Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch yn fawr iawn. Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio i ddiwallu anghenion eu trigolion. Mae gwaith wedi'i wneud ar y cyd drwy gydol y pandemig i ragweld y galw ac i ddatblygu capasiti ymchwydd i ymdopi â'r adegau prysuraf a ragwelir. Mae sicrhau capasiti digonol ar gyfer y gaeaf yn flaenoriaeth allweddol ac mae'n rhywbeth sy'n cael ei drafod yn rheolaidd gyda byrddau iechyd, ac mae wedi'i gynnwys yng nghynlluniau'r gaeaf.