wedi cael cyfle i gael eu cyflogi yn y sectorau cyflog uwch hynny oherwydd nad ydym wedi gweld y twf gofynnol. Beth yw eich uchelgais, a pha gyfran o swyddi yng Nghymru a fydd yn cael cyflogau uwch erbyn diwedd y tymor seneddol? Diolch.