Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog. Mae'r polisi cenedlaethol yn nodi ni ddylai cleifion ganfod triniaeth feddygol mewn bwrdd iechyd arall heblaw i bob opsiwn lleol methu â darparu'r driniaeth honno. Mae e'n effeithio'n drwm iawn ar gymunedau sydd ar y ffiniau. Dwi'n meddwl am Frynaman Uchaf, er enghraifft, yn fy etholaeth i, lle mae pentref wedi'i rhannu'n ddwy—Brynaman Isaf ym mwrdd iechyd rhanbarth Abertawe a Brynaman Uchaf wedyn ym mwrdd iechyd Hywel Dda—sy'n golygu, wrth gwrs, fod yr amser i gyrraedd ysbyty Glangwili o Frynaman Uchaf dair gwaith yr amser y byddai'n cymryd i gyrraedd yr ysbyty agosaf yn Abertawe. Ers cyflwyno'r polisi cenedlaethol yma yn 2018, mae'r trigolion lleol yn teimlo bod yna waethygu wedi bod yn eu triniaeth glinigol. Felly, onid dyma'r amser, Weinidog, i adolygu'r polisi er mwyn sicrhau bod yna ddatrysiad sydd yn deg i'r cymunedau hynny sy'n digwydd bod ar gyrion ein rhanbarthau iechyd?