2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 1 Rhagfyr 2021.
1. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal ynglŷn â chapsiti meddygon teulu i ymateb i'r galw ar wasanaethau yng Nghaerdydd? OQ57270
Diolch yn fawr. Mae pob practis meddygon teulu ar draws Cymru yn gweithio'n galed i ymateb i'r pwysau a'r galw cynyddol gan gleifion. Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chadeiryddion y byrddau iechyd i drafod sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u darparu.
Diolch yn fawr, Weinidog. Yn chwarter cyntaf 2022, bydd canolfan feddygol Saltmead yn Grangetown a meddygfa Albert Road ym Mhenarth yn cau eu drysau i filoedd o gleifion am y tro olaf. Yn ogystal, os bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cael ei ffordd a bwrw ymlaen gyda chynigion, bydd yr un peth yn digwydd ym Mhentyrch. Hyn, er gwaetha'r ffaith bod yna gannoedd o dai wedi cael eu hadeiladu yn yr ardal yn ddiweddar.
Fe wnes i ysgrifennu atoch chi yn ôl ym mis Hydref, yn codi pryderon ynglŷn â chau'r feddygfa yna, ac er gwaethaf argymhellion y cyngor iechyd cymunedol, dyw'r bwrdd iechyd heb ymgynghori â'r gymuned leol ynglŷn â'r cau. Mae yna gyfarfod cyhoeddus ym Mhentyrch ar nos Lun, 13 Rhagfyr. A wnewch chi annog cynrychiolwyr o'r bwrdd iechyd i fynychu'r cyfarfod hynny, neu os dyw hynny ddim yn bosib, sicrhau bod yna ymgynghoriad llawn yn digwydd gyda'r trigolion lleol fel bod modd iddyn nhw godi eu pryderon a'u bod nhw ddim yn teimlo fel eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Dwi'n ymwybodol bod y sefyllfa yn peri pryder i bobl sy'n byw yn ardal Albert Road, Pentyrch ac yn Saltmead, a dyna pam mae'r bwrdd iechyd yn edrych i mewn i'r sefyllfa yma. Wrth gwrs, o ran Albert Road, bydd y bobl sydd yn mynd i'r feddygfa yna yn gallu parhau i fynd yna tan 18 Mawrth, ac wedyn byddan nhw'n cael mynediad i bractis arall yn yr ardal leol.
Fel rŷch chi'n ei ddweud, o ran Pentyrch, dwi'n gwybod eu bod nhw wedi bod yn gweithio gyda thrydydd parti i weld ble maen nhw'n gallu codi lle newydd, ac wrth gwrs, dwi'n meddwl ei fod yn bwysig fod pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yna a'u bod nhw yn cael eu llais nhw wedi ei glywed. A hefyd o ran Saltmead Medical Centre, mi fydd y gwasanaeth yn fanna yn cau, fel rŷch chi'n ei ddweud, ar 25 Chwefror blwyddyn nesaf. Beth sy'n digwydd yw bod y timau lleol a'r bwrdd iechyd lleol wrth gwrs yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa ac maen nhw'n rhoi pethau mewn lle i sicrhau fod pobl yn cael y ddarpariaeth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae arolwg tracio diweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain wedi datgelu bod dros hanner y meddygon a holwyd yng Nghymru wedi gweithio oriau ychwanegol yn ystod y pandemig gyda chwarter ohonynt yn dweud bod yr oriau hyn yn ddi-dâl. Roedd dros draean o'r meddygon a ymatebodd i arolwg y BMA yn teimlo dan bwysau gan eu cyflogwr i weithio oriau ychwanegol ac roedd dros draean hefyd naill ai wedi peidio â chymryd eu hamser egwyl dynodedig neu wedi'i gymryd ar adegau prin yn unig. Yn anffodus, mae hyn wedi golygu bod nifer wedi gorflino, gyda dros hanner y meddygon a arolygwyd yn cofnodi lefel uwch na'r arfer o flinder neu orflinder, ac mae'n destun pryder fod 76.6 y cant yn datgelu bod eu lefelau straen wedi gwaethygu ers dechrau'r pandemig COVID-19. Dangosodd arolwg arall a gomisiynwyd gan y BMA ym mis Ebrill eleni fod 51 y cant o'u haelodau yn dioddef o iselder, gorbryder, straen, gorflinder, trallod emosiynol, neu gyflwr iechyd meddwl arall ar hyn o bryd, mae 16 y cant yn bwriadu gadael y GIG yn gyfan gwbl, ac mae 47 y cant yn bwriadu gweithio llai o oriau ar ôl y pandemig. Rwy'n siŵr fod y canrannau hyn wedi eu hadlewyrchu ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt, ond maent yn dangos bod y proffesiwn meddygol dan straen enfawr, ac ni fydd parhad y pandemig a'r math omicron newydd ond yn gwaethygu pethau. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i gefnogi iechyd a lles meddygon teulu wrth inni wynebu gaeaf arall gyda COVID? Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n fwy na ymwybodol o'r pwysau sydd wedi bod ar feddygon teulu ers cryn dipyn o amser bellach. Gwn fod llawer ohonynt wedi blino'n llwyr, eu bod wedi gweld llawer mwy o gleifion nag a welsant erioed o'r blaen, fod y ffordd y maent wedi gorfod newid y ffordd y maent yn hwyluso mynediad i gleifion yn gyflym iawn wedi bod yn anodd i lawer, ac rwy'n ymwybodol fod y lefelau salwch oddeutu 11 y cant, sy'n sylweddol uwch na llawer o bobl eraill sy'n gweithio yn y GIG. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny, a bydd fy nghyd-Aelod sy'n gyfrifol am iechyd meddwl yn ymwybodol o hynny ac yn sicrhau bod y cymorth i weithwyr iechyd proffesiynol ar gael iddynt. Rydym wedi rhoi £1 filiwn tuag at hynny yn ystod y pandemig. Ac wrth gwrs, gyda'r cyhoeddiad heddiw y bydd cynnydd o 3 y cant yn yr hyn rydym yn ei roi i gynorthwyo meddygon, rydym yn ceisio cydnabod y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud dros y cyfnod hynod anodd hwn.
Mae'n mynd i fod yn anodd. Rydym wedi newid y ffordd y gweithiwn, ac mae rhywfaint o hynny wedi gweithio'n dda iawn i gleifion, ond mae meddygon teulu wedi gorfod addasu hefyd. A chredaf fod yn rhaid i bawb ohonom sicrhau ein bod yn deall y pwysau sydd wedi bod arnynt, a dyna pam y byddwn yn annog pobl Cymru i ystyried a oes mecanweithiau eraill iddynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt. A gallai hynny fod drwy ffonio 111; gallai fod drwy ofyn i'w fferyllfa am gymorth. Felly, gwneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o'r dewisiadau amgen hynny.