2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych yn hyderus fod popeth yn cael ei wneud, o fewn eich pŵer, i sicrhau bod y brechiad atgyfnerthu'n cael ei gyflwyno'n gyflym yng Nghymru?
Wel, diolch yn fawr iawn, Russell. Rwy'n hyderus fod yr holl bethau'n cael eu gwneud, wrth inni siarad; bod byrddau iechyd y GIG yn datblygu, ac i fod i ddod yn ôl atom heddiw gyda'u cynigion i gynyddu'n aruthrol y broses o gyflwyno'r brechiad atgyfnerthu yng Nghymru. Nid i fyrddau iechyd yn unig y gofynnwn hynny; gwyddom ein bod yn cael cynigion o gefnogaeth gan lywodraeth leol, gan y frigâd dân, ac efallai y byddwn yn gofyn i'r fyddin am fwy o gefnogaeth hefyd. Felly, mae'r holl bethau hynny'n cael eu rhoi ar waith. Gwyddom nad oes problem gyda'r cyflenwad, ond byddwn yn galw am fyddin o wirfoddolwyr hefyd, yn enwedig y bobl a gamodd i'r adwy y tro cyntaf ac na fydd angen eu hailhyfforddi. Gofynnwn i bobl gamu ymlaen am gyfnod byr. Os gallwn wneud hyn yn gyflym iawn, cyn i unrhyw don omicron bosibl ein taro, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac rwy'n credu ei fod yn ateb cadarnhaol. Credaf ei bod yn gywir inni ddefnyddio pob arf sydd gennym at ein defnydd a galw ar y fyddin a'r fyddin o wirfoddolwyr y sonioch chi amdanynt hefyd. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu, ac wrth gwrs, mae'n newyddion da fod gennym y cyflenwad hwnnw hefyd.
Ond mae un maes yr hoffwn ei godi, ac mae hyn, unwaith eto, yn ymwneud â chanolfannau galw i mewn ar gyfer brechiadau atgyfnerthu. Codais hyn gyda chi ddoe, ac fe gyfeirioch chi at gyngor y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu y dylid gweithio drwy bob grŵp oedran yn eu trefn, ac fe honnoch chi unwaith eto y byddai'n agored i bawb. Nawr, rwy'n credu efallai fod camddealltwriaeth wedi bod ynglŷn â beth yw canolfan galw i mewn a sut y mae'n gweithredu. Cyngor GIG Lloegr yw bod llythyrau, negeseuon testun ac e-byst yn cael eu hanfon yn awtomatig at y rhai sydd angen cael brechiad atgyfnerthu, ac y gellir mynd â hwy wedyn i'r ganolfan galw i mewn. Ac os nad ydych chi'n cael un, gallwch ofyn i'ch meddyg teulu. Felly, heb lythyr, ni chewch bigiad. Felly, dyma'r drefn gywir ac mae wedi'i wneud ar sail angen, ond mae hefyd yn golygu bod y rhai sydd i gael y brechiad atgyfnerthu yn gallu gwneud hynny cyn gynted â phosibl ac mor hawdd â phosibl iddynt hwy.
Rydym yn awr ar bwynt lle mae'r amrywiolyn newydd, wrth gwrs, wedi'i ganfod yn y DU, a byddwn yn dweud bod yn rhaid inni atgyfnerthu'r rhaglen atgyfnerthu. A dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain y bore yma, 'Os ydynt am i ni fod yn rhan'—gan siarad amdanoch chi—'Os ydynt am i ni fod yn rhan o'r ymgyrch brechiadau atgyfnerthu COVID, mae'n rhaid i rywbeth roi wrth gwrs.' Felly, er mwyn sicrhau bod gennym nifer sylweddol o bobl yn manteisio ar y brechiad atgyfnerthu, mae'n amlwg fod angen i ni ddefnyddio pob arf sydd ar gael i ni. Felly, gyda meddygon teulu wedi'u gorlethu, a gaf fi ofyn yn awr i chi ailystyried y ffordd rydych chi wedi gwrthod canolfannau galw i mewn fel modd o gefnogi'r broses o gyflwyno'r pigiad atgyfnerthu?
Mae'n ddrwg gennyf os bu rhywfaint o gamddealltwriaeth ynglŷn â'r sefyllfa gyda'r BMA. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, wrth gwrs, maent yn ymwybodol fod eu haelodau dan bwysau enfawr eisoes, ond nid wyf yn credu eu bod yn cau'r drws ar yr opsiwn o gael meddygon teulu i helpu os gelwir arnynt i wneud hynny. Yr hyn roeddent yn ei ddweud yw, os gwnawn hynny, yna, yn amlwg, bydd yn rhaid i rywbeth arall roi. Nawr, rydym yn deall hynny. Credwn fod hyn yn flaenoriaeth yn awr er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein llethu'n ddiweddarach, a gwn y bydd practisau meddygon teulu ledled Cymru yn fwy na pharod i gamu i'r adwy gyda hyn.
O ran canolfannau galw i mewn, wel, efallai ein bod yn cymysgu terminoleg yma. Mae'n amlwg fod gennym ganolfannau brechu torfol, lle mae pobl yn dod i mewn gyda'u hapwyntiadau. Felly, mae hynny'n swnio'n eithaf tebyg i ganolfan galw i mewn i mi, os mai am hynny rydych chi'n sôn, ac mae'r rheini gennym ledled Cymru wrth gwrs. Yn amlwg, rydym yn edrych ar sut y gallwn gynyddu'n aruthrol y nifer o bobl sy'n cael eu derbyn i'r canolfannau hynny.
Diolch, Weinidog. Rwy'n deall, os mai camddealltwriaeth yw hyn, fod hynny'n gadarnhaol—efallai'n gam ymlaen i sicrhau bod gennym ganolfannau brechu galw i mewn ledled Cymru, oherwydd mae rhai byrddau iechyd eisoes yn gweithredu'r rheini. Felly, credaf efallai y byddai'n ddefnyddiol rhoi eglurhad i fyrddau iechyd ynglŷn â'ch safbwyntiau chi mewn perthynas â chanolfannau galw i mewn ar gyfer rhoi'r brechiad atgyfnerthu.
Fe wyddoch chi a minnau, Weinidog, ein bod yn wynebu lefel ddigynsail o alw ar y GIG. Yn anffodus, mae gennym amseroedd aros gwaeth nag erioed mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ochr yn ochr â'r amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf erioed. Ar ben hynny, mae un o bob pump o boblogaeth Cymru ar restr aros. Yn fwyaf arbennig, mae'n destun pryder mawr mai 59 y cant o gleifion canser a gafodd eu trin o fewn 62 diwrnod o'r dyddiad yr amheuid bod ganddynt ganser. Gwyddom hefyd o'ch ffigurau eich hun fod 20,000 yn llai o bobl wedi cael eu hatgyfeirio ar frys am ddiagnosis canser rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd y llynedd, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, cyn y pandemig, a dechreuodd 1,700 yn llai o bobl gael triniaeth yn ystod blynyddoedd cyntaf y pandemig. Felly, mae'r gweithlu canser hefyd wedi'i ymestyn y tu hwnt i gapasiti. Nawr, cyhoeddodd eich rhagflaenydd y datganiad ansawdd ar gyfer canser ym mis Mawrth, ond cafodd ei feirniadu'n ddifrifol gan y Gynghrair Ganser am nad oedd yn cynnwys digon o fanylion ac atebolrwydd, sy'n golygu mai ni fydd yr unig wlad yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn ymateb yn fanylach i ddadl yr Aelod y prynhawn yma. Ond a gaf fi ofyn i chi pa mor bell rydych chi wedi mynd gyda'ch cynlluniau i gyflwyno canolfannau diagnosis cyflym ar draws pob bwrdd iechyd, pa gynnydd rydych yn ei wneud ar hybiau llawfeddygol rhanbarthol, a pha bryd y byddwch yn cyhoeddi strategaeth ar gyfer y gweithlu canser?
Diolch yn fawr. Wel, nid oes unrhyw amheuaeth fod ein gwasanaethau GIG dan bwysau na welsant erioed mo'i debyg o'r blaen. Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn y galw, ond gallaf eich sicrhau bod gwasanaeth canser wedi bod yn wasanaeth hanfodol erioed; nid yw erioed wedi bod yn rhywbeth rydym wedi'i ddiffodd. Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol mewn offer newydd, a bydd gennyf lawer mwy i'w ddweud am hynny yn y ddadl yn ddiweddarach. Mae'r llwybr canser yn ddull o weithredu sy'n unigryw yn y Deyrnas Unedig, ac yn sicrhau ein bod yn cyfrif pobl o'r dyddiad y ceir amheuaeth o ganser. Mae'n ddull gwahanol iawn, ac efallai fod hynny'n gwneud rhywfaint i egluro pam y gwelwn lawer mwy ar restrau aros yng Nghymru, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r ffordd rydym yn cyfrif cleifion yng Nghymru yn wahanol iawn. Maent yn cael eu cyfrif mewn ffordd wahanol iawn yn Lloegr, yn enwedig mewn perthynas â chanser. Felly, mae diagnosis cyflym yn bwysig iawn wrth gwrs, ac mae datblygu gweithlu digonol yn allweddol hefyd, a dyna pam ein bod yn buddsoddi yn y rheini hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r Gweinidog wedi disgrifio yn reit frwdfrydig sut mae am greu byddin frechu ar gyfer cyflymu cynlluniau i roi'r booster. Does yna ddim llawer o fanylion eto; mae'n eithaf cynnar. Dwi'n edrych ymlaen at weld rhagor o'r manylion. Ond, er fy mod i'n ymwybodol o'r datganiad gafodd ei gyhoeddi heddiw am ddiwygio contractau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol, rydyn ni wedi clywed pryderon gan y BMA heddiw fod yna broblem ddifrifol o gapasiti gan feddygon teulu i gyfrannu at wneud y gwaith. Felly, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu gweithredu'r cynlluniau brechu yma, yn cynnwys gofal sylfaenol, ac ar yr un pryd drio sicrhau bod gofal sylfaenol yn gynaliadwy?
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, bydd yna broblem capasiti os ydyn ni'n mynd i daflu popeth at hwn yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn amlwg, fe fydd yn rhaid i bethau eraill gymryd sedd sydd ychydig tu ôl i hynny. O ran gofal sylfaenol, rŷn ni'n ymwybodol iawn fod pwysau aruthrol arnyn nhw, ond mae'n ddiddorol i weld bod rhai meddygon teulu wedi bod yn barod i ddod i'r adwy, i gymryd yr awenau yn fan hyn. Fel rydych chi wedi gweld yn ardal Pen Llŷn, er enghraifft, maen nhw eisoes wedi bod yn helpu gyda'r boosters. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n deall y sefyllfa. Dwi'n obeithiol iawn y bydd meddygon teulu yn camu i'r adwy, ynghyd â phobl ar draws Cymru, y rheini sy'n wirfoddolwyr ac, wrth gwrs, bobl o lywodraeth leol ac ati hefyd.
Diolch am yr ateb yna. Pan fydd y Gweinidog yn sôn am rai pethau'n gorfod cael eu rhoi yn y sedd gefn, dyna dwi'n poeni amdano fo, ac mae yna, wrth gwrs, oblygiadau difrifol iawn—y mwyaf difrifol—pan fydd rhai pethau'n cael eu rhoi yn y sedd gefn, a dwi'n meddwl am ganser a'r angen am ddiagnosis canser, er enghraifft. Mae yna lawer o bobl sydd yn dal, o bosib, yn cadw draw o ofal sylfaenol, â pheswch, a dylen nhw fod yn cael triniaeth oherwydd efallai mai canser yr ysgyfaint ydy o, ond yn dewis am ba bynnag rheswm i gadw draw. Mi ges i gyfarfod â Tenovus ddoe, oedd yn disgrifio beth roedden nhw'n ei weld fel nifer devastating, i'w dyfynnu nhw, o bobl rŵan oedd ddim yn canfod canser yr ysgyfaint, er enghraifft, tan gyfnod 4. Mi fyddai strategaeth i sicrhau bod canser yn cael ei ganfod yn gynnar, wrth gwrs, yn rhan allweddol o'r cynllun canser newydd i Gymru rydyn ni'n wirioneddol angen ei weld. Ond, beth mae'r Gweinidog am ei wneud rŵan i sicrhau (1) fod pobl yn teimlo eto'n ddiogel i fynd at y meddyg teulu, (2) eu bod nhw yn gallu gweld meddygon teulu, a (3) pan fydd hi'n dod at ganser, fod y referral yn dal yn gallu digwydd rŵan, hyd yn oed pan fyddwn ni'n wynebu'r amrywiolyn newydd yma sy'n achosi cymaint o bryder?
Wel, diolch yn fawr. Mae'n rili bwysig i danlinellu'r ffaith bod canser bob amser wedi cael blaenoriaeth a'i fod wastad wedi bod yn wasanaeth hanfodol, hyd yn oed ar ddechrau'r pandemig. Felly, dydyn ni byth wedi cymryd y ffaith fod hwnna'n flaenoriaeth i ni i ffwrdd o'r cynllun. Bydd hi'n bwysig i ni gael cyngor clinigol ynglŷn â beth fydd yn rhaid inni ei roi yn y sedd gefn wrth inni ddatblygu'r system frechu yma dros yr wythnosau nesaf. Bydd yn rhaid i hwnna fod yn benderfyniad clinigol, a byddaf yn edrych ymlaen at dderbyn cyngor ar hynny.
O ran gweld meddyg teulu, rydych chi wedi gweld heddiw ein bod ni wedi gwneud cyhoeddiad. Bydd mwy o arian yn mynd i mewn i sicrhau bod pobl yn gallu cael gwell access i weld meddygon teulu. Mae £12 miliwn wedi mynd tuag at hynny, yn cynnwys systemau newydd ac yn cynnwys y ffaith efallai y gallen nhw recriwtio mwy o bobl er mwyn gwneud y penderfyniadau yna, a bod pobl yn cael eu harwain at y gwasanaeth cywir a'r person cywir. Nid y GP yw'r person cywir ar bob achlysur. Felly, mae hwnna'n rhywbeth rydyn ni'n awyddus iawn i'w weld, ac rydyn ni'n falch dros ben ein bod ni wedi cael cytundeb oddi wrth y GMC.
Dwi am newid trywydd ar gyfer fy nhrydydd cwestiwn, os caf i. Roedd yna groeso cyffredinol yn ddiweddar pan wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y byddai tasglu menopos yn cael ei greu fel rhan o'r strategaeth iechyd menywod. Dydy hi ddim yn hollol glir, o bosib, lle mae'r ffiniau o ran datganoli yn hyn o beth, ond yn sicr mae yna fwy o ddisgwyliadau gan ferched yng Nghymru rŵan, a da o beth ydy hynny, yn sgil y cyhoeddiad yna yn San Steffan.
Mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod ym mis Hydref, mi ddaeth hi'n reit amlwg fod yna dipyn o loteri cod post mewn difrif pan fydd hi'n dod at wasanaethau sy'n cael eu cynnig i ferched sy'n mynd drwy'r menopos yma yng Nghymru. Felly, all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa gamau y mae hi am eu gweld yn cael eu cymryd i wella gofal menopos yng Nghymru? Pa bryd welwn ni effaith y camau hynny yn cael eu cymryd? A sut allwn ni fod yn hyderus y bydd yr adnoddau ar gael i roi'r gofal y mae menywod ei angen wrth fynd drwy'r menopos?
Wel, diolch yn fawr, a diolch am y cwestiwn. Fel menyw sydd o'r oedran yna ble mae'n rhaid inni ofidio am y pethau yma, dwi'n falch o weld bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dilyn beth rŷn ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi bod yn cynnig HRT am ddim ers blynyddoedd lawer, felly mae'r chwyldro sy'n digwydd yn Lloegr wedi bod mewn lle ers blynyddoedd lawer yma yng Nghymru. Rŷch chi'n eithaf reit o ran y loteri cod post, ac un o'r pethau sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau dyw menywod ddim yn gorfod aros cweit mor hir cyn bod pobl yn deall mai dyna yw'r rheswm pam, efallai, maen nhw'n teimlo'r ffordd y maen nhw. Dyna pam dwi wedi gofyn i'r women's implementation group, sy'n gyfrifol am edrych ar iechyd—. Ar hyn o bryd, maen nhw'n edrych ar ychydig iawn o bethau mewn ffordd eithaf cul, o ran mesh ac ati. Dwi wedi gofyn iddyn nhw feddwl am sut gallan nhw ehangu ar hynny. Un peth dwi'n benderfynol o'i wneud yw edrych ar raglen iechyd i fenywod, a byddwch chi'n clywed mwy am hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.