Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar.
Cyn imi ddechrau, hoffwn ddatgan fy mod yn falch o fod yn un o hyrwyddwyr y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor, a hoffwn ddiolch iddynt am y cymorth y maent wedi'i roi i mi i baratoi ar gyfer y ddadl hon.
Aelodau, am ychydig eiliadau, dychmygwch eich bod wedi colli eich lleferydd a'ch symudedd. Dychmygwch deimlo fel pe baech wedi eich cloi mewn corff sy'n dirywio, yn methu symud, siarad nac anadlu yn y pen draw. I rai pobl yng Nghymru, nid oes raid iddynt ddychmygu hyn gan eu bod yn byw gyda realiti o'r fath yr eiliad hon. Mae clefyd niwronau motor yn glefyd angheuol sy'n datblygu'n gyflym gan effeithio ar yr ymennydd a'r asgwrn cefn, fel nad yw'r cyhyrau'n gweithio mwyach. Mae'n effeithio ar hyd at 5,000 o oedolion yn y DU ar unrhyw un adeg. Yng Nghymru, mae tua 200 o bobl yn byw gyda chlefyd niwronau motor ar hyn o bryd. Efallai nad yw'n swnio'n llawer o bobl, ond mae'r clefyd ofnadwy hwn yn arwain at ganlyniadau sylweddol i'r rhai sy'n byw gydag ef, yn ogystal â'u teulu a'u ffrindiau. Yn greulon, mae'n lladd traean o bobl o fewn blwyddyn i gael diagnosis, a mwy na hanner o fewn dwy flynedd. Nid oes gwellhad, a bydd cyflwr yr unigolyn yn gwaethygu dros amser oherwydd natur gynyddol y clefyd. Credaf y gallem i gyd groesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor, a chydnabod gwelliant Plaid Cymru heddiw y gallwn wneud mwy i wella maint ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd.
Yn y pen draw, bydd angen offer arbenigol ar bobl â chlefyd niwronau motor i helpu i gynnal urddas ac annibyniaeth, gan ganiatáu iddynt aros yn eu cartrefi eu hunain. Felly, mae addasiadau tai yn cefnogi darparu gofal yn agos at y cartref, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen fel iechyd a gofal cymdeithasol, a gwella lles yr unigolyn a'u teuluoedd. Fodd bynnag, fel hyrwyddwr clefyd niwronau motor, rwyf wedi clywed gan bobl sy'n byw gyda'r clefyd am yr heriau diangen y maent yn eu hwynebu i addasu eu cartrefi i ddiwallu eu hanghenion. Yn wir, mae ymchwil gan elusennau fel y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor wedi canfod bod y broses bresennol ar gyfer addasu tai yn llawer rhy hir i bobl sydd â chlefydau sy'n datblygu'n gyflym. Fel y dywedodd y gymdeithas, mae'r oedi hwn yn un o sgil-effeithiau anfwriadol esblygiad deddfwriaeth, yr amrywiaeth o gyfundrefnau ariannu sydd wedi bodoli'n flaenorol, yn ogystal â'r nifer fawr o sefydliadau sy'n ymwneud â darparu addasiadau. Mae'r broses bresennol hefyd yn rhy gymhleth ac annheg yn ariannol. Mae profion modd ar gyfer addasiadau yn arafu'r broses ymhellach, tra bod gan wahanol gynghorau ddiffiniadau a phrosesau amrywiol, gan arwain at loteri cod post o gymorth ledled Cymru.
Nawr, deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd sydd i'w groesawu ar y mater hwn, ac rwy'n croesawu camau i symleiddio'r broses yn ddiweddar i bobl gael cymorth gydag addasiadau bach a chanolig i'w cartrefi. Ond mae clywed bod rhai cynghorau'n parhau i ddefnyddio profion modd nes bod rhwymedigaeth gyfreithiol i beidio â gwneud hynny yn peri pryder i mi, a gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gellir ymchwilio iddo ymhellach.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, rydym wedi cymryd camau i'r cyfeiriad cywir yng Nghymru, ond mae angen inni fynd ymhellach. Mae angen i Lywodraeth Cymru, pob Llywodraeth yn wir, weithio gyda chynghorau a darparwyr gofal cymdeithasol i sefydlu proses gyflym ar gyfer gwneud addasiadau i dai a rhoi diwedd ar y system prawf modd bresennol, fel bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl. Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd hon yng Nghymru, ni waeth beth fo'u plaid, yn cefnogi'r ddadl hon ac yn cydweithio fel un Siambr i sicrhau'r urddas a'r tawelwch meddwl y mae pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn ei haeddu. Edrychaf ymlaen at wrando ar y ddadl, Ddirprwy Lywydd. Diolch.