6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 1 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:53, 1 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Iawn, rwy'n dod at y diwedd. Roedd yn un o lawer. Dosbarthodd fwy na 2,300 o brydau bwyd yn ystod ton gyntaf y pandemig, gyda chymorth clwb rygbi'r Gilfach Goch a'r gymuned leol, i bobl agored i niwed a'r henoed. Weinidog, rwyf am ddweud yn syml: gadewch inni ddathlu'r busnesau hyn, a darparu'r cymorth sydd ei angen arnynt yn y dyfodol hefyd. Diolch yn fawr iawn.