Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch am eich ateb. Wrth gwrs, mae cronfa her yr economi sylfaenol wedi helpu nifer o fusnesau yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ers iddi gael ei lansio. Un o'r pethau y mae wedi'i helpu yw Cyfle, sy'n darparu prentisiaethau a chyfleoedd rhagorol yn y diwydiant adeiladu, ac mae Jenny Rathbone eisoes wedi sôn y bore yma fod angen i'r diwydiant hwnnw gael ei gynnal mewn perthynas â'r cyfleoedd prentisiaeth hynny. Rydych wedi achub y blaen ar y ffaith fy mod am godi'r £1 filiwn a gyhoeddwyd gennych yn gynharach ar gyfer y gronfa cefnogi cwmnïau lleol. Yr hyn yr hoffwn ei wybod, Weinidog, yw pa bryd y byddwch yn gallu rhoi unrhyw fanylion am fusnesau yn fy rhanbarth a fydd yn elwa o'r gronfa newydd honno sydd i'w chroesawu'n fawr.