Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb ddaru ymateb i'r drafodaeth yma y prynhawn yma. Mi ddaru ni glywed i gychwyn, wrth gwrs, gan Laura Anne Jones. Diolch iddi hithau am ei geiriau caredig, a hithau'n pwysleisio unwaith eto y diffyg staff a'r rhestrau aros hanesyddol hir yna, ond fod pethau ddim o reidrwydd wedi gwella, â phobl yn mynd heb ddiagnosis am gyfnodau maith.
Rhun wedyn yn sôn am hanes trist teuluol—cydymdeimladau, wrth gwrs, i Rhun ac i bawb arall sydd wedi sôn am eu hamgylchiadau personol. Roedd o'n sôn am yr angen am gynllun canser cenedlaethol, yn pwysleisio'r angen yna am strategaeth a ffocws clir, ac yna ein bod ni'n gweld yr angen am ganolfannau diagnosis, sgrinio cynnar, cynllun gweithlu clir ac yn y blaen—yr angen yna i gael y strategaeth mewn lle.
Roedd Janet Finch-Saunders, wrth gwrs, yn sôn am y nifer sy'n cael triniaeth yn is na'r targed, fel rydyn ni wedi clywed, eto yn pwysleisio'r angen am strategaeth a hefyd yn pwysleisio'r angen i gael cyngor clir i gleifion hefyd yn yr achos yma.
Russell George—diolch yn fawr iawn, Russ, am y geiriau caredig, eto yn pwysleisio effaith y pandemig a'r galw am yr angen i leihau'r amseroedd yma, a'r ymateb brys sydd ei angen er mwyn cael diagnostics sydyn a sicrhau bod pobl yn goroesi oherwydd diagnostics sydyn. Diolch yn fawr iawn i Russell George.
Roedd Jenny Rathbone yn gwneud pwyntiau pwysig iawn, yn enwedig ar y diwedd yn sôn am ganser pancreatig a'r rôl bwysig mae maethegwyr yn medru ei chwarae yn hyn o beth, a maeth i gleifion, a phwysigrwydd timau amlddisgyblaethol pan fo'n dod i adnabod canser.
Ac yn olaf, wrth gwrs, diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei hymateb. Rydych chi'n sôn am y buddsoddiad sydd yn cael ei roi mewn. Wrth gwrs, rydyn ni yn cydnabod effaith y pandemig yma ac yn diolch yn fawr iawn, yn amlwg, am unrhyw fuddsoddiad ychwanegol. Rydych chi'n sôn am ffigurau sydd tu hwnt i fy nealltwriaeth i—am £0.25 biliwn rydych chi'n sôn; ffigurau mawr iawn—ac yn sôn am fframwaith glinigol. Ond eto, yr hyn ddaru ni ddim ei glywed oedd y gair 'strategaeth'; er y fframwaith a'r fframweithiau gwahanol, doeddech chi ddim yn sôn am strategaeth genedlaethol, sydd yn golygu fod Cymru yn mynd i fod heb strategaeth ganser glir. Ydy'r fframweithiau yma efo'i gilydd yn mynd i fod yn rhyw fath o strategaeth? Dydy hynny ddim yn glir. Felly, dwi'n edrych ymlaen i weld beth fydd strategaeth canser y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.
Ac er y buddsoddiad yma o filiynau o bunnoedd—pres cyfalaf, yn bennaf, dwi'n cymryd, ydy hynna—does yna ddim sôn wedi bod am bres i ariannu'r bwlch yma yn y staffio, sydd yn parhau. Fel roeddem ni'n sôn, mae nifer y radiolegwyr dipyn yn is yma yng Nghymru na thrwy weddill y cyfandir, ac mae angen i ni leihau'r bwlch yna a sicrhau fod y staff yna gennym ni. Felly, dwi'n edrych ymlaen i weld pa fuddsoddiad fyddwch chi'n ei roi mewn er mwyn cau'r bwlch yna, oherwydd os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â hyn a sicrhau fod pobl yn cael diagnosis cynnar, ac felly yn medru goroesi'r salwch, yna mae'n rhaid cael y staff yna mewn lle er mwyn adnabod y clefyd ymlaen llaw.
Ac yn olaf, doedd yna ddim sôn am adolygiad Richards a pha wersi rydych chi'n eu dysgu o'r adolygiad yna yn Lloegr. Mae yna wersi pwysig iawn yna, dwi'n meddwl, sydd angen i'r Llywodraeth bigo i fyny arnynt. Felly, a wnewch chi roi ystyriaeth i'r gwersi hynny, a hwyrach o bosib ddod â chyflwyniad arall i'r Senedd yma rhyw ben i sôn am pa wersi rydych chi yn eu dysgu gan adroddiad Richards? Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd.