5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis a thriniaeth canser

– Senedd Cymru am 3:53 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:53, 1 Rhagfyr 2021

Eitem 5 yw'r nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): diagnosis a thriniaeth canser. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7842 Mabon ap Gwynfor

Cefnogwyd gan Altaf Hussain, Cefin Campbell, Heledd Fychan, James Evans, Jane Dodds, Janet Finch-Saunders, Joel James, Laura Anne Jones, Luke Fletcher, Mark Isherwood, Paul Davies, Peter Fox, Rhun ap Iorwerth, Rhys ab Owen, Sam Rowlands, Siân Gwenllian, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru.

2. Yn cydnabod:

a) mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018).

b) bod COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru, gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

c) bod amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai 61.8 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed perfformiad llwybr canser tybiedig o 75 y cant.

d) hyd yn oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi, patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol.

e) heb fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol, neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau yn gynnar.

f) bod Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i gefnogi gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi ymhellach. 

g) mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod gan bob gwlad.

3. Yn croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i ddatblygu clinigau diagnostig cyflym.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar gyfer canser, gan gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith;

b) mynd i'r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a diagnostig;

c) ystyried sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike Richards o wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:53, 1 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno’r cynnig yma heddiw ger eich bron, a diolch i’r holl Aelodau eraill sydd wedi ei gefnogi o. Mae’r nifer sydd wedi cefnogi'r cynnig yn dyst i bwysigrwydd y testun.

Mae canser, wrth gwrs, yn rhywbeth sydd yn agos iawn at bob un ohonom ni—yn llawer rhy agos mewn gwirionedd. Mae fy nhad yn glaf canser, ac wedi bod ers diwedd 2019. Yn ôl yn yr haf, cafodd fy nhad y newyddion da fod y canser wedi diflannu, a'i fod mewn remission. Roedd yn achos dathlu, wrth reswm. Yna, ar ddechrau’r hydref, wrth fynd am ei brofion, gwelwyd fod y tyfiant wedi dod yn ôl.

Dwi’n dyst, felly, i’r ffaith fod y broses ddiagnosis, aros am ganlyniadau, aros am driniaeth, aros am atebion pan fo rhywbeth annisgwyl yn codi—hyn oll yn boen meddwl creulon, a gallaf ddim dychmygu'r gwewyr mae fy nhad a mam yn gorfod mynd drwyddo heb wybod os ydy’r erchyll beth yma yn tyfu ynghynt y tu mewn iddo, neu wedi ymledu.

Ond dydw i ddim ar fy mhen fy hun yn byw'r profiadau yma. Mae yna filoedd o gleifion a theuluoedd yng Nghymru yn byw'r profiad yma yn ddyddiol ac, wrth gwrs, mae eraill yn y Siambr yma heddiw wedi ei brofi o, dwi’n siŵr.

Rydyn ni oll, wrth gwrs, heddiw, yn cofio am yr annwyl a'r diweddar Steffan Lewis, a gyfrannodd gymaint mewn amser llawer yn rhy fyr, ac fe'i gollwyd o i ganser.

Wrth gyflwyno’r cynnig yma heddiw, dwi am ganolbwyntio ar effaith COVID ar wasanaethau canser, y gweithlu, amseroedd aros a diagnosis.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:55, 1 Rhagfyr 2021

Wel, mae ychydig o dan 20,000 o bobl yn derbyn diagnosis canser yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae'n wybyddus i bawb erbyn hyn fod canser yn lladd mwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw glefyd arall. Y newyddion da ydy fod y nifer sy'n goroesi'r clefyd yma yn cynyddu, gyda 60 y cant o’r cleifion a dderbyniodd ddiagnosis rhwng 2014 a 2018 yn goroesi eu canser am bum mlynedd neu fwy, sydd yn dangos bod triniaethau yn gwella.

Ond er y camau ymlaen, mae effaith COVID-19 a'r diffyg staff yn y gwasanaeth iechyd yn debyg o arwain atom ni'n gweld y niferoedd sydd yn goroesi yn lleihau am y tro cyntaf. Mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru wedi'u dwysáu oherwydd COVID, fel ym mhob sector o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae ffigurau'r Llywodraeth yn dangos bod 20,000 yn llai o bobl wedi cael eu cyfeirio ar frys am ddiagnosis canser rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2020 o'i gymharu â chyn y pandemig. Gwyddom bellach fod 1,700 yn llai o bobl wedi dechrau triniaeth canser yng Nghymru yn y flwyddyn rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021. Arweiniodd y COVID yma at y gwasanaethau canser yn cael eu tarfu'n sylweddol gan beryglu diagnosis a’i wneud yn anoddach i’w drin, a oedd wedyn yn arwain at ddirywiad yn eu cyfleoedd i oroesi.

Gwyddom hefyd fod staff y gwasanaeth iechyd wedi blino'n lan ar ôl ymateb i'r pandemig, yn ogystal â cheisio cynnal y gwasanaethau canser, tra hefyd yn ceisio cynnal mwy o fesurau rheoli heintiau. Ond, er bod llawer o wasanaethau canser bellach wedi dychwelyd, i raddau helaeth, i'r lefelau lle yr oedden nhw cyn COVID, y gwir ydy nad oedd canlyniadau canser yng Nghymru yn ddigon da cyn y pandemig. Fedrwn ni felly ddim mynd yn ôl i fel oedd pethau. Erys yr angen i drawsnewid gwasanaethau ar frys er mwyn gwella canlyniadau canser yn y tymor hir.

Sydd yn dod â mi at y gweithlu. Dwi eisiau gosod ar record yma heddiw ein diolch i’r gweithlu sydd wedi mynd yr ail filltir drosodd a thro yn ystod y cyfnod anodd diweddar. Fel mab i glaf canser, dwi’n diolch yn bersonol iddyn nhw, a dwi’n sicr fod y diolch hwnnw yn cael ei ategu gan bawb yma heddiw. Ond, y gwir anghyfleus ydy fod y gwasanaeth iechyd wedi dibynnu ar ewyllys da'r gweithlu er mwyn cynnal y gwasanaeth, gyda rhagor nag un o bob pedwar meddyg yn gweithio dros oriau yn ddi-dâl. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu diagnostig a chanser, megis delweddu, endosgopi, patholeg ac oncoleg nad yw'n lawfeddygol, neu non-surgical oncology.

Mae’r bylchau yma wedi effeithio yn sylweddol ar ein gallu i adnabod canser yn gynnar; darparu'r math mwyaf effeithiol o driniaeth; a gwella cyfleoedd goroesi. Er enghraifft, tra bod yna gynnydd wedi bod yng ngweithlu ymgynghorwyr oncoleg glinigol trwy’r Deyrnas Gyfunol a thrwy Ewrop, does yna ddim cynnydd wedi bod yn y bum mlynedd ddiwethaf yn ardal Betsi Cadwaladr. Yn 2020, dim ond 7.8 radiolegydd am bob 100,000 o’r boblogaeth oedd yng Nghymru, tra bod y cyfartaledd Ewropeaidd yn 12.8. Yn wir, mae gan Gymru hanner nifer y radiolegwyr i bob pen o’r boblogaeth ag sydd gan Ffrainc a Sbaen. Ac mae gan ogledd a gorllewin Cymru'r nifer lleiaf o radiolegwyr clinigol y pen o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol.

Mae yna gamau y gellir eu cymryd yn y tymor byr i ddiwallu’r sefyllfa, megis cymysgu sgiliau. Gall arloesi efo technolegau newydd helpu i wneud y mwyaf o allu'r gweithlu canser hefyd. Ac, wrth gwrs, mae’n rhaid edrych ar gefnogi lles y gweithlu er mwyn eu cadw. Ond, tra gall y camau yma helpu, dim ond trwy fynd i’r afael â’r argyfwng yn y gweithlu go iawn y cawn ni ddatrysiad i’r cwestiwn ehangach o staffio. Rhaid felly gweld y Llywodraeth yn ehangu'r nifer o staff mewn proffesiynau canser allweddol drwy fuddsoddi mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff canser i lenwi'r swyddi gwag cyfredol a sicrhau bod gan y gweithlu'r gallu i ateb y galw cynyddol, yn ogystal ag amser i arloesi a thrawsnewid gwasanaethau.

Daw hyn â fi at y pwynt nesaf, sef amseroedd aros. Mae’n deg dweud, fel rydym ni wedi sôn, fod COVID wedi cael effaith andwyol ar y gwasanaethau canser. Dengys data mis Medi 2021 fod 59 y cant o gleifion wedi derbyn triniaeth cyntaf o fewn 62 niwrnod i’r amheuaeth fod ganddyn nhw ganser. Mae hyn ymhell o dan y targed o 75 y cant. Mae’r ystadegyn pryderus yma yn dweud wrthym ni fod llawer gormod o gleifion yn aros llawer rhy hir cyn cael diagnosis neu driniaeth. Ond fedrwn ni ddim gwella’r canlyniadau heblaw ein bod ni’n gweld cynnydd yn y gweithlu a’r offer angenrheidiol er mwyn ei ddal yn ddigon cynnar.

Rŵan, mae’r llwybr amheuaeth o ganser, a gafodd ei gyhoeddi nôl yn y gwanwyn, i'w groesawu. Ond mae angen gwneud mwy i leihau yr amseroedd aros a rhoi’r cyfle gorau posib i gleifion gael diagnosis cynnar, i gael triniaeth buan ac i oroesi.

Dwi hefyd yn croesawu’r datganiad ansawdd ar gyfer canser a gyhoeddwyd eleni. Ond mae’n ddatganiad sydd yn annigonol. Nid strategaeth canser mohoni, ac mae’r strategaeth canser flaenorol bellach yn dirwyn i ben. Cymru, felly, fydd yr unig genedl yn y Deyrnas Gyfunol heb strategaeth canser, rhywbeth y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y dylai pob Llywodraeth ei mabwysiadu. Mae'n rhaid cryfhau’r datganiad ansawdd canser, felly, a datblygu strategaeth canser i Gymru ar fyrder.

Yn olaf, dwi am droi'n sydyn at adolygiad Richards gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Un o argymhellion allweddol yr adolygiad hwnnw oedd hybiau diagnostig ar gyfer diagnostig dewisol, elective diagnostics, a chymryd yr elfennau megis sganio a phrofion allan o ysbytai acíwt er mwyn adeiladu capasiti. Ond, wrth gwrs, mae angen buddsoddiad ychwanegol i greu’r rhain, ynghyd â gweithlu, offer ac yn y blaen. Mae angen i’r Llywodraeth, felly, roi ystyriaeth lawn i hyn, a byddwn yn annog y Llywodraeth i ymchwilio i fewn i’r posibilrwydd o sefydlu peilot, gyda golwg i ddatblygu hybiau o’r fath yma yng Nghymru.

Felly, i gloi, rydym ni'n cydnabod bod yr argyfwng COVID wedi gwneud pethau yn anodd iawn i'r gwasanaeth canser a gwasanaethau iechyd eraill, ac rydym ni'n diolch yn swyddogol i'r gweithlu am eu dewrder a'u gwaith yn ystod y cyfnod yma. Ond doedd pethau ddim yn iawn cyn hynny. Rydyn ni'n cydnabod bod yna gamau wedi cael eu cymryd i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen llawer iawn mwy. Mae'n rhaid gweld buddsoddi yn y gweithlu, sydd yn golygu cynyddu'r cyfleoedd hyfforddiant a chynyddu'r niferoedd, yn arbennig felly'r gweithlu arbenigol. Mae angen strategaeth canser glir, gan adeiladau ar y datganiad a wnaed yn y gwanwyn, gan osod gweledigaeth, targedau clir ac atebolrwydd. Ac yn olaf, mae angen gweld ymrwymiad i dreialu a mabwysiadu rhai o'r argymhellion yn adroddiad Richards. Wedi'r cyfan, does dim angen ailddyfeisio'r olwyn. Trwy weithredu’r rhain, gallwn fod yn hyderus y caiff fwy o gleifion ddiagnosis sydyn ac y bydd cyfraddau goroesi yn cynyddu. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 4:02, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Mabon am gyflwyno dadl mor bwysig heddiw, a dweud hefyd ei bod yn ddrwg gennyf glywed beth y mae ei deulu'n mynd drwyddo a chlywed y rhesymau personol pam y daeth â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw.

Bydd y pwyntiau a godwyd hyd yma yn peri pryder a gofid i bobl ar hyd a lled ein gwlad. Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y llwybr canser sengl newydd i gleifion yng Nghymru i sicrhau bod triniaeth yn dechrau, os amheuir bod ganddynt ganser, o fewn 62 diwrnod yn newyddion i'w groesawu ar ôl blynyddoedd o restrau aros cynyddol am ddiagnosis a thriniaeth canser. Bu'n adlewyrchiad cywilyddus o ddiffyg gweithredu hanesyddol Llywodraethau Llafur olynol i fynd i'r afael ag amseroedd aros rhy hir am ddiagnosis a thriniaeth canser. Er gwaethaf cyflwyno'r llwybr sengl newydd, mae rhestrau aros erchyll o hir yn dal i fod yn bla yng Nghymru ac maent yn dal i fynd yn hirach. Yn gwbl amlwg, mae angen llawer mwy i unioni'r argyfwng canser presennol sy'n ein hwynebu. Mae cyfran sylweddol o'r broblem wedi'i hachosi gan brinder cronig o staff ysbyty ar draws adrannau ein byrddau iechyd. Unwaith eto, rydym wedi gweld Llywodraethau Llafur olynol yn caniatáu i'n GIG wynebu sefyllfa eithriadol o anodd ar eu pen eu hunain.

Un peth yw cyflwyno strategaethau newydd i leihau rhestrau aros a gwella canlyniadau i gleifion, ond nid oes ffordd y gall wneud hynny. Os nad ydym yn sicrhau bod digon o staff i gyflawni canlyniadau, ni fydd y strategaeth newydd hon yn ddim mwy na phlastr dros glwyf dwfn iawn. Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ers iddo ddechrau ym mis Mawrth 2020. Rydym i gyd wedi clywed straeon am wahanol bobl yr amheuir bod ganddynt ganser yn mynd heb ddiagnosis am lawer rhy hir, gan waethygu ôl-groniadau hanesyddol. Yn anffodus, roedd y rhan fwyaf o'r problemau hyn yma ymhell cyn i'r pandemig daro. Er gwaethaf argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd y dylai pob gwlad gael strategaeth ganser ar waith, mae'n destun pryder enfawr i mi fod Cymru'n dal i aros am gynllun gweithredu clir, aml-elfen a all fynd i'r afael â chraidd y broblem.

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ac mae angen iddi weithredu nawr. Mae gwir angen gosod strategaeth ar waith yn y tymor byr i fynd i'r afael â'r problemau staffio uniongyrchol sy'n wynebu'r GIG. Heb hyn, ni all fod unrhyw obaith o leihau rhestrau aros. Yn wir, efallai mai gweld rhestrau aros yn cynyddu a wnawn fel arall. Mae angen cyplysu hyn â chyflwyno cynllun hirdymor i leihau rhestrau aros, fel y gall cleifion gael triniaeth cyn gynted â phosibl, cyn y targed 62 diwrnod os oes modd. Ni all y Llywodraeth Lafur orffwys ar ei rhwyfau mwyach a chladdu ei phen yn y tywod o dan y camargraff y bydd problemau'n datrys eu hunain. Ni allant ymroi i feio San Steffan ychwaith, oherwydd mae'r cyfrifoldeb yma, gyda Llywodraeth Lafur Cymru.

Mae'r materion hyn yn galw am ymyrraeth frys ac wedi'i thargedu nawr. Mae diagnosis cyflym yn gwbl allweddol. Mae angen rheoli'r sefyllfa, neu fel arall byddwn yn parhau i weld rhestrau aros rhy hir a mwy o farwolaethau wedi'u hachosi gan ganser, marwolaethau y gellid bod wedi osgoi llawer ohonynt yn gyfan gwbl gyda chamau gweithredu priodol. Nid yw'r ffaith mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb strategaeth yn ddigon da; mae'n bryd gweithredu.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:05, 1 Rhagfyr 2021

Diolch i Mabon am ddod â'r cynnig yma o'n blaenau ni heddiw yma. Mae pobl Cymru'n aros yn rhy hir am driniaeth canser, ac mae hynny'n effeithio ar ba mor debygol ydyn nhw o oroesi. Dyna ydy'r gwir sylfaenol sy'n gefndir i'r cynnig yma heddiw, ac wrth wraidd yr ateb mae'r angen am gynllun canser cenedlaethol newydd i Gymru. Mae'r Gweinidog wedi clywed y galwadau cyson ac uchel gan y gwahanol randdeiliaid bod angen cynllun o'r fath; dydy'r datganiad ansawdd ar gyfer canser ddim yn rhoi inni y strategaeth, y cynllun gweithredu clir, sydd ei angen. Mi oedd angen, wrth gwrs, strategaeth felly cyn y pandemig, ac mae hynny gymaint mwy gwir erbyn hyn.

Ym mlwyddyn gyntaf y pandemig, mi wnaeth 1,700 yn llai o bobl ddechrau triniaeth canser nag y bydden ni wedi'i ddisgwyl o ffigurau'r cyfnod cyn hynny. Mi all y Gweinidog ddod i'r Senedd, fel y gwnaeth hi'n gynharach heddiw wrth ateb cwestiynau gen i, a dweud bod canser wedi parhau yn flaenoriaeth drwy gydol y pandemig. Dwi ddim yn amau o gwbl mai dyna oedd y dymuniad, ond mae'r ystadegau'n dweud stori wahanol, onid ydyn? Mae ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod 20,000 yn llai o bobl wedi cael referral brys am ddiagnosis canser yn naw mis cyntaf y pandemig na'r cyfnod cyn hynny. Mi gafodd y pandemig effaith sylweddol—mae disgwyl hynny, wrth gwrs, i raddau helaeth, ond yr ymateb i hynny rydym ni'n sôn amdano fo heddiw. Felly, mae angen nid gwneud mwy o'r un peth hyd yn oed, ond mae angen trawsnewid gwasanaethau i allu bwrw ymlaen efo'r adferiad COVID, ac mae angen cynllun canser cenedlaethol newydd er mwyn gwneud hynny. Rydym ni angen canolfannau diagnosis newydd ar frys. Rydym ni angen gweld cryfhau sgrinio cynnar, fel profion iechyd yr ysgyfaint—y lung health checks—sydd, rydym ni'n gwybod, yn gweithio. Does dim angen mwy o dystiolaeth, mewn difrif; maen nhw yn gweithio ac rydym ni eisiau ei wneud o yng Nghymru. Rydym ni angen cynllun gweithlu clir. Mi oedd yna dyllau mawr yn y gweithlu cyn y pandemig; mae llenwi'r tyllau hynny yn fater mwy argyfyngus nag erioed rŵan. Mae'r gweithlu yn wych. Mae unrhyw un sydd wedi dod ar eu traws nhw yn methu â diolch digon iddyn nhw am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ond mae yna ddiffyg yn y gweithlu hwnnw, a'r pwysau wedyn ar y rhai o fewn y gweithlu yn anghynaliadwy. Mae angen buddsoddi yn y gweithlu hwnnw, a buddsoddi ar frys.

Dwi angen gwneud y pwynt yma hefyd: mae angen gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y buddsoddiadau cywir yn yr hirdymor ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru. Dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn ddiweddar i ofyn iddi edrych eto a gwrando eto ar farn arbenigwyr canser sy'n galw am gydleoli canolfan canser newydd yn y brifddinas ar yr un safle â'r ysbyty athrofaol, yn dilyn y patrymau rhyngwladol arferol erbyn hyn. Ydy hi wir yn argyhoeddedig bod y penderfyniad sydd wedi ei gymryd hyd yma yr un gorau? Achos mae'n rhaid sicrhau bod cleifion canser Cymru heddiw a'r dyfodol yn cael y gwasanaethau gorau posib.

Dirprwy Lywydd, dwi'n falch iawn, fel dwi'n dweud, o allu cefnogi'r cynnig yma heddiw, achos mae o'n gyfle arall inni gofio'r angen am ffocws clir ar elfen sydd mor allweddol o'n gwasanaethau iechyd a gofal. Mi wnaeth Mabon sôn am y profiad mae o a'i deulu'n mynd drwyddo fo ar hyn o bryd, ac rydym ni'n dymuno'n dda iawn i dad yn ei frwydr o. Ein profiad ni fel teulu oedd bod y diagnosis wedi dod yn rhy hwyr i mam, bron i 10 mlynedd yn ôl bellach, iddi hi allu cael unrhyw driniaeth o gwbl, felly dwi'n dymuno yn dda i unrhyw un sy'n cael y cyfle hwnnw i allu brwydro. Ond mi allwn ni wella gobeithion pobl o gael diagnosis cynnar, o gael referral amserol, o gael triniaeth effeithiol, o oroesi canser, ond wnaiff o ddim ond digwydd efo penderfynoldeb digyfaddawd a chynllun cenedlaethol clir.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:11, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, unwaith eto, hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn ddiffuant i Mabon ap Gwynfor AS am gyflwyno'r cynnig pwysig iawn hwn, yn ogystal ag i'r 15 Aelod a gefnogodd y galwadau pwysig hyn i fynd i'r afael ag amseroedd aros hir am ddiagnosis a thriniaethau canser. Fel y bydd y ddadl hon yn dangos yn glir, mae amseroedd aros canser y GIG ar gyfer mis Medi 2021 yn dangos mai 59 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, sy'n llawer is na tharged y llwybr canser o 75 y cant.

Weinidog, roedd datganiad ansawdd mis Mawrth ar gyfer canser yn gyfle i Lywodraeth Cymru nodi strategaeth ar gyfer gwella diagnosis canser, ond mae'n brin o fanylion pellach a mecanweithiau atebolrwydd. Fel y dywedodd Cancer Research UK yn glir, cyn bo hir Cymru fydd yr unig wlad yn y DU heb strategaeth ganser y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad. Rwy'n ymuno â fy nghyd-Aelodau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gamau nesaf y datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gofynnaf i chi fanylu ar ba fecanweithiau sy'n cael eu hystyried ar gyfer cyflymu'r broses o olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith.

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd bylchau sylweddol yn y gweithlu yng Nghymru sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi, oncoleg nad yw'n feddygol a nyrsys arbenigol. Canlyniad y bylchau staffio hyn yw bod achosion gofidus yn troi at fy swyddfa i chwilio am gymorth, gan gynnwys achosion lle mae cleifion yn cael gwybod am ddiagnosis o ganser sy'n newid bywyd dros y ffôn, yn hytrach na drwy sgwrs bersonol, wyneb yn wyneb.

Yn ogystal â phrinder staff, mae'n wir yng ngogledd Cymru fod yn rhaid i'r bwrdd iechyd atgyfeirio llawer o gleifion yn ôl i Loegr i gael y driniaeth angenrheidiol. O fod yn cynorthwyo etholwr yn ddiweddar iawn, gwn nad yw'r broses yn llyfn, gydag oedi, er enghraifft, oherwydd bod cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol rhwng bwrdd Betsi Cadwaladr a'r ysbyty perthnasol yn Lloegr weithiau ond yn digwydd unwaith yr wythnos. Mae'n ymddangos bod datganoli'n peri oedi diangen ac annerbyniol i driniaethau canser. Mae arnom angen gwell cydweithrediad ar draws y ffiniau a'r GIG ledled y DU, fel nad yw trigolion gogledd Cymru dan anfantais oherwydd diffyg arbenigedd yn y rhanbarth. Gwyddom fod aflonyddu ar wasanaethau hefyd yn peryglu diagnosis ar gamau diweddarach, gan ei wneud yn llawer anos ei drin a chan leihau'r nifer sy'n goroesi canser.

Felly, hoffwn gloi drwy ofyn i'r Gweinidog ddefnyddio ei hateb i gadarnhau a fydd cyllideb aml-flwyddyn Llywodraeth Cymru sydd i'w chyhoeddi cyn bo hir yn cael ei defnyddio fel cyfle i fuddsoddi yn y gweithlu canser yng Nghymru yn y tymor hir, ac rwy'n gofyn yn gadarn iawn, yn sicr yng ngogledd Cymru, am weld gweithredu'n digwydd ynglŷn â'r modd y rhoddir gwybod i gleifion am afiechydon gydol oes o'r fath sy'n newid bywydau. Diolch.

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:14, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n credu ei fod yn fater eithriadol o bwysig y credaf fod pob plaid yn poeni yn ei gylch yn y Siambr hon, ac mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn yn ddigon cyflym, mewn gwirionedd, i roi fy enw i gefnogi'r ddadl cyn ei chyflwyno. Ond hoffwn nodi y byddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw, ac rwy'n cytuno â'r pwyntiau yn y cynnig y mae Mabon wedi'i gyflwyno. 

Yn anffodus, credaf fod cleifion canser wedi cael eu gadael ar ôl yng Nghymru. Ers gormod o amser rydym wedi gohirio sgrinio, wedi oedi cyn rhoi triniaeth, ac mae'r pandemig wedi rhoi straen sylweddol ar weithlu sydd eisoes wedi'i orlwytho, ac mae nifer sylweddol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol bellach yn dioddef straen a gorflinder. Os yw Cymru am ateb y galw cynyddol a sicrhau canlyniadau rhagorol i gleifion canser, rhaid iddi fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG fel mater o frys. Felly, rwy'n cefnogi'n gryf yr alwad ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phrinder staff yn y gweithlu canser.

A nodaf mai Cymru fydd yr unig wlad yn y DU cyn bo hir heb strategaeth canser. Ac fel y mae dau Aelod eisoes wedi nodi, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai pob gwlad gael strategaeth. Felly, o gofio bod tri Aelod bellach wedi sôn am hynny yn y ddadl heddiw, gobeithio y gall y Gweinidog fynd i'r afael â'r pwynt hwnnw'n benodol. Ond rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys yn hynny o beth, ac mae angen gweledigaeth ar Gymru i nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru a sut y bydd yn cefnogi gwasanaethau i adfer yn sgil effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi canser drwy arloesi a thrawsnewid yn y tymor hir.

Ar ddechrau'r ddadl, nododd Mabon ei brofiad a'i sefyllfa deuluol ei hun, ac rwy'n tybio bod canser wedi effeithio ar bob Aelod o'r Siambr hon mewn rhyw ffordd, a bydd hynny yr un fath i bobl ledled Cymru. Felly, rwy'n credu ei fod yn destun pryder mawr i bob un ohonom, onid yw, pan fydd gennym restrau aros hirach, a chredaf y bydd hynny'n effeithio ar bob person ledled Cymru yn yr ystyr y byddant yn bryderus ynghylch rhestrau aros hirach ar gyfer canser. Gwn y bydd cyd-Aelodau'n sicr yn cytuno â hynny.

Ond drwy'r pandemig, gwelsom amseroedd aros hirach nag erioed. Dangosodd amseroedd aros canser y GIG ar gyfer mis Medi fod 59 y cant o gleifion wedi cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuid bod ganddynt ganser, ac mae hyn yn llawer is na'r llwybr canser o 75 y cant. Felly, ni fyddwn yn gwella canlyniadau canser oni bai ein bod yn lleihau amseroedd aros yng Nghymru. A chredaf fod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i fuddsoddi yn y staff a'r seilwaith sydd eu hangen i helpu mwy o bobl i gael diagnosis a thriniaeth amserol, fel y nododd Mabon yn ei sylwadau agoriadol. Felly, byddaf yn sicr yn cefnogi'r cynnig heddiw fel y'i cyflwynwyd, a gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn unol â hynny i'r ddadl hon y prynhawn yma. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:18, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hoff iawn o naws y drafodaeth heddiw, oherwydd mae hwn yn fater emosiynol iawn. Mae gennym ni i gyd deulu neu ffrindiau sydd wedi cael neu sydd â chanser, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn ystyriol yn y ffordd rydym yn trafod hyn.

Credaf mai un o'r problemau mwyaf gyda chanser yw bod pobl yn aml yn araf iawn i ofyn am gyngor. Mae gwir angen i bobl wrando ar eu cyrff a meddwl, 'Nid yw hyn yn normal, efallai fod angen i mi fynd at y meddyg.' Ac rwy'n credu ei bod yn ffaith hysbys fod dynion yn llawer llai tebygol na menywod o ofyn am gyngor yn gyflym. Ond hefyd rwy'n credu bod pobl sydd â lefelau isel o hunan-barch, sydd â disgwyliadau isel o beth y gall gwasanaethau eu gwneud drostynt, yn cymryd yn ganiataol ei fod yn rhan o'u stori ac maent yn meddwl, 'Wel, nid wyf yn teimlo'n dda, ond nid oes neb yn mynd i wneud unrhyw beth yn ei gylch.' Mae'n rhaid ei bod yn anodd iawn i glinigwyr allu gwahaniaethu rhwng pobl iach sy'n poeni a'r ymwelydd amharod â'r meddyg teulu a allai fod yn dweud y stori lawn wrth y clinigwr, neu a allai beidio â gwneud hynny, a meddwl, 'O, nid wyf am drafferthu'r meddyg.' Felly, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol anodd, ac nid oes diben i bawb gael eu hanfon am brawf canser, oherwydd yn amlwg byddai hynny'n tagu'r gwasanaethau y mae pobl yr amheuir bod ganddynt ganser eu hangen mewn gwirionedd. Ond mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddyg teulu feddwl yn ddeallusol, 'A yw hyn yn rhywbeth y bydd meddyginiaeth syml yn ei ddatrys, neu a oes rhywbeth mwy na hynny'n digwydd yma? A yw'r person hwn wedi colli pwysau yn ddiweddar?'

Felly, rwy'n credu ei fod yn fater anodd iawn, ac yn y pen draw, mae pob un ohonom yn marw o rywbeth, ac yn aml rydym yn marw o ganser oherwydd ein bod wedi byw y tu hwnt i'n defnyddioldeb. Ond yn amlwg, y mathau gwaethaf o ganser yw'r rhai y bydd pobl ifanc iawn yn eu dioddef, gan gynnwys plant a phobl ifanc yn gyffredinol, oherwydd bod y canser yn llawer mwy ffyrnig. Rwy'n adnabod rhywun sydd wedi bod yn byw gyda chanser y prostad ers 15 mlynedd; mae hyn yn eithaf normal os ydych chi'n oedrannus. Mae pobl yn byw gyda chanser yn berffaith iawn gyda chymorth triniaeth briodol.

Mae gennyf ffrind, ffrind agos, sy'n marw o ganser y pancreas, ac rwy'n ymwybodol mai dyma un o'r canserau anoddaf i'w trin, ac felly roeddwn yn awyddus iawn i dderbyn y cynnig o gyfarfod gyda Pancreatic Cancer UK yn ddiweddar, ac roedd tyst arbenigol yno a oedd yn wraig i rywun a oedd wedi marw o ganser y pancreas yn ystod y pandemig. Roedd yn ddefnyddiol iawn gwrando ar y wraig yn sôn sut y cafodd ei gŵr ei drin, sut y llwyddodd o'r diwedd i weld y meddyg teulu yn ystod y cyfyngiadau symud, ond dim ond am iddo fynnu y cafodd weld y maethegwyr, felly roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn darllen y llwybr cenedlaethol gorau ar gyfer canser y pancreas, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2020 yn anffodus—am resymau rydym i gyd yn ymwybodol ohonynt nid oedd yn fis da ar gyfer sefydlu newid. Ond rwy'n falch iawn o weld bod y llwybr hwnnw'n datgan yn glir iawn na ddylai pobl aros am drafodaeth tîm amlddisgyblaethol lleol cyn atgyfeirio rhywun at y grŵp canser gastroberfeddol uchaf lleol, yn ogystal ag at y maethegwyr. Mae hyn yn gwbl allweddol er mwyn ystyried rhoi therapi amnewid ensymau pancreatig, oherwydd mae natur canser y pancreas yn golygu na all eich corff dreulio bwyd. Mae'n ymddangos yn amlwg iawn, ond rwyf am glywed gan y Gweinidog pam ei bod yn meddwl mai dim ond tri o bob pump o bobl—yn ôl sefydliad Pancreatic Cancer UK—sy'n cael therapi amnewid ensymau pancreatig, sef y prionau sydd eu hangen arnoch. Oherwydd er na wnaeth achub bywyd y person roedd ei weddw yn y drafodaeth, fe wnaeth ei alluogi i gael ansawdd bywyd rhesymol tra gallai, er mwyn rhannu prydau gyda'i deulu, a chredaf fod hynny'n gwbl hanfodol ac yn enghraifft dda o sut y mae trin canser yn fater ar gyfer tîm amlddisgyblaethol cyfan o bobl, nid y meddyg sy'n arbenigwr canser yn unig, oherwydd mae'n effeithio ar gynifer o bobl. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:23, 1 Rhagfyr 2021

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Mabon am gyflwyno'r ddadl Aelodau hon a dweud ei bod hi'n ddrwg gennyf glywed am sefyllfa ei dad. Rydym i gyd yn dymuno'n dda iddo gyda'i sefyllfa.

Er y bydd y Llywodraeth yn ymatal, mae'n fater hollbwysig, fel yr adlewyrchwyd yng nghyfraniadau'r Aelodau heddiw, yn bwysicaf oll o ran sut y mae'n effeithio ar ein hetholwyr, ond hefyd sut y mae wedi effeithio ar fywydau teuluoedd a chyfeillion yr Aelodau eu hunain. Credaf mai ychydig iawn o bobl sydd heb gael rhyw fath o brofiad personol o weld effeithiau canser, ac fel y crybwyllwyd, gwelsom hynny'n glir iawn yn y Siambr yn y cyfraniad anhygoel a wnaeth Steffan Lewis yn yr amser byr y bu gyda ni yn y Siambr. Yn anffodus, collais fy chwaer-yng-nghyfraith, Polly, yn ifanc iawn i ganser ddwy flynedd yn ôl, i'r clefyd creulon hwn.

Nawr, mewn cyfnod mwy arferol, byddem yn sôn am ganser fel prif achos marwolaeth, prif achos colli blynyddoedd o fywyd o ganlyniad i farwolaeth gynamserol, a phrif achos blynyddoedd bywyd a addaswyd o achos anabledd yn sgil yr effaith gorfforol barhaus ar oroeswyr canser. Dyna pam y mae iddo broffil mor sylweddol a pham ei fod yn ffocws mor fawr i unrhyw Lywodraeth.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:25, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Nid un peth yw canser, wrth gwrs; mae'n fwy na 200 o glefydau. Clefyd y broses heneiddio ydyw yn bennaf, ond gellir atal cyfran sylweddol o achosion, yn enwedig drwy fynd i'r afael â chyfraddau ysmygu a gordewdra. Cyn y pandemig cawsom nifer o fersiynau o strategaethau a chynlluniau cyflawni cenedlaethol, a gwelsom flynyddoedd olynol o welliant graddol mewn cyfraddau goroesi a marwolaethau canser, yn ogystal â lefelau uchel iawn o brofiad cadarnhaol ymhlith cleifion. Roeddem wedi buddsoddi'n helaeth mewn offer radiotherapi, wedi cyflwyno'r archwiliad cyflawn cyntaf yn y DU o amseroedd aros canser, ac wedi sefydlu arweinyddiaeth genedlaethol ragorol ar gyfer datblygu gwasanaethau canser. Ac rwy'n falch o nodi bod rhan 3 o'r cynnig yn cydnabod un o lwyddiannau nodedig y dull gweithredu hwn, sef sefydlu cysyniad y ganolfan ddiagnostig gyflym. Mae hyn yn dangos sut y gall dull cenedlaethol helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer modelau gwasanaeth newydd, ariannu cynlluniau peilot o ansawdd uchel, datblygu sylfaen dystiolaeth a chefnogi'r gwaith o gyflwyno hyn ar lefel fwy ledled Cymru.

Mae'n anochel fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ofal canser. Yn gynnar yn y pandemig, aeth llawer llai o bobl i ofyn am archwiliad. Ataliwyd y rhaglenni sgrinio dros dro, nid oedd rhai pobl am fynychu eu hapwyntiadau, a newidiwyd therapi rhai pobl i leihau eu risg. Gwnaethom gyhoeddi canllawiau ar gyfer gwasanaethau hanfodol ar unwaith, gan gynnwys ymchwiliadau a thriniaeth canser, a daeth ein gwasanaethau canser at ei gilydd yn gyflym i newid y ffordd roeddent yn darparu gwasanaethau.

Tua diwedd 2020, roedd gweithgarwch atgyfeirio'n gwella, diolch byth, wrth i niferoedd arferol o bobl ddechrau mynd at eu meddyg teulu, ond roedd y ffigurau'n dangos bod llai o bobl nag y byddai disgwyl iddynt gael eu gweld fel arfer wedi cael eu gweld y llynedd. O ddechrau 2021 rydym wedi gweld atgyfeiriadau ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser yn cynyddu'n sylweddol uwchlaw'r lefelau arferol, ac mae hyn yn cyfuno â chapasiti cyfyngedig yn deillio o absenoldeb staff a mesurau atal heintiau. Y galw uwch nag arfer a'r capasiti is nag arfer yw'r hyn sy'n gyrru'r perfformiad amseroedd aros canser a ddisgrifir yn y cynnig.

Mae staff y GIG yn parhau i weithio'n eithriadol o galed i archwilio a thrin pobl â chanser, ac maent yn trin mwy o bobl nag mewn blynyddoedd blaenorol. Fel Llywodraeth, rydym yn darparu adnoddau ychwanegol i'r GIG i ymgymryd â chymaint â phosibl o weithgarwch sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, ac rwyf wedi gwneud adfer gwasanaethau canser yn flaenoriaeth gynllunio i'r GIG, fel yr adlewyrchir yn ein dull o adfer, 'COVID-19: Edrych tua'r dyfodol', wedi'i gefnogi gan bron i £250 miliwn o adnoddau ychwanegol.

Er nad oes gennym unrhyw dystiolaeth glir ar hyn o bryd o ganlyniadau canser gwaeth, credwn fod y tarfu a ddigwyddodd yn sgil y pandemig yn debygol o gael effaith yn y blynyddoedd i ddod. Yn anffodus, mae cyfnodau pandemig yn gwneud llawer o niwed anuniongyrchol i lefelau mynediad at ofal iechyd arferol, fel y mae'r prif swyddog meddygol wedi'i nodi'n fanwl.

Yn ogystal â'n dull ehangach o adfer, ym mis Mawrth eleni cyhoeddwyd y datganiad ansawdd ar gyfer canser, fel y soniodd llawer o bobl. Ac a gaf fi fod yn glir fy mod yn deall y pryderon a godwyd mewn perthynas â'r dull gweithredu newydd hwn? Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ystyried sut y gwnaethom gyrraedd y pwynt hwnnw, ac mae hyn yn mynd yn ôl at adolygiadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac adolygiadau seneddol, a arweiniodd at ymrwymiadau a wnaed yn 'Cymru Iachach', ac rydym wedi ymrwymo yn 'Cymru Iachach' i gyflwyno cyfres o ddatganiadau ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru. Ni allwn gyflawni'r ymrwymiad hwn a dal i gydymffurfio â'i resymeg tra'n glynu wrth yr hen ffordd o wneud pethau.

Yr hyn y ceisiwn ei gyflawni yw dull integredig gwell a mwy effeithiol yn seiliedig ar ansawdd o weithredu nifer o wasanaethau clinigol; dull sy'n cyd-fynd yn well â'r fframwaith cynllunio ar gyfer cyrff GIG lleol ac sy'n llywio'n well y trefniadau atebolrwydd a ddefnyddiwn gyda holl gyrff lleol y GIG. A disgrifir y dull hwn yn fanwl iawn yn y fframwaith clinigol cenedlaethol. Dyma'r dull rydym wedi penderfynu y bydd yn gweithio orau i Gymru ac i'n system iechyd. Mae'n ffordd gwbl newydd o wneud pethau, ond mae'n adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r dull gweithredu ar gyfer canser wedi'i seilio ar alluogi i wella ansawdd. Mae'n canolbwyntio'n helaeth ar ei gwneud hi'n bosibl canfod a chael triniaeth yn gynharach. Mae ffocws pwysig hefyd ar gyflwyno system gwybodeg canser newydd, gan alluogi dull gwell o gynllunio'r gweithlu canser a chefnogi'r gwaith o gynllunio gwasanaethau'n well.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:30, 1 Rhagfyr 2021

Bydd y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd yn ymateb drwy eu cynlluniau lleol i’r datganiad ansawdd. Byddwn ni wrth reswm yn llywio datblygiad y cynlluniau hynny ac yn monitro’r datblygiad hefyd. Bydd bwrdd Rhwydwaith Canser Cymru yn cefnogi’r byrddau iechyd gyda’r llwybrau sy’n gweithio orau yn genedlaethol—y llwybrau sydd angen eu mabwysiadu. Byddan nhw hefyd yn helpu’r byrddau iechyd i dynnu’r data i gyflenwi gwasanaethau ac i ddod â nhw ynghyd. Mae’r llwybrau cenedlaethol hyn yn cael eu cynnwys yn y datganiad ansawdd ac mae nifer o fanylebau gwasanaeth wedi eu cynnwys yn barod.

Rŷn ni wedi cyhoeddi yn barod fod tua £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn offer delweddu—offer fel sganwyr CT, MRI a PET/CT. Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr, ac i gefnogi’r buddsoddiad hwn, bydd rhagor o leoliadau hyfforddi ar gael i radiolegwyr a radiograffwyr. Mae hyn i gyd yn bosibl diolch i’n hacademi delweddu. Rŷn ni wedi cynyddu nifer ein lleoliadau hyfforddi yn sylweddol yn y maes oncoleg. Mae hyn yn wir hefyd mewn meysydd arbenigol cysylltiedig sy’n trin pobl sydd â chanser, fel iwroleg a gastroenteroleg. Mae rhagor o waith i’w wneud eto o safbwynt cynllunio’r gweithlu canser a diagnosteg, ond mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n barod drwy’r cynlluniau cenedlaethol perthnasol.

Byddwn ni’n buddsoddi bron i £6.5 miliwn mewn system wybodaeth canser newydd. Mae hon yn rhaglen waith uchelgeisiol iawn sy’n cyffwrdd â phob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Rydym ni am gyflwyno cofnod cleifion integredig cadarn ar gyfer pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser. Rydym ni’n buddsoddi miliynau mewn cyflymwyr llinellol—linear accelerators—newydd, sef dyfeisiau sy’n rhoi triniaeth radiotherapi. Yn ogystal ag hynny, rydym ni’n bwrw ymlaen gyda chanolfan ganser newydd yn y de-ddwyrain ac yn ystyried y posibilrwydd hefyd o sefydlu is-ganolfan radiotherapi yn yr ardal er mwyn gwella mynediad.

Y flwyddyn nesaf, byddwn ni hefyd yn cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol a fframwaith cyflenwi gwasanaeth iechyd. Cyn gynted ag y bydd cytundeb terfynol ar y rhain, byddwn yn diweddaru’r datganiad ansawdd gyda’r targedau a’r metrigau canser perthnasol. Bydd bwrdd Rhwydwaith Canser Cymru yn rhan o weithrediaeth y gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd hyn yn sicrhau yn y dyfodol y bydd yr agenda hon yn elwa ar gefnogaeth arweinwyr sy’n gweithio ar lefel uchel iawn a bydd pob rhan o’r system yn gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Mae hon yn agenda hynod o uchelgeisiol—agenda dwi’n hyderus a fydd yn helpu i liniaru effaith y pandemig ac yn caniatáu inni wella canlyniadau i gleifion unwaith eto.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:33, 1 Rhagfyr 2021

Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb ddaru ymateb i'r drafodaeth yma y prynhawn yma. Mi ddaru ni glywed i gychwyn, wrth gwrs, gan Laura Anne Jones. Diolch iddi hithau am ei geiriau caredig, a hithau'n pwysleisio unwaith eto y diffyg staff a'r rhestrau aros hanesyddol hir yna, ond fod pethau ddim o reidrwydd wedi gwella, â phobl yn mynd heb ddiagnosis am gyfnodau maith. 

Rhun wedyn yn sôn am hanes trist teuluol—cydymdeimladau, wrth gwrs, i Rhun ac i bawb arall sydd wedi sôn am eu hamgylchiadau personol. Roedd o'n sôn am yr angen am gynllun canser cenedlaethol, yn pwysleisio'r angen yna am strategaeth a ffocws clir, ac yna ein bod ni'n gweld yr angen am ganolfannau diagnosis, sgrinio cynnar, cynllun gweithlu clir ac yn y blaen—yr angen yna i gael y strategaeth mewn lle.

Roedd Janet Finch-Saunders, wrth gwrs, yn sôn am y nifer sy'n cael triniaeth yn is na'r targed, fel rydyn ni wedi clywed, eto yn pwysleisio'r angen am strategaeth a hefyd yn pwysleisio'r angen i gael cyngor clir i gleifion hefyd yn yr achos yma.

Russell George—diolch yn fawr iawn, Russ, am y geiriau caredig, eto yn pwysleisio effaith y pandemig a'r galw am yr angen i leihau'r amseroedd yma, a'r ymateb brys sydd ei angen er mwyn cael diagnostics sydyn a sicrhau bod pobl yn goroesi oherwydd diagnostics sydyn. Diolch yn fawr iawn i Russell George. 

Roedd Jenny Rathbone yn gwneud pwyntiau pwysig iawn, yn enwedig ar y diwedd yn sôn am ganser pancreatig a'r rôl bwysig mae maethegwyr yn medru ei chwarae yn hyn o beth, a maeth i gleifion, a phwysigrwydd timau amlddisgyblaethol pan fo'n dod i adnabod canser. 

Ac yn olaf, wrth gwrs, diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei hymateb. Rydych chi'n sôn am y buddsoddiad sydd yn cael ei roi mewn. Wrth gwrs, rydyn ni yn cydnabod effaith y pandemig yma ac yn diolch yn fawr iawn, yn amlwg, am unrhyw fuddsoddiad ychwanegol. Rydych chi'n sôn am ffigurau sydd tu hwnt i fy nealltwriaeth i—am £0.25 biliwn rydych chi'n sôn; ffigurau mawr iawn—ac yn sôn am fframwaith glinigol. Ond eto, yr hyn ddaru ni ddim ei glywed oedd y gair 'strategaeth'; er y fframwaith a'r fframweithiau gwahanol, doeddech chi ddim yn sôn am strategaeth genedlaethol, sydd yn golygu fod Cymru yn mynd i fod heb strategaeth ganser glir. Ydy'r fframweithiau yma efo'i gilydd yn mynd i fod yn rhyw fath o strategaeth? Dydy hynny ddim yn glir. Felly, dwi'n edrych ymlaen i weld beth fydd strategaeth canser y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd.

Ac er y buddsoddiad yma o filiynau o bunnoedd—pres cyfalaf, yn bennaf, dwi'n cymryd, ydy hynna—does yna ddim sôn wedi bod am bres i ariannu'r bwlch yma yn y staffio, sydd yn parhau. Fel roeddem ni'n sôn, mae nifer y radiolegwyr dipyn yn is yma yng Nghymru na thrwy weddill y cyfandir, ac mae angen i ni leihau'r bwlch yna a sicrhau fod y staff yna gennym ni. Felly, dwi'n edrych ymlaen i weld pa fuddsoddiad fyddwch chi'n ei roi mewn er mwyn cau'r bwlch yna, oherwydd os ydyn ni'n mynd i fynd i'r afael â hyn a sicrhau fod pobl yn cael diagnosis cynnar, ac felly yn medru goroesi'r salwch, yna mae'n rhaid cael y staff yna mewn lle er mwyn adnabod y clefyd ymlaen llaw.  

Ac yn olaf, doedd yna ddim sôn am adolygiad Richards a pha wersi rydych chi'n eu dysgu o'r adolygiad yna yn Lloegr. Mae yna wersi pwysig iawn yna, dwi'n meddwl, sydd angen i'r Llywodraeth bigo i fyny arnynt. Felly, a wnewch chi roi ystyriaeth i'r gwersi hynny, a hwyrach o bosib ddod â chyflwyniad arall i'r Senedd yma rhyw ben i sôn am pa wersi rydych chi yn eu dysgu gan adroddiad Richards? Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd.  

Photo of David Rees David Rees Labour 4:38, 1 Rhagfyr 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.