Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Efallai nad yw'n glymblaid, ond mae'n edrych fel un. Rwy'n croesawu'r cytundeb. Rwy'n croesawu cyhoeddi'r dogfennau heddiw sy'n sail i'r cytundeb; credaf fod hynny'n bwysig o ran tryloywder. Rwy'n croesawu wleidyddiaeth y cytundeb; rwy'n credu ei fod yn beth da i'w wneud. Ac rwy'n croesawu'r datganiad gan y Llywydd y bore yma ar y cyngor y mae wedi'i gael.
Ond mae hyn yn codi cwestiynau i ni fel Senedd, ac nid wyf yn credu y gall y Llywodraeth eu brwsio o dan y mat ac esgus nad ydynt yn bodoli. Mae'r Llywodraeth eisoes yn rhy bwerus yn y Siambr hon. Mae'n bwerus, ac nid yw'n destun yr un prosesau craffu â Llywodraethau eraill, naill ai yn San Steffan neu Holyrood, neu hyd yn oed yn Stormont. Felly, mae cwestiynau yma, oherwydd bydd gan Blaid Cymru rôl sy'n mynd y tu hwnt i gytundeb cyllideb rydym wedi'i gael o'r blaen. Mae'r ffaith bod pwyllgor cyllid o fewn y Llywodraeth yn goruchwylio gwariant cyhoeddus yn iawn yn fy marn i, a chredaf ei fod yn briodol, ac rwy'n ei groesawu, ond mae'n wahanol ac mae'n rhoi Plaid Cymru mewn sefyllfa wahanol.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod yna Aelodau dynodedig. Rwy'n croesawu penodiad Siân Gwenllian, a welais ar Twitter yn gynharach y prynhawn yma. Credaf y bydd yn grymuso Llywodraeth Cymru, a chredaf y bydd yn cryfhau Llywodraeth Cymru, ond unwaith eto, mae'n codi cwestiynau ynglŷn â chraffu. Rwy'n croesawu'r ffaith bod cytundebau ar waith rhwng y ddwy blaid i reoli busnes yn y Siambr hon. Unwaith eto, mae hynny'n codi cwestiynau. Nid yw'n gredadwy dadlau bod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn golygu nad oes gan Blaid Cymru rôl weithredol. Nid yw honno'n ddadl gredadwy i'w gwneud.
Rwy'n credu bod angen inni ystyried y mater hwn. Nid wyf yn siŵr mai'r ffordd orau o ddatrys y materion hyn yw drwy gwestiwn amserol y prynhawn yma, ond credaf fod angen i Swyddfa'r Llywydd, a'r Llywodraeth, a phob un ohonom fel Aelodau, fabwysiadu'r un agwedd tuag at graffu ar y Llywodraeth ag y mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi'i mabwysiadu tuag at gyflawni gwaith y Llywodraeth. Mae llywodraeth dda yn gwella drwy graffu gwell. Mae angen inni sicrhau bod y strwythurau ar waith yn y Senedd hon i sicrhau na fydd y Senedd hon yn dod yn ddiangen ac yn ddim ond gwyliwr dros y tair blynedd nesaf.