Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Byddwn yn hapus i weithio gyda'r Aelod wrth inni gyhoeddi'r gronfa cefnogi cwmnïau lleol, a phan fyddwn yn nodi'r cwmnïau a fu'n llwyddiannus, oherwydd nid gweld ble maent yn unig rydym am ei wneud, ond beth fydd effaith yr arian a sut y byddwn am eu helpu i ymgysylltu o fewn eu heconomi leol. Felly, byddwn yn fwy na pharod i fanteisio ar gyfle i fynd â'r Aelod drwy hynny ar ôl inni gael rhai o'r canlyniadau. A phwy a ŵyr, efallai y gallwn ymweld ag un o'r cwmnïau hynny yn ei rhanbarth yn y dyfodol.