– Senedd Cymru ar 1 Rhagfyr 2021.
Yr eitem nesaf yw dadl gyntaf y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, ar fusnesau bach. Galwaf ar Paul Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7854 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod dydd Sadwrn busnesau bach sy'n hyrwyddo busnesau bach Cymru.
2. Yn credu mai busnesau bach yw calonnau'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a'u bod yn rhan hanfodol o economi Cymru.
3. Yn annog cymunedau i siopa'n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu, gan greu swyddi i bobl leol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau mewn polisi caffael ar draws y sector cyhoeddus, gan eu helpu i wella o bandemig COVID-19.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Dydd Sadwrn yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach, a gobeithiaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn achub ar y cyfle i gefnogi a hyrwyddo busnesau bach yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau. Mae'r ymgyrch, wrth gwrs, yn ei nawfed flwyddyn yn y DU, ar ôl tyfu'n sylweddol bob blwyddyn, gyda £1.1 biliwn, mwy nag erioed, yn cael ei wario gyda busnesau bach ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach yn 2020, a 15.4 miliwn o bobl yn dewis siopa'n fach. Yng Nghymru, gwyddom fod busnesau bach yn fwy na mentrau yn unig; maent hefyd yn rhan bwysig o'n cymunedau a'n cymdeithasau hefyd. Yn ystod y pandemig, fe wnaeth busnesau bach estyn llaw i helpu eu cymunedau lleol. Er enghraifft, helpodd bwytai ac arlwywyr i ddosbarthu prydau bwyd i weithwyr y GIG, mae siopau wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â thrigolion lleol bregus, ac mae'r rhestr yn parhau.
Wrth i bandemig COVID effeithio ar bob un ohonom mewn un ffordd neu'r llall, mae'r un peth yn wir am ein busnesau bach, ac mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraethau ar bob lefel yn gwneud popeth yn eu gallu i gynorthwyo eu hadferiad a chefnogi eu twf. Rwy'n falch, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU wedi cymryd camau cadarnhaol i gefnogi busnesau bach yng nghyllideb 2021. Er enghraifft, mae'r toriad i ardrethi busnes ac ymestyn cynllun benthyciadau adfer y Llywodraeth yn bethau sydd wedi cael croeso gan fusnesau ledled Cymru. Mae'r polisïau hyn, wrth gwrs, yn dilyn cyhoeddi rhaglen £520 miliwn Cymorth i Dyfu yn gynharach eleni, rhaglen a gyflwynwyd i gynorthwyo busnesau bach i gynyddu eu cynhyrchiant. Ac a bod yn deg, cafwyd rhai ymrwymiadau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru hefyd, fel y pecyn cyllid £45 miliwn i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys £10 miliwn i hybu cyfrifon dysgu personol, a fydd yn sicr yn helpu colegau lleol i ddarparu cyrsiau a chymwysterau ychwanegol mewn sectorau â blaenoriaeth. Ac ni allwn anwybyddu peth o'r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol, fel Cyngor Sir Fynwy, sydd wedi mynd ati o ddifrif i hyrwyddo agenda 'siopa'n lleol' gyda'u hymgyrch Wynebau Sir Fynwy, gyda rhai o berchnogion busnesau'r sir yn esbonio pam fod siopa'n lleol yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae gweithgarwch cadarnhaol iawn yn digwydd, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn manteisio ar y gwaith da hwnnw ac yn adeiladu arno.
Ar yr ochr hon i'r Siambr rydym yn uchelgeisiol ar ran busnesau Cymru, ac rydym yn awyddus i gynnig polisïau adeiladol i helpu ein busnesau bach ar ôl y pandemig. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod yn awyddus i edrych ar ffyrdd o gryfhau ein harferion caffael, i helpu busnesau bach, lleol i ymgeisio am gontractau'r sector cyhoeddus. Gadewch inni gofio bod ymchwil wedi dangos, am bob £1 y mae busnes bach yn ei gael, fod 63c yn cael ei ailfuddsoddi yn yr economi leol, o gymharu â 40c yn achos cwmnïau mwy o faint. Dyna pam ei bod yn hanfodol fod y system gaffael mor hygyrch â phosibl i fusnesau bach a'u bod yn cael pob cyfle i ennill contractau yn y lle cyntaf.
Rwy'n deall mai fy etholaeth i sydd â'r nifer uchaf ond un o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac un o'r pryderon sydd gan berchnogion busnesau lleol yw'r angen am welliannau i'r seilwaith, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried ein cynnig i gyflwyno cronfa fuddsoddi 'ailadeiladu Cymru' i helpu i gyflawni'r gwelliannau i'r seilwaith y mae busnesau Cymru yn galw amdanynt. Wrth gwrs, ardrethi busnes, yn wir, sydd ar frig y rhestr o bryderon a dynnwyd i fy sylw gan fusnesau bach. Mae’r Gweinidog wedi dweud ei fod yn cael trafodaethau gyda’r Gweinidog cyllid, ac yn gynharach heddiw, dywedodd y byddai’n rhaid imi aros ychydig wythnosau tan i gyllideb Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi. Felly, edrychaf ymlaen at weld rhywbeth yn y gyllideb honno ar ardrethi busnes, oherwydd i rai busnesau, gallai ailgyflwyno ardrethi busnes wneud y gwahaniaeth rhwng aros ar agor neu gau am byth. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried breuder busnesau bach a chanolig yn ystod y pandemig ac yn cofio hynny wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar ardrethi busnes.
Mae ein cynnig yn cydnabod y rôl y mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn ei chwarae yn hyrwyddo busnesau bach Cymru, ac er ei fod yn gyfle gwych inni ddangos ein cefnogaeth i fusnesau lleol, mae'n rhaid inni gofio nad yw un diwrnod y flwyddyn yn diogelu cynaliadwyedd busnes bach, ac felly rwy’n mawr obeithio y bydd yr holl Aelodau’n parhau i hyrwyddo’r busnesau bach a chanolig yn eu hetholaethau ymhell ar ôl Dydd Sadwrn Busnesau Bach.
Ddirprwy Lywydd, er bod y pandemig wedi creu cryn dipyn o ansicrwydd i fusnesau ledled Cymru, mae hefyd wedi rhoi cyfle inni edrych ar bethau'n wahanol, i roi cynnig ar syniadau newydd ac i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â hen broblemau. Felly, i gloi, hoffwn weld mwy o weithredu mewn perthynas ag arferion caffael, i sicrhau y gall busnesau bach gystadlu am gontractau'r sector cyhoeddus. Mae angen inni weld gweithredu mewn ymateb i bryderon busnesau bach ynglŷn â seilwaith, ac mae angen i Lywodraeth Cymru wrando ar eu galwadau wrth benderfynu beth i'w wneud gydag ardrethi busnes ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ac yn olaf, wrth inni edrych tuag at Ddydd Sadwrn Busnesau Bach y penwythnos hwn, gadewch inni ddyblu ein hymdrechion a hyrwyddo ein busnesau bach a chanolig drwy brynu'n lleol a hyrwyddo ein busnesau bach lleol. Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Diolch.
Rydw i wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Gan Gymru y mae un o'r lefelau isaf mewn unrhyw economi ddatblygedig o fusnesau mewn perchnogaeth leol. Mae'n rhaid i hynny newid, wrth gwrs. Dro ar ôl tro, gwariwyd arian cyhoeddus ar ddenu buddsoddiad newydd, a naill ai mae'r buddsoddwr wedyn yn allforio'r elw, neu'n gadael. Dyma fu hanes datblygu economaidd yng Nghymru ers dros 50 mlynedd. Yn hytrach, dylai ein cynlluniau ar gyfer economi ddoethach fod yn seiliedig ar ehangu, cefnogi a gwarchod busnesau domestig. Gellid adeiladu polisi 'lleol yn gyntaf' o ran caffael o gwmpas perchnogaeth leol ar yr economi, a sicrhau model Cymreig o gaffael cyhoeddus lleol yn rhan o hyn sydd wedi'i adeiladu ar yr economi sylfaenol. Gan ddefnyddio cyllideb gaffael gwerth £6.3 biliwn Llywodraeth Cymru, a thrwy weithio mewn partneriaeth agos â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, hoffai Plaid Cymru weld targed i gynyddu lefel caffael y sector cyhoeddus o 52 y cant i 75 y cant o gyfanswm y gwariant. Amcangyfrifir y bydd hyn yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol.
Croesawodd llawer ohonom yn y Siambr hon y warant i bobl ifanc. Yn y warant, ceir cyfle arall i gryfhau busnesau bach yma yng Nghymru. Mae'r egwyddor 'meddwl yn fach yn gyntaf' yn cyfarwyddo llunwyr polisi i ystyried busnesau bach wrth ddatblygu polisi. Mae'r egwyddor yn dibynnu ar y ffaith nad yw un maint yn addas i bawb. Wrth gwrs, fel y mae cynnig y Ceidwadwyr yn nodi, cefnogodd llawer o'r busnesau hyn ein cymunedau drwy gydol y pandemig, a byddwn ar fai'n peidio â sôn am y cymorth a roddwyd gan Verlands Stores yn fy nhref, a fu, fel llawer o fusnesau bach eraill ledled Cymru, yn dosbarthu bwyd ar garreg y drws i'n cymdogion, ac yn amlach na pheidio, gallent stocio rhai o'r cyflenwadau na allai'r siopau mwy eu stocio—sy'n dyst i ystwythder busnesau bach.
Yn olaf, fel y bydd llawer o Aelodau yn siŵr o grybwyll heddiw, ac mae Paul Davies yn briodol iawn wedi sôn am hyn eisoes, mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn prysur agosáu, ac addewais i’r Siambr yn ystod cwestiynau’r llefarwyr y byddwn yn datgelu lle rwy’n cael torri fy ngwallt a fy marf; Blackout Barbers ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n gyfrifol am y steil rwy'n ei fodelu heddiw. Ond wrth gwrs, rwy'n mynychu busnesau eraill hefyd, ac rwy'n annog pob Aelod yn y Siambr hon i ymweld â phob un ohonynt. Os ydych chi, fel fi, yn gwerthfawrogi brechdan dda, nid oes lle gwell i fynd na'r Sandwich Co ym Mhencoed. Hwy a fu'n fy mwydo yn ystod yr etholiad i bob pwrpas, ac a dweud y gwir, maent yn dal i wneud hynny. Byddwn yn argymell yr Arnie sarnie a'r osborne fel cwrs cyntaf, a pheidiwch ag anghofio prynu browni ar eich ffordd allan. A sôn am bwdin, WHOCULT Coffee & Donuts ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw'r lle i fynd, a gallwch hefyd gael llond cwpwrdd o ddillad newydd drwy bicio drws nesaf i siop ddillad WHOCLO. Ac yn olaf, nid oes amser i restru pawb, ond rhoddaf un argymhelliad arall i'r Aelodau: Valley Mill yn Abertawe—canhwyllau a phob math o nwyddau llechi i'r cartref. A gyda llaw, nid oes rhaid ichi deithio'n bell i brynu un o'u cynhyrchion, gallwch ddod o hyd iddynt i fyny'r grisiau yn siop y Senedd. Bob dydd, rwy'n dod adref i arogl eu cannwyll pice ar y maen, a pheidiwch â phoeni, rwyf innau hefyd yn gofyn i mi fy hun, 'Faint yn fwy Cymreig y gallwn fod?', pan fo hyd yn oed fy nghanhwyllau'n ddigywilydd o Gymreig. Yr ateb yw: cryn dipyn, mwy na thebyg.
Nid wyf am ddweud wrth bawb ble rwy'n cael torri fy ngwallt, byddwn yma drwy'r dydd.
Mae cyfyngiadau symud COVID wedi gwneud inni sylweddoli pa mor bwysig yw ein busnesau lleol; maent wedi bod yn achubiaeth i gymunedau gwledig yn fy etholaeth. O bosibl, yr ymweliad â'r siop leol neu'r dafarn yw'r unig sgwrs a chyswllt wyneb yn wyneb y mae rhai pobl yn ei gael bob wythnos, ac mae'n rhaid imi ddatgan diddordeb yma, Ddirprwy Lywydd, gan fy mod yn dal i yrru ein fan ddosbarthu o bryd i'w gilydd, er mwyn dosbarthu cig carw o'r safon uchaf, ond mae sefydliadau eraill ar gael.
Mae'r angen i brynu cynnyrch lleol o'r safon uchaf yn fwy nag erioed bellach. Mae angen inni helpu'r amgylchedd drwy leihau milltiroedd cludiant, ac adleisiwyd hyn ym Mil fy nghyd-Aelod, Peter Fox, yr wythnos diwethaf. Ac mae cynhyrchwyr bwyd yn fy etholaeth ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn gwneud eu gorau glas i gynhyrchu bwyd lleol o safon uchel sy'n ecogyfeillgar. Bûm yn hyrwyddo'r angen i brynu'n lleol a chefnogi busnesau lleol ar y stryd fawr ers amser, ymhell cyn dod i'r lle hwn, gan arwain y gwaith ar dyfu economi Powys drwy gynllun punt Powys a llawer o gymelliadau eraill pan fyddwn yn mynd o gwmpas i gyfarfod â llawer o fusnesau bach ym mhob rhan o Bowys. Mae pwysigrwydd ein busnesau bach i'n heconomi yn enfawr ac mae hyn yn amlwg yn yr ystadegau. Mae mwy na 265,000 o fusnesau micro, bach a chanolig eu maint yng Nghymru, sydd gyda'i gilydd yn 99.4 y cant o'r holl fusnesau sy'n gweithredu yn y wlad.
Mae busnesau bach a chanolig yn gwneud trosiant o £46 biliwn y flwyddyn—sy'n swm enfawr o arian—ac maent yn sicrhau twf a swyddi mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru. Ond mae eu gwerth yn fwy nag ystadegyn; mae'n fwy nag arian. Mae'n ymwneud â chefnogi ein cymunedau lleol, ein ffrindiau a'n cymdogion sy'n berchen ar fusnesau bach neu sy'n gweithio mewn busnes neu'n cyflenwi'r busnes. Mae'n ymwneud â'n synnwyr o hunaniaeth fel gwlad, ac mae pob un ohonom yn adnabod y cigydd lleol, fel W.J. George Butchers Ltd yn Nhalgarth neu'r gwerthwr llysiau fel Grenfell's & Sons Grocers yng Nghrucywel ac eraill sy'n mynd y tu hwnt i'r galw i gefnogi eu cymunedau gyda gwaith elusennol a rhoddion ar gyfer digwyddiadau pwysig iawn. Ond rydym wedi gweld llawer o dafarndai a siopau pentref yn cau ar draws fy etholaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hynny wedi gadael twll ynghanol llawer o'n cymunedau, ond mae mor gadarnhaol gweld cymunedau'n dod at ei gilydd, fel Siop Llan-gors yn fy nghymuned, sy'n gweithio gyda'i gilydd i greu siop ar gyfer y gymuned honno, mae'n hollol wych.
Ond nid yw lefelau masnachu llawer o fusnesau yn ôl fel roeddent cyn y pandemig eto. Mae nifer is yn ymweld â llawer o fusnesau o ganlyniad i gyflwyno pàs COVID Llywodraeth Cymru a newid i arferion siopa. Ardrethi busnes yw'r gost uchaf i'r rhan fwyaf o fusnesau bach ar ôl rhenti a chyflogau staff, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn cefnogi ein busnesau bach a chanolig drwy barhau â'r hoe rhag talu ardrethi busnes, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn dilyn Llywodraeth y DU yn eich cyllideb ac yn gwneud mwy i gefnogi ein busnesau bach. Felly, rwy'n annog pawb i feddwl am eich busnesau lleol yn eich cymunedau yn y dyfodol. Efallai y bydd yn rhatach ac yn fwy cyfleus ichi wneud eich siopa Nadolig ar Amazon neu yn rhywle arall, ond meddyliwch am y masnachwyr lleol a'r gwasanaethau amhrisiadwy y maent yn eu cynnig sy'n mynd ymhell y tu hwnt i ddarparu nwyddau a gwasanaethau. Felly, y penwythnos hwn, ewch allan i gefnogi eich cymuned a chefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw cyn Dydd Sadwrn Busnesau Bach. Dydd Sadwrn Busnesau Bach—fel y nodwyd eisoes, dylem fod yn dathlu'r gorau o'n busnesau nid yn unig ar un dydd Sadwrn y flwyddyn, ond drwy gydol y flwyddyn, ac yn annog pobl i ddefnyddio eu busnesau bach amrywiol a di-rif ar bob diwrnod o'r flwyddyn. Ond mae hyn yn rhoi cyfle, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, i atgoffa pobl o'r pwysigrwydd. Peidiwch â mynd i lawr at y masnachwyr mawr a pheidiwch â mynd ar-lein; ewch i weld rhai o'r cynhyrchion anhygoel—nid yn unig y cynhyrchion, ond y gwasanaeth cwsmeriaid a gewch drwy grwydro drwy ddrws eich masnachwyr a'ch manwerthwyr lleol.
Rydym wedi cael amser gwych dros y mis diwethaf, fel y cawn bob amser, Chris Elmore a minnau, yn arddangos y goreuon o'n busnesau lleol hynod amrywiol, creadigol ac anhygoel. Mae mwy nag erioed eleni yn cymryd rhan yn Nydd Sadwrn Busnesau Bach. Yn wir, os edrychwch ar ba mor amrywiol yw'r busnesau, rydym weithiau'n meddwl mai mater o gerdded ar hyd y stryd fawr ydyw, ond os edrychwch ar rai o'r busnesau yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, mae gennym DAC Training Solutions, sy'n darparu addysg, hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghori ar gyfer busnesau bach eraill; mae gennym Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro; mae gennym gwmnïau fel Atomic Knitting ym Mryncethin, sy'n darparu offer ac ategolion gwau a chrosio pwrpasol; siopau crefftau fel Florrie's ym Maesteg; delweddu o'r awyr—y gwasanaethau delweddu o'r awyr gorau un, a ddefnyddir mewn meysydd fel gwasanaethau achub brys hefyd, felly Airpix Aerial Images ym Maesteg.
Mae gennym lawer o siopau bwyd—llawer o siopau cacennau ac ati, fel Kellys Cakes ym Mhencoed. Mae gennym gwmnïau ffilm a sinema, fel—[Anghlywadwy.]—a CineMerse, sydd wedi'u lleoli ym Mhencoed, o gwmpas y cwmnïau teledu a chynyrchiadau stiwdio llewyrchus, mawr sydd gennym bellach. Wel, mae hynny wedi arwain at greu'r cwmnïau ffilm a theledu lleol bach, unigryw hyn hefyd.
Yna, mae gennych bethau fel Sims Foods Limited, gyda'r cynhyrchion figanaidd, llysieuol, heb glwten anhygoel ym Mhont-y-clun. Maent yn flasus—rydym yn eu bwyta'n rheolaidd ac maent yn ardderchog. Rhag ofn, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae gennym siop anhygoel Seasons ar ystâd ddiwydiannol Brynmenyn. Dyma'r lle yng Nghymru y byddech yn mynd i brynu eich Siôn Corn, addurniadau Nadolig ac ati, boed yn garw acrylig metr o uchder gyda switsh lliw, gyda gwaelod gwyn a gwyn cynnes, neu'ch Siôn Corn tri metr o uchder awyr agored, gyda thraed o goed ffawydd a gwaelod haearn. Gallwch gael popeth yn Seasons; mae'n eithaf anhygoel, ac mae wedi bod ar y teledu a Wales Online, a phopeth arall yno.
Weinidog, yr hyn roeddwn am ei ofyn i chi yw: fel y nodwyd yn wir yn sylwadau agoriadol llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, rydym yn cydnabod bod cryn dipyn o gymorth wedi'i roi, yn enwedig drwy'r pandemig, i rai o'r busnesau hyn. Mae rhai o'r busnesau hyn wedi rhoi llawer yn ôl hefyd. Os edrychwch, er enghraifft, ar un yn fy ardal i: James Thomas, dyn anhygoel o gwmni adnabyddus Beefy's Baps—
Huw, mae angen i chi ddirwyn i ben.
Iawn, rwy'n dod at y diwedd. Roedd yn un o lawer. Dosbarthodd fwy na 2,300 o brydau bwyd yn ystod ton gyntaf y pandemig, gyda chymorth clwb rygbi'r Gilfach Goch a'r gymuned leol, i bobl agored i niwed a'r henoed. Weinidog, rwyf am ddweud yn syml: gadewch inni ddathlu'r busnesau hyn, a darparu'r cymorth sydd ei angen arnynt yn y dyfodol hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae Dyffryn Clwyd yn gartref i lawer o fusnesau bach gwych, gormod lawer i'w rhestru yn y ddadl fer hon y prynhawn yma. Gallwn barhau i siarad drwy'r prynhawn, ond mae pob un yn hanfodol i economi fy etholaeth, ac i economi gogledd Cymru, ac i ffyniant ein cenedl gyfan, gan mai busnesau bach yw anadl einioes ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd. Ein cyfrifoldeb ni, yma yn y lle hwn, yw sicrhau ein bod yn creu amgylchedd lle gall busnesau bach ffynnu a goroesi.
Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru'n gwneud cryn dipyn o siarad, ond pan ddaw'n fater o greu'r amodau cywir i helpu busnesau bach i barhau i fasnachu, maent yn methu gweithredu, ac yn fwy na hynny, maent yn aml yn mynd ar drywydd polisïau sy'n wrthwynebus i fusnesau bach. Mae gennym y gyfradd ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, ac er fy mod yn croesawu'r cynllun rhyddhad ardrethi dros dro i fusnesau bach, beth fydd yn digwydd ar ôl i gyfnod presennol y pandemig ddod i ben?
Mae Llywodraeth Cymru, a'u cynorthwywyr bach ym Mhlaid Cymru, fel rwy'n hoff o ddweud, yn cynllunio hyd yn oed mwy o drethi ar fusnesau bach—y cynllun gwirion diweddaraf yw'r dreth dwristiaeth. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i gynlluniau o'r fath a chreu amgylchedd busnes treth isel. Mae ein busnesau bach, gyda llawer ohonynt yn rhai teuluol ac yn cael eu rhedeg gan deuluoedd, yn cyflogi bron i ddwy ran o dair o'r cyhoedd yng Nghymru. Nid ffynhonnell ddiddiwedd o arian ydynt er mwyn ariannu gwastraff a gormodedd y Llywodraeth.
Mae'n rhaid inni helpu ein busnesau bach i oroesi ac i ffynnu. Er na allaf wneud fawr ddim am gymwysterau busnes Llywodraeth Cymru, gallaf ddangos fy nghefnogaeth i fusnesau bach ledled Cymru, a'r penwythnos hwn, byddaf yn dilyn fy mhregeth fy hun. Byddaf yn ymweld â busnesau ar draws fy etholaeth ac yn annog eraill i siopa’n lleol, ac rwy’n annog pobl yn fy etholaeth, ddydd Sadwrn, i osgoi mynd i leoedd fel parc Brychdyn, Parc Prestatyn, Parc Llandudno neu Gaer, ac i fwyta bwyd a diod lleol a phrynu nwyddau a gwasanaethau lleol, drwy fwynhau brecwast cyn siopa yng nghaffi Glass Onion yn Ninbych, prynu bwrdd caws Nadolig yn y Little Cheesemonger ym Mhrestatyn a Rhuddlan, argraffu calendrau Nadolig munud olaf yn Perham Prints yn y Rhyl, neu fwynhau pryd nos haeddiannol a pheint neu ddau yn y Plough yn Llanelwy. Mae dewis eang ac amrywiol o fusnesau bach i'w cefnogi yn fy etholaeth a phob etholaeth arall yng Nghymru, ond nid ar gyfer y Nadolig yn unig y mae busnesau bach yn bodoli—mae'n rhaid inni ddangos ein cefnogaeth i'r busnesau hyn drwy gydol y flwyddyn, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn gwbl gywir. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig ac i siopa'n lleol ar bob cyfle. Diolch yn fawr.
Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd eisoes ar draws y Siambr, ac mae'n hyfryd clywed cymaint o Aelodau'n hyrwyddo eu busnesau lleol heddiw, ac yn briodol felly. Rydym yn lwcus iawn o gael llu o fusnesau bach amrywiol, gwych ar draws fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru, ac mae mor bwysig hefyd ein bod yn eu cefnogi ym mhob ffordd y gallwn, ac yn arwain drwy esiampl.
Busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi yng Nghymru, a chalon cymunedau ledled Cymru. Gyda Dydd Sadwrn Busnesau Bach ar y gorwel y penwythnos hwn, rwy'n gobeithio y gwelwn fwy hyd yn oed na'r £1.1 biliwn a wariwyd y llynedd yn cael ei wario yn ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd. Y penwythnos hwn yw ein cyfle i dalu yn ôl i'n busnesau bach a dweud, 'Diolch am fod yno pan oedd ein cymunedau eich angen fwyaf.' Mae busnesau bach wedi dioddef yn fawr dros y 18 mis diwethaf, ond maent wedi dangos cryn dipyn o gryfder, ac mae'r ffordd y maent wedi addasu yn ystod y pandemig wedi bod yn anhygoel. Er enghraifft, wrth inni weld gwasanaethau cludfwyd a danfon bwyd yn ymddangos ym mhobman dros nos, a busnesau'n addasu i'r hyn sydd ei angen ar eu cymunedau. Mae wedi bod yn wirioneddol wych a thrawiadol gweld pobl yn addasu yn y ffordd y gwnaethant.
Ond yn anffodus, nid ydym yn cefnogi busnesau bach yn y ffordd orau sy'n bosibl yma yng Nghymru. Roedd pecyn cymorth y pandemig yn galonogol, ond Cymru sydd â'r ardrethi busnes uchaf yn y DU, sef 53.5c, ac mae hynny'n gywilyddus. Nid yw'n ddigon da. Wrth i fusnesau bach geisio ymadfer wedi'r pandemig, galwaf ar y Llywodraeth Lafur hon i gael gwared ar y trethi cosbol a amlinellwyd gan fy nghyd-Aelodau yn gynharach, a chreu amgylchedd treth isel, a arweinir gan y farchnad, fel y gall busnesau ffynnu. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar berchnogion busnesau, yn gweithio gyda hwy, ac yn gweithio tuag at greu amgylchedd cyfeillgar i fusnesau bach allu ffynnu fel nad yw Cymru'n dod yn fan arbrofi syniadau sosialaidd. Mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i adfywio'r stryd fawr. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n busnesau lleol i roi'r cyfle gorau iddynt ffynnu a thyfu a chystadlu yn erbyn y cwmnïau manwerthu mawr, fel Amazon, a ddisgrifiwyd gan fy nghyd-Aelod, James Evans, yn gynharach. Dyna'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein stryd fawr. Mae angen inni sicrhau ei bod yr un mor hawdd ac yr un mor ddeniadol i siopa'n lleol.
Mae angen inni wneud mwy i hyrwyddo safon a natur unigryw y cynhyrchion a welwn gan ein busnesau bach. Ceir enghreifftiau o arferion gorau yn y ffordd y mae ein siambr fasnach a'n cynghorau'n gweithio ledled Cymru, ac mae angen inni ganolbwyntio ar yr enghreifftiau hynny, a'u hefelychu ledled ein gwlad. Mae rhywfaint o waith arloesol, gwych wedi'i wneud mewn cynghorau lleol yn fy rhanbarth i.
Byddwn yn annog unrhyw un a all siopa’n lleol y Nadolig hwn i wneud hynny, ac fel y dywedodd Aelodau eraill, i barhau’r arfer drwy gydol y flwyddyn.
Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Bydd Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn ei nawfed flwyddyn bellach, ac wrth gwrs, mae'n ganolbwynt yn y calendr i helpu i ddathlu llwyddiant a phwysigrwydd busnesau micro a bach i economi Cymru—sef anadl einioes yr economi, fel y byddai Hefin David yn ein hatgoffa pe bai yma, gan mai dyna yw dros 98 y cant o fentrau yng Nghymru. Busnesau teuluol, gweithgynhyrchwyr bach neu fanwerthwyr lleol yw'r rhain yn aml, ac maent yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i wead ein cymunedau ac yn cyfrannu dros hanner cyflogaeth y sector preifat a thua chwarter y trosiant. Felly, rydym wrthi'n weithredol yn hyrwyddo Dydd Sadwrn Busnesau Bach drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Ac rwy'n falch o'n hanes o ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd cryfach. Drwy Busnes Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad hirdymor i sector BBaChau ein heconomi i leihau'r cymhlethdod yn y ffordd rydym yn cefnogi busnesau yma yng Nghymru. Mae Busnes Cymru yn darparu cyngor diduedd gan arbenigwyr busnes profiadol, ac ers 2016, mae wedi cynorthwyo 12,400 o unigolion i ddilyn uchelgeisiau entrepreneuraidd, gan gynnwys helpu dros 5,000 o entrepreneuriaid i ddechrau busnes. Mae ein cefnogaeth wedi arwain at greu dros 25,000 o swyddi, gan ddangos yr effaith a'r gwerth i'n cymunedau. A dylai darparu'r cymorth cywir yn gyson sicrhau bod ein gwerthoedd fel Llywodraeth a'n hawydd i weld gwerth am arian cyhoeddus yn mynd law yn llaw.
Mae dros 3,000 o'r busnesau a gefnogwyd wedi gwella arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a defnydd effeithlon o adnoddau. Maent wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a'n huchelgeisiau Cymru Sero Net drwy ein haddewid twf gwyrdd. Mewn perthynas â gwerth am arian, gwyddom y gellir cysylltu pob £1 a fuddsoddir yn Busnes Cymru ag o leiaf £10 a hyd at £18 yn fwy o werth ychwanegol gros net y flwyddyn.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae gan fusnesau sy'n cael cymorth gyfradd oroesi o 77 y cant dros gyfnod o bedair blynedd, o'i gymharu â chyfartaledd o 37 y cant o fusnesau nad ydynt yn cael cymorth. Felly, mae'r cymorth a ddarparwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ac mae llawer o'n busnesau bach yn dangos potensial twf gwirioneddol. Y mis diwethaf, buom yn dathlu ein carreg filltir 10,000 o swyddi drwy raglen twf carlam Busnes Cymru. A thrwy'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £2.6 biliwn drwy ddull wedi'i dargedu i gefnogi busnesau. Dyna'r pecyn mwyaf hael yn y DU, ac rydym wedi dweud hynny'n gyson fel mater o ffaith, ac mae'r cymorth hwnnw i fusnesau bach a chymunedau Cymru wedi helpu i ddiogelu cannoedd o filoedd o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall. Gwnaeth Huw Irranca bwynt nad endidau economaidd yn unig yw busnesau bach; maent yn rhan o'r gymuned ac maent yn rhoi'n ôl i'w cymuned mewn ffyrdd na allwch o reidrwydd ei fesur mewn gwerth economaidd.
Nawr, ni chafodd ei gydnabod gan unrhyw siaradwr Ceidwadol yn y ddadl hon wrth gwrs, ond mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi hoe rhag talu ardrethi busnes hyd at fis Ebrill y flwyddyn nesaf i bob busnes yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o hyd at £0.5 miliwn—pecyn llawer mwy hael nag y mae busnesau bach yn Lloegr yn ei gael. Rydym yn cadw cyllid eleni rhag ofn y bydd angen i ni ddarparu rhagor o gymorth argyfwng i fusnesau, gan fod y pandemig ymhell o fod ar ben, yn anffodus. Felly, byddwn yn parhau i gymryd camau pellach i gefnogi economïau lleol cryfach a'r gwaith hanfodol o drechu tlodi. A chlywaf alwadau arnom yn rheolaidd i weithio law yn llaw â busnesau a llywodraeth leol, a dyna'n union y buom yn ei wneud. Mae'r pecyn £35 miliwn a gyhoeddais ar gyfer gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu gweithgarwch grantiau busnes ychwanegol a buddsoddiad wedi'i dargedu sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau.
Byddwn hefyd yn defnyddio ein dulliau caffael i helpu busnesau bach i elwa ar gyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus. Nawr, mewn dadl ddiweddar ar yr economi sylfaenol, tynnais sylw at lwyddiant busnesau bach a'r GIG. Rwy'n falch iawn o glywed, o ganlyniad i gyngor busnes parhaus, fod Slice & Dice, busnes teuluol yn Abertawe, wedi sicrhau £1 filiwn o fusnes newydd ac wedi creu mwy o swyddi newydd drwy ennill lle ar fframwaith cyflenwyr llysiau ffres y GIG sy'n werth dros £5.5 miliwn. Felly, rydym yn gwneud yr hyn y dywedasom y byddem yn ei wneud ac nid dim ond siarad amdano.
Rydym wedi ymrwymo i wneud mwy ar fanteision caffael, ac rydym yn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol drwy'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Ond rwyf hefyd wedi siarad yn rheolaidd yn y Siambr hon, a'r tu allan, am yr angen i ddarparu mwy o fynediad a llwyddiant i fusnesau bach a chanolig allu ennill cyfran fwy o'r swm mwy byth o gaffael sector preifat a chadwyni cyflenwi, lle gallai ac y dylai busnesau bach gael rôl hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.
Nid wyf am ymateb i'r agweddau negyddol yn rhai o'r sylwadau a wnaed; hoffwn weld dull o weithredu sy'n uno ar gyfer y ffordd y dylid cynnal y ddadl hon a'n cymorth i fusnesau ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau. Rydym yn cefnogi'r cynnig, ond bydd y Llywodraeth yn pleidleisio yn erbyn y cynnig er mwyn sicrhau y gallwn gyrraedd y gwelliant rydym hefyd yn ei gefnogi. Gobeithio, yn y pen draw, y bydd holl Aelodau'r Senedd yn llwyddo i bleidleisio yn yr un modd yn y bleidlais olaf ar y pwnc hwn. Ond bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ddarparu a datblygu cymorth a chyfle i fusnesau bach er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu a darparu cyfleoedd cyflogaeth lleol da ym mhob cymuned ledled Cymru. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar Natasha Asghar i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Paul Davies, am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Senedd heddiw. Mae wedi bod yn braf clywed eich holl gariad a pharch at fusnesau bach, a darganfod lle mae eich gwallt yn cael ei dorri, Luke Fletcher, a lle rydych chi'n prynu eich torthenni, Huw Irranca-Davies, yn ogystal â lle rydych chi'n mynd am beint, Gareth Davies. Hoffwn adleisio'r teimladau a grybwyllodd fy nghyd-Aelod, Gareth Davies, yn gynharach: nid oes amheuaeth o gwbl yn fy meddwl, nac yn eich meddyliau chi ychwaith, mai busnesau bach a chanolig eu maint yw anadl einioes economi Cymru, gan ddarparu swyddi i lawer a sbarduno twf. Mae'n ffaith bod 99.4 y cant o fusnesau yng Nghymru yn fentrau bach a chanolig. Wedi'u gwreiddio yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, maent yn cyfrannu at ymdeimlad o gymuned, hunaniaeth, yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol ac yn cyfrannu at gadernid lleol, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, maent wedi addasu i bob sefyllfa a wynebwyd ganddynt yn ystod y pandemig, ac maent yn haeddu clod gwirioneddol am hynny.
Mae busnesau bach yng Nghymru yn ailadeiladu ac yn ymadfer ar hyn o bryd o effeithiau'r coronafeirws—nid yw'n gyfrinach. Ond wrth wneud hynny, maent yn wynebu nifer o heriau. Mae problemau yn y gadwyn gyflenwi yn achosi prinder, y gwn amdano o fy nhrafodaethau gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant logisteg, sy'n gweithio'n ddiflino ac yn galed iawn i fynd i'r afael â hwy fesul un. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i leddfu'r pwysau yn y gadwyn gyflenwi, gyda hyd at 4,000 o bobl yn gallu manteisio ar gyrsiau hyfforddi i ddod yn yrwyr cerbydau nwyddau trwm. Rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru—do, fe ddywedais rywbeth cadarnhaol yno—fod £10 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer helpu i hyfforddi pobl mewn swyddi yng Nghymru sydd wedi eu taro gan brinder llafur, gan gynnwys gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a gweithwyr lletygarwch.
Mae'r angen i gadw costau i lawr a mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau cynyddol yn allweddol i adferiad busnesau bach. Mae'n destun pryder fod y Ffederasiwn Busnesau Bach yn nodi bod 76 y cant o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn wynebu costau gweithredu cynyddol. Dywed 38 y cant fod diffyg argaeledd staff priodol yn eu dal yn ôl, ac mae bron i chwarter y cyflogwyr yn dweud bod anhawster i ddod o hyd i unigolion sydd â'r sgiliau cywir ar gyfer y swydd yn frwydr real.
I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i greu'r amodau yng Nghymru a fydd yn galluogi busnesau bach i dyfu ac i ffynnu. Roeddwn yn hapus i glywed y bydd y Gweinidog yn hyrwyddo Dydd Sadwrn Busnesau Bach drwy'r cyfryngau cymdeithasol, ac mae hynny'n wych i'w glywed. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud camau cadarnhaol, ond mae angen gwneud mwy ac fe ellir gwneud mwy. Soniodd James Evans a Luke Fletcher fod busnesau bach yn achubiaeth yn ystod y pandemig, ac rwyf fi a phawb yma, rwy'n gwybod, yn sicr yn diolch i bob un sydd wedi gweithio yn y busnesau bach a chanolig hyn, oherwydd, hebddynt hwy, byddai llawer ohonom wedi ei chael hi'n anodd iawn drwy gydol y pandemig. Dywedodd Huw Irranca-Davies pan oedd yn siarad y dylem eu dathlu bob dydd, ac ategaf hynny ac yn sicr credaf fod angen rhoi clod pan fo clod yn ddyledus. Bydd darparu cymorth economaidd, helpu i leihau baich ardrethi busnes a sicrhau cyflenwad o staff gyda'r sgiliau cywir yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu busnesau llai, cefnogi ein heconomi ac adeiladu'r cymunedau cryf a gwydn rydym i gyd yn y pen draw am eu gweld yn llwyddo ac yn ffynnu ledled Cymru, a dyna pam rwy'n gobeithio y byddwch i gyd yn cefnogi ein cynnig yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.