Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:59, 1 Rhagfyr 2021

Dwi am newid trywydd ar gyfer fy nhrydydd cwestiwn, os caf i. Roedd yna groeso cyffredinol yn ddiweddar pan wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y byddai tasglu menopos yn cael ei greu fel rhan o'r strategaeth iechyd menywod. Dydy hi ddim yn hollol glir, o bosib, lle mae'r ffiniau o ran datganoli yn hyn o beth, ond yn sicr mae yna fwy o ddisgwyliadau gan ferched yng Nghymru rŵan, a da o beth ydy hynny, yn sgil y cyhoeddiad yna yn San Steffan.

Mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod ym mis Hydref, mi ddaeth hi'n reit amlwg fod yna dipyn o loteri cod post mewn difrif pan fydd hi'n dod at wasanaethau sy'n cael eu cynnig i ferched sy'n mynd drwy'r menopos yma yng Nghymru. Felly, all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa gamau y mae hi am eu gweld yn cael eu cymryd i wella gofal menopos yng Nghymru? Pa bryd welwn ni effaith y camau hynny yn cael eu cymryd? A sut allwn ni fod yn hyderus y bydd yr adnoddau ar gael i roi'r gofal y mae menywod ei angen wrth fynd drwy'r menopos?