Meddygon Teulu

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:31, 1 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr, Weinidog. Yn chwarter cyntaf 2022, bydd canolfan feddygol Saltmead yn Grangetown a meddygfa Albert Road ym Mhenarth yn cau eu drysau i filoedd o gleifion am y tro olaf. Yn ogystal, os bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cael ei ffordd a bwrw ymlaen gyda chynigion, bydd yr un peth yn digwydd ym Mhentyrch. Hyn, er gwaetha'r ffaith bod yna gannoedd o dai wedi cael eu hadeiladu yn yr ardal yn ddiweddar.

Fe wnes i ysgrifennu atoch chi yn ôl ym mis Hydref, yn codi pryderon ynglŷn â chau'r feddygfa yna, ac er gwaethaf argymhellion y cyngor iechyd cymunedol, dyw'r bwrdd iechyd heb ymgynghori â'r gymuned leol ynglŷn â'r cau. Mae yna gyfarfod cyhoeddus ym Mhentyrch ar nos Lun, 13 Rhagfyr. A wnewch chi annog cynrychiolwyr o'r bwrdd iechyd i fynychu'r cyfarfod hynny, neu os dyw hynny ddim yn bosib, sicrhau bod yna ymgynghoriad llawn yn digwydd gyda'r trigolion lleol fel bod modd iddyn nhw godi eu pryderon a'u bod nhw ddim yn teimlo fel eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu? Diolch yn fawr.