Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Wel, diolch yn fawr iawn, Russell. Rwy'n hyderus fod yr holl bethau'n cael eu gwneud, wrth inni siarad; bod byrddau iechyd y GIG yn datblygu, ac i fod i ddod yn ôl atom heddiw gyda'u cynigion i gynyddu'n aruthrol y broses o gyflwyno'r brechiad atgyfnerthu yng Nghymru. Nid i fyrddau iechyd yn unig y gofynnwn hynny; gwyddom ein bod yn cael cynigion o gefnogaeth gan lywodraeth leol, gan y frigâd dân, ac efallai y byddwn yn gofyn i'r fyddin am fwy o gefnogaeth hefyd. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cael eu rhoi ar waith. Gwyddom nad oes problem gyda'r cyflenwad, ond byddwn yn galw am fyddin o wirfoddolwyr hefyd, yn enwedig y bobl a gamodd i'r adwy y tro cyntaf ac na fydd angen eu hailhyfforddi. Gofynnwn i bobl gamu ymlaen am gyfnod byr. Os gallwn wneud hyn yn gyflym iawn, cyn i unrhyw don omicron bosibl ein taro, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.