Y Cytundeb Cydweithio

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:30, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae mecanweithiau'r cytundeb cydweithio a gyhoeddwyd y bore yma yn ddiddorol iawn. Ac o ystyried yr effaith enfawr y bydd y glymblaid hon yn ei chael ar bobl Cymru, mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno datganiad llafar i'r Siambr yn amlinellu'r mecanweithiau hyn, fel y gall Aelodau gael y cyfle i graffu a gofyn cwestiynau. Mae hyd yn oed yn fwy siomedig nad yw'r Prif Weinidog yma i ymateb i'r cwestiwn pwysig hwn. Felly, Drefnydd, a allwch chi egluro i ni pam fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â gwneud datganiad ar y cytundeb hwn yn y Siambr, a pham ei bod yn hytrach yn cael ei gorfodi i ymateb i gwestiwn amserol gan y gwrthbleidiau? Oherwydd rwy'n siŵr y byddai hyd yn oed Aelodau meinciau cefn y Blaid Lafur yn croesawu'r cyfle i graffu ar y fargen benodol hon.

Gan droi at fanylion y mecanweithiau, mae'r ddogfen yn cadarnhau bod

'Llywodraeth Cymru yn cytuno i wneud penderfyniadau ar y cyd â Phlaid Cymru ar draws y meysydd y cytunwyd i gydweithio arnynt' ar 46 o feysydd polisi. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod ganddi hyblygrwydd i ehangu cwmpas y cytundeb hwn, oherwydd mae'r ddogfen yn dweud bod

'Gall unrhyw benderfyniad i ehangu cwmpas y cydweithio yn y cytundeb hwn yn y cyfamser ac unrhyw ddiwygiad arall iddo gael eu gwneud drwy gytundeb ar y cyd rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru.'

Ac mae ehangu cwmpas y cytundeb hwn hyd yn oed yn fwy eglur, gan fod Plaid Cymru wedi cytuno i hwyluso'r broses o basio cyllidebau blynyddol ac atodol yn gyfnewid am ddylanwad ar faterion cyllidebol eraill. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn bod y cytundeb hwn yn cwmpasu mwy na dim ond y 46 maes polisi a nodwyd ganddo'n wreiddiol i bobl Cymru y bore yma?

Wrth gwrs, bydd y cytundeb yn cael effaith ar fusnes y Senedd, a sylwaf fod y ddwy blaid yn honni eu bod yn parchu annibyniaeth system bwyllgorau'r Senedd a rolau a swyddogaethau penodol y pleidiau yn y Senedd. Felly, Drefnydd, a allwch chi gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Llywydd ynghylch effaith y cytundeb hwn ar fusnes y Senedd?

Mae'r ddogfen hefyd yn ei gwneud yn glir y bydd y cytundeb cydweithio yn cael ei gefnogi gan uned gwasanaeth sifil, a elwir yn uned y cytundeb cydweithio. Felly, Drefnydd, a allwch chi ddweud wrthym yn union faint o arian trethdalwyr sydd wedi'i glustnodi ar gyfer yr uned newydd hon, ac yn wir unrhyw agweddau eraill ar beirianwaith a fydd yn cael ei roi ar waith i gefnogi'r cytundeb penodol hwn?

Mae'r ddogfen hefyd yn dweud y bydd gan Aelodau dynodedig o Blaid Cymru yr un cyfrifoldebau â Gweinidogion Llywodraeth Cymru i barchu didueddrwydd gwleidyddol y gwasanaeth sifil, ac y byddant wedi'u rhwymo i agweddau ar y cod gweinidogol. A allwch chi ddweud wrthym pam fod hynny'n wir, o gofio bod y ddogfen yn ei gwneud yn glir na fyddant yn cael eu cynrychioli gan benodiadau gweinidogol neu ddirprwy weinidogol yn Llywodraeth Cymru? Drefnydd, a wnaeth arweinydd Plaid Cymru anghofio gofyn am benodiadau gweinidogol i Blaid Cymru?

Ac yn olaf, mae'r cytundeb hwn yn dweud bod cyfraniad Plaid Cymru yn cael ei gydnabod fel rhan o gyfathrebiadau arferol y Llywodraeth, ac o'r herwydd, mae hon yn glymblaid ym mhob dim ond enw. Felly pam na wnaiff Llywodraeth Cymru fod yn onest gyda phobl Cymru a'i alw yr hyn ydyw—sef clymblaid?