– Senedd Cymru ar 1 Rhagfyr 2021.
Yr eitem nesaf yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma: clefyd niwronau motor. Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7855 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym nad oes gwellhad ar ei gyfer a bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o gael diagnosis.
2. Yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor.
3. Yn cydnabod bod mynediad teg a chyflymach at addasiadau tai yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n ddiogel, yn annibynnol ac ag urddas yn eu cartrefi eu hunain.
4. Yn credu bod effaith yr oedi wrth osod addasiadau tai a'r broses profi modd yn cael effaith enfawr ar yr amser sydd ar ôl gan y pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symleiddio mynediad at addasiadau tai drwy greu proses nad yw'n seiliedig ar brawf modd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar.
Cyn imi ddechrau, hoffwn ddatgan fy mod yn falch o fod yn un o hyrwyddwyr y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor, a hoffwn ddiolch iddynt am y cymorth y maent wedi'i roi i mi i baratoi ar gyfer y ddadl hon.
Aelodau, am ychydig eiliadau, dychmygwch eich bod wedi colli eich lleferydd a'ch symudedd. Dychmygwch deimlo fel pe baech wedi eich cloi mewn corff sy'n dirywio, yn methu symud, siarad nac anadlu yn y pen draw. I rai pobl yng Nghymru, nid oes raid iddynt ddychmygu hyn gan eu bod yn byw gyda realiti o'r fath yr eiliad hon. Mae clefyd niwronau motor yn glefyd angheuol sy'n datblygu'n gyflym gan effeithio ar yr ymennydd a'r asgwrn cefn, fel nad yw'r cyhyrau'n gweithio mwyach. Mae'n effeithio ar hyd at 5,000 o oedolion yn y DU ar unrhyw un adeg. Yng Nghymru, mae tua 200 o bobl yn byw gyda chlefyd niwronau motor ar hyn o bryd. Efallai nad yw'n swnio'n llawer o bobl, ond mae'r clefyd ofnadwy hwn yn arwain at ganlyniadau sylweddol i'r rhai sy'n byw gydag ef, yn ogystal â'u teulu a'u ffrindiau. Yn greulon, mae'n lladd traean o bobl o fewn blwyddyn i gael diagnosis, a mwy na hanner o fewn dwy flynedd. Nid oes gwellhad, a bydd cyflwr yr unigolyn yn gwaethygu dros amser oherwydd natur gynyddol y clefyd. Credaf y gallem i gyd groesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o £50 miliwn i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd niwronau motor, a chydnabod gwelliant Plaid Cymru heddiw y gallwn wneud mwy i wella maint ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd.
Yn y pen draw, bydd angen offer arbenigol ar bobl â chlefyd niwronau motor i helpu i gynnal urddas ac annibyniaeth, gan ganiatáu iddynt aros yn eu cartrefi eu hunain. Felly, mae addasiadau tai yn cefnogi darparu gofal yn agos at y cartref, gan leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen fel iechyd a gofal cymdeithasol, a gwella lles yr unigolyn a'u teuluoedd. Fodd bynnag, fel hyrwyddwr clefyd niwronau motor, rwyf wedi clywed gan bobl sy'n byw gyda'r clefyd am yr heriau diangen y maent yn eu hwynebu i addasu eu cartrefi i ddiwallu eu hanghenion. Yn wir, mae ymchwil gan elusennau fel y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor wedi canfod bod y broses bresennol ar gyfer addasu tai yn llawer rhy hir i bobl sydd â chlefydau sy'n datblygu'n gyflym. Fel y dywedodd y gymdeithas, mae'r oedi hwn yn un o sgil-effeithiau anfwriadol esblygiad deddfwriaeth, yr amrywiaeth o gyfundrefnau ariannu sydd wedi bodoli'n flaenorol, yn ogystal â'r nifer fawr o sefydliadau sy'n ymwneud â darparu addasiadau. Mae'r broses bresennol hefyd yn rhy gymhleth ac annheg yn ariannol. Mae profion modd ar gyfer addasiadau yn arafu'r broses ymhellach, tra bod gan wahanol gynghorau ddiffiniadau a phrosesau amrywiol, gan arwain at loteri cod post o gymorth ledled Cymru.
Nawr, deallaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd sydd i'w groesawu ar y mater hwn, ac rwy'n croesawu camau i symleiddio'r broses yn ddiweddar i bobl gael cymorth gydag addasiadau bach a chanolig i'w cartrefi. Ond mae clywed bod rhai cynghorau'n parhau i ddefnyddio profion modd nes bod rhwymedigaeth gyfreithiol i beidio â gwneud hynny yn peri pryder i mi, a gobeithio bod hyn yn rhywbeth y gellir ymchwilio iddo ymhellach.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, rydym wedi cymryd camau i'r cyfeiriad cywir yng Nghymru, ond mae angen inni fynd ymhellach. Mae angen i Lywodraeth Cymru, pob Llywodraeth yn wir, weithio gyda chynghorau a darparwyr gofal cymdeithasol i sefydlu proses gyflym ar gyfer gwneud addasiadau i dai a rhoi diwedd ar y system prawf modd bresennol, fel bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl. Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd hon yng Nghymru, ni waeth beth fo'u plaid, yn cefnogi'r ddadl hon ac yn cydweithio fel un Siambr i sicrhau'r urddas a'r tawelwch meddwl y mae pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn ei haeddu. Edrychaf ymlaen at wrando ar y ddadl, Ddirprwy Lywydd. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y gweilliant a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl yma heddiw yma. Rydym ni'n cyd-fynd â'r neges glir sydd yn y cynnig ei hun, ac yn gofyn am gefnogaeth i'n gwelliant ni hefyd.
Ychydig o eiriau sydd gen i yn fan hyn. Mi allaf i grynhoi ein safbwynt ni, mewn ffordd, drwy roi pwyslais ar ddau beth: yn gyntaf, yr angen i bobl sydd yn byw efo afiechyd motor neurone allu byw efo urddas a byw yn annibynnol, a'r ail hanner, sy'n deillio o'n gwelliant ni, ydy'r angen i sicrhau ein bod ni yn cynyddu ein capasiti ni o fewn Cymru i greu a datblygu arbenigedd mewn cyflyrau niwrolegol, er mwyn gwella sgêl a safon y treialon ac ati sydd ar gael a gwella mynediad at driniaeth. O edrych ar y cynnig ei hun, fel dwi'n ei ddweud, mae'r alwad yn eithaf syml, o gwmpas addasiadau tai. Os ydym ni'n edrych ar yr adroddiad 'Adapt Now' gan Gymdeithas MND yn gynharach eleni, maen nhw yn nodi'n glir fod yna nifer o ffaeleddau i'r broses o ddarparu addasiadau tai ar hyn o bryd. Dydy'r system fel sydd gennym ni ddim yn ffit i bwrpas, ac y mae nifer o elfennau gwahanol yn adlewyrchu hynny.
Yn gyntaf, mae'r broses yn cymryd llawer gormod o amser rhwng gwneud cais a gwireddu'r hyn sydd ei angen, yn enwedig pan ydyn ni'n ystyried bod dirywiad yn llawer o'r cleifion yn digwydd yn gyflym a bod angen i'r addasiadau ddigwydd yn gyflym er mwyn i'w budd nhw gael ei deimlo. Does yna ddim tegwch ariannol, dwi'n meddwl, yn y broses ar hyn o bryd, ac mae'r means testing sydd yn digwydd yn arafu y broses ymhellach ac yn cael effaith andwyol ar fywydau pobl sydd ag MND a'u teuluoedd nhw.
Mae hefyd yn glir bod yna ddiffyg cysondeb ar draws Cymru. Dyma'r ail dro heddiw imi gyfeirio at loteri cod post, ac mae'n rhaid cael y cysondeb yna, dwi'n meddwl, yn y diffiniadau gwahanol sy'n cael eu defnyddio gan wahanol awdurdodau lleol ar draws Cymru. Ac yn y prosesau sydd mewn lle, mae yna ddiffyg tegwch, dwi'n meddwl, os ydyn ni'n cymharu beth sy'n digwydd mewn rhai ardaloedd o'i gymharu ag eraill. Ac mae yna gymhlethdod cyffredinol, dwi'n meddwl. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad 'Adapt Now'. Felly, o gymryd y cyfan efo'i gilydd, mae'r rhwystrau yn amlwg i ni ar y meinciau yma yn llawer gormod i bobl sydd angen gweld newidiadau—bach weithiau, mawr dro arall—all wneud gwahaniaeth i'w safon bywyd nhw.
O droi at ein gwelliant ni, galw ydyn ni ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gellid datblygu canolfannau yma yng Nghymru ar gyfer treialon ar gyfer sicrhau bod triniaethau newydd yn gallu—
Rhun, mae angen i chi ddod i ben yn awr.
—cael eu profi gan bobl sydd â motor neurone. Dyna dwi'n meddwl sydd yn mynd i gyfrannu eto tuag at safon bywyd. Mae yna ormod o bobl yn gorfod teithio dros y ffin ar hyn o bryd am driniaeth. Rydyn ni angen gweld sut mae cryfhau'r ddarpariaeth yma yng Nghymru.
Diolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno'r ddadl wirioneddol bwysig hon. Fel yr amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Peter Fox, a agorodd ein dadl heddiw, mae clefyd niwronau motor yn glefyd sy'n datblygu'n gyflym ac yn anffodus, nid oes modd ei wella. Ac rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod am rywun y mae'r clefyd ofnadwy hwn wedi effeithio arnynt. Ddirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofio a thalu teyrnged yn fyr i ffrind i mi, y diweddar Gynghorydd William Knightly MBE, a gollodd ei frwydr y erbyn clefyd niwronau motor yn 2014. Yn dilyn dyrchafiad yr Aelod dros Aberconwy i'r Senedd yn 2011, daeth y Cynghorydd William yn arweinydd grŵp arnaf yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a fi oedd ei ddirprwy. Felly, buom yn gweithio'n agos am nifer o flynyddoedd—rhyw lun ar Batman a Robin, gallech ddweud. Fodd bynnag, roedd yn gynghorydd lleol ac yn arweinydd grŵp rhagorol. Ac rwy'n dal i gofio'r adegau yr arferem chwerthin gyda'n gilydd yn y misoedd cynnar wedi iddo gael diagnosis o glefyd niwronau motor. Pan gollodd ei allu i siarad, yn null dihafal y Cynghorydd William, penderfynodd ddefnyddio peiriant testun-i-leferydd yng nghyfarfodydd y cyngor, a arferai, ar adegau—roedd y peiriant, yn ôl pob tebyg, yn dweud pob math o bethau anfwriadol. [Chwerthin.] Nawr, os oedd unrhyw un yn adnabod y Cynghorydd William, rwy'n siŵr nad bai'r peiriant oedd bod y sylwadau hynny wedi cael eu clywed yn y cyfarfodydd hynny.
Ond mae wedi bod yn braf gweld ymwybyddiaeth o glefyd niwronau motor yn codi yn y cyfnod diweddar. Yn wir, yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, nodais fod Kevin Sinfield, cyn chwaraewr rygbi'r gynghrair i Leeds Rhinos, wedi rhedeg 100 milltir mewn 24 awr—cyflawniad hollol anghredadwy—a hynny er budd ei ffrind a'i gyn gyd-aelod o'r tîm, Rob Burrow, a oedd hefyd yn chwaraewr rygbi proffesiynol am dros 16 mlynedd ac a gafodd ddiagnosis o glefyd niwronau motor ym mis Rhagfyr 2019. Erbyn heddiw, mae'r her wedi codi £1.8 miliwn, gan godi arian yn uniongyrchol i bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor. Ac mae achosion fel hyn yn haeddu llawer iawn o glod gan y Siambr hon yma heddiw.
Fel y soniais, nid oes modd gwella clefyd niwronau motor ar hyn o bryd, ond mae ein cynnig yn ceisio sicrhau bod addasiadau tai'n cael eu darparu'n gyflymach ac yn fwy teg, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor yn gallu byw'n ddiogel, yn annibynnol a chydag urddas yn eu cartrefi eu hunain. A dyma pam y mae angen proses garlam heb brawf modd ar gyfer addasiadau tai. Roeddwn yn falch iawn o weld nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant i'r cynnig heddiw, ac rwyf hefyd yn falch o weld Plaid Cymru yn galw am ganolfannau arbenigedd yng Nghymru ar gyfer clefydau niwrolegol i wella maint ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig heddiw ac y gallwn weld newidiadau hirdymor i gefnogi'r rhai sy'n dioddef o glefyd niwronau motor a'u teuluoedd. Diolch yn fawr iawn.
Laura Anne Jones.
A ddywedoch chi fy enw nawr? Do. Ni allwn eich clywed. Roedd eich meicroffon wedi'i ddiffodd. Iawn, diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n croesawu'r ddadl yma heddiw, a hoffwn ddiolch i Peter Fox am ei chyflwyno; mae'n gwbl hanfodol ein bod yn siarad am hyn. Er ei fod yn brin, nid oes llawer o gyflyrau mor ddinistriol â chlefyd niwronau motor, cyflwr sy'n datblygu'n gyflym yn y rhan fwyaf o achosion, ac mae bob amser yn angheuol. Fel arfer, bydd dioddefwyr yn colli'r gallu i siarad a llyncu, a defnydd o'u coesau a'u breichiau. Oherwydd hyn, mae addasiadau tai a thai hygyrch yn eithriadol o bwysig i ddarparu'r ansawdd bywyd gorau ac i gynnal lefel o urddas ac annibyniaeth wrth i'r clefyd ddatblygu.
Yn anffodus, oherwydd prinder tai hygyrch, rhestrau aros ar gyfer addasiadau i'r cartref, a chostau'r addasiadau hynny, mae llawer o bobl â chlefyd niwronau motor wedi'u caethiwo mewn tai nad ydynt yn diwallu eu hanghenion. O ystyried bod traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn i'r diagnosis, mae'n annheg i ddioddefwyr, eu teuluoedd a'u gofalwyr fod rhai pobl wedi gorfod aros hyd at 40 wythnos i addasiadau gael eu cwblhau. Oherwydd yr anawsterau hyn, mae llawer o bobl â chlefyd niwronau motor wedi gorfod treulio cyfnodau hir yn yr ysbyty, gan nad yw eu cartrefi'n addas neu am eu bod wedi cael anafiadau fel cwympiadau neu dorri esgyrn. Pan fo'r clefyd hwn yn amddifadu pobl o ansawdd bywyd, mae'n warthus fod yn rhaid iddynt aros mor hir.
Canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mai dim ond un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi gosod targedau ar gyfer tai hygyrch ac addasadwy. Yn yr unfed ganrif ar hugain, a ninnau mor ymwybodol yn awr o'r angen am addasiadau—fel y dywedodd Rhun ac fel y dywedodd Peter—nid yw loteri cod post ledled Cymru yn ddigon da mwyach ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys. Mae system ymgeisio rhy gymhleth am grantiau i wneud addasiadau i'r cartref yn gwaethygu'r anghydraddoldebau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu.
Mae ffordd bell i fynd i gefnogi pobl â chlefyd niwronau motor ac anableddau eraill, a rhaid inni weld mesurau ymatebol gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r ansawdd bywyd gorau posibl i'r bobl hyn. Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y buddsoddiad o £15 miliwn i sefydliadau'r GIG i helpu i gynnal mwy o dreialon clinigol mewn meysydd fel clefyd niwronau motor, a Llywodraeth Geidwadol y DU, sydd wedi creu cronfa ymchwil gwerth £50 miliwn gyda'r nod o wella clefyd niwronau motor. Ond mae angen gwneud mwy, ac mae angen gwneud mwy yn awr. Ni allwn barhau i wneud cam â phobl â chlefyd niwronau motor a'u teuluoedd sy'n dioddef yn ofnadwy o un diwrnod i'r llall. Rhaid inni wneud mwy ac rwy'n eich annog, bawb yn y Siambr hon, i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, a fydd yn mynd beth o'r ffordd tuag at greu cymorth hirdymor i'r bobl hyn.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Peter Fox am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr ac i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Gwrandewais yn astud ar yr holl siaradwyr a chredaf fod llawer o bwyntiau dilys wedi'u gwneud.
Mae clefyd niwronau motor, fel y mae cynifer wedi dweud, yn glefyd dinistriol ac rwy'n gwybod hynny am fod fy ewythr annwyl, Robert, wedi dioddef o'r aflwydd creulon hwn ac roedd yn gwbl dorcalonnus gwylio ei anableddau corfforol yn cynyddu'n ddyddiol i bwynt lle na allai symud cyhyr, yn llythrennol, tra bod ei feddwl yn parhau i fod mor effro ag erioed.
Ar gyfer y math mwyaf cyffredin o glefyd niwronau motor, mae disgwyliad oes fel arfer yn ddwy i bum mlynedd o ddechrau'r symptomau. Yn anffodus, ar hyn o bryd, ni ellir atal na gwrthdroi clefyd niwronau motor, ond gall therapïau, offer a meddyginiaeth helpu i reoli symptomau ochr yn ochr ag addasu cartrefi pobl i'w gwneud mor ddiogel ac mor hygyrch â phosibl. Fel y dywedodd Peter Fox, mae tua 200 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd niwronau motor ar unrhyw adeg a diolch byth, nid yw'n glefyd cyffredin, ond i'r bobl sy'n cael diagnosis o glefyd niwronau motor, wrth gwrs, nid yw hynny'n gysur o gwbl.
Credaf yn gryf fod darparu gwasanaethau o ansawdd da i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, megis clefyd niwronau motor, yn gwbl hanfodol, ac mae angen cydbwyso hyn â chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol ledled Cymru, gan gynnwys clefyd niwronau motor.
Fel rhan o'r opsiwn triniaeth a gynigir i gleifion, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd gan dreialon clinigol rôl bwysig i'w chwarae, wrth inni chwilio am driniaeth ar gyfer clefyd niwronau motor. Rwy'n cydnabod y manteision y gallai canolfannau arbenigedd yng Nghymru ar gyfer clefydau niwrolegol eu cynnig, ond nid wyf yn credu bod angen canolfannau ymchwil arbenigol arnom i wella maint ac ansawdd treialon clinigol a chynyddu mynediad cleifion at driniaethau newydd. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn gysylltiedig ag unrhyw ymchwil newydd sydd ar y gweill ym mhob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol, ac rydym eisoes yn gwneud hyn, a dyna pam, mae arnaf ofn, na fyddaf yn cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru i'r cynnig heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu ymchwil ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys cyllid o tua £15 miliwn i sefydliadau'r GIG i'w galluogi i gynnal treialon clinigol o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd, sy'n cynnwys clefyd niwronau motor. Drwy fy nghydweithwyr yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rwy'n ymwybodol fod nifer o astudiaethau o glefyd niwronau motor eisoes ar y gweill ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mewn rhai achosion, mae cymorth hefyd ar gael i gleifion sy'n gymwys ar gyfer astudiaethau ymchwil clinigol y tu allan i Gymru.
Mae gan bobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor a chyflyrau dirywiol eraill, ynghyd â'u partneriaid, eu teuluoedd a'u gofalwyr, hawl i ddisgwyl inni wneud ein gorau glas i'w helpu i gynnal eu hannibyniaeth a byw gydag urddas. Mae gennym raglenni addasu cynhwysfawr yng Nghymru sy'n cynnwys cynghorau, cymdeithasau tai ac asiantaethau gofal a thrwsio. Gyda'i gilydd, cyfanswm ein gwariant blynyddol yw tua £60 miliwn.
Mae'n ofynnol i bob darparwr i gadw at y safonau gwasanaeth ar gyfer addasiadau tai a gyhoeddon ni yn 2019. Mae'r rhain yn cynnwys targedau ar gyfer amseroedd aros am wahanol fathau o addasiadau. Addasiadau bach yw'r rhan fwyaf, sy'n cael eu cwblhau mewn ychydig o ddyddiau, ond y grŵp mwyaf o addasiadau o ran gwerth yw addasiadau o faint canolig. Mae'r rhain yn cynnwys yr addasiadau mwyaf cyffredin, fel lifft grisiau, cawod â mynediad gwastad, ystafell wlyb lawr grisiau a rampiau mawr, neu gyfuniad o'r pethau hyn. Ar gyfartaledd, mae addasiad canolig yn cymryd ychydig dros bedwar mis i'w gwblhau.
Eleni, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn darparu £1 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn osgoi defnyddio prawf modd ar gyfer addasiadau o faint canolig. Mae'r ymateb gan awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn, ond mae mabwysiadu polisïau newydd drwy weithdrefnau'r cynghorau yn cymryd amser. Rŷn ni'n disgwyl y bydd y mwyafrif llethol o gynghorau, os nad pob un, wedi mabwysiadu polisi o beidio â chynnal prawf modd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Dim ond ychydig o addasiadau mawr sy'n cael eu gwneud bob blwyddyn, ac mae'r rhain yn cynnwys newidiadau sylweddol i'r adeilad, er enghraifft, estyniad sydd angen, efallai, caniatâd cynllunio. Dyw hi ddim yn syndod bod y rhain yn cymryd mwy o amser oherwydd eu cymhlethdod, ac ar gyfartaledd maen nhw'n cymryd tua 40 wythnos. Nawr, i bobl sydd ag MND mae'r amserlen yma yn anodd iawn, a dwi'n deall, wrth gwrs, y gall 40 wythnos fod yn amser rhy hir iddyn nhw i helpu'r bobl hyn. Fe roddon ni discretion ym mis Ebrill eleni i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ddefnyddio cyfalaf o'r gronfa gofal integredig i ychwanegu at y grant cyfleusterau i'r anabl ar gyfer addasiadau sy'n costio mwy na'r drefn statudol o £36,000.
Wrth gwrs, dyw gwneud gwaith adeiladu mawr ar adeg mor anodd ddim wastad yn beth dymunol, felly mae'n bwysig bod pobl ag MND yn gallu cael mynediad at amrywiaeth o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a fydd yn gallu darparu gwahanol ddulliau a therapïau i bobl i fyw bywyd cystal â phosibl am gyhyd â phosibl. Byddan nhw'n gweithio gyda phobl a theuluoedd i chwilio am ddewisiadau eraill posibl yn lle addasiadau.
Bydd y gofal arbenigol sy'n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth ystum corff a symudedd yng Nghymru hefyd yn cefnogi pobl gydag MND drwy ddarparu'r offer symudedd a chyfathrebu cywir, yn ôl yr angen. Mae therapi galwedigaethol cymunedol, ffisiotherapi a therapi iaith a lleferydd hefyd yn gallu helpu pobl gydag MND i reoli eu symptomau, a lleihau effaith y clefyd ar eu bywyd bob dydd. Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gweithio gyda'i gilydd, ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol a chydweithwyr yn y trydydd sector, i ddarparu gwasanaethau integredig, a hynny o'r diagnosis hyd at ofal diwedd oes. Mae gofalu am y teulu cyfan yn hanfodol, ac mae ein gweithwyr proffesiynol yn cymryd gofal enfawr i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth yn amserol, ac nad yw yn rhy ymwthiol i deuluoedd sy'n dymuno gwneud y gorau o'r amser byr, o bosib, sydd gyda nhw ar ôl. I gloi, Llywydd, dwi eisiau annog y Siambr i gefnogi'r cynnig.
Galwaf ar Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, sy'n ddadl bwysig iawn. A diolch enfawr yn arbennig i fy nghyd-Aelod, Peter Fox, am gyflwyno'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma. Fel y nododd Peter, mae clefyd niwronau motor yn salwch ofnadwy, heb wellhad, ac mae'n datblygu'n syfrdanol o gyflym gan amddifadu dioddefwyr o'u bywydau'n drasig mewn cyfnod mor fyr a phoenus. Mae hanner yr holl ddioddefwyr yn colli eu brwydr i'r clefyd hwn o fewn dwy flynedd i gael diagnosis. Yn ystod y frwydr fer hon, mae clefyd niwronau motor yn niweidio gallu'r ymennydd i gyfathrebu â'r corff. Gall effeithio ar sut rydych yn cerdded, siarad, bwyta, yfed a hyd yn oed anadlu. Y peth olaf sydd ei angen ar ddioddefwyr clefyd niwronau motor yw gorfod brwydro gyda'u hawdurdod lleol am yr addasiadau sydd eu hangen arnynt i fyw'n ddiogel a chydag urddas yn eu cartrefi eu hunain.
Ond dyma'r realiti y mae'n rhaid i'r rhai sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor ei wynebu yng Nghymru heddiw. Er gwaethaf camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, mae gennym loteri cod post mewn perthynas ag addasiadau i'r cartref, ac os ydych chi, fel finnau, eisiau dod â'r loteri honno i ben, fe'ch anogaf i gefnogi ein cynnig heddiw. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, gan ein bod ninnau hefyd yn credu bod Cymru ar ei hôl hi mewn perthynas ag ymchwil feddygol, yn enwedig i gyflyrau niwrolegol. Fel y nododd Rhun ap Iorwerth, mae addasiadau tai i bobl â chlefyd niwronau motor yn wael. Ymhelaethodd Laura Anne Jones ar hynny gyda'r loteri cod post, a'r gwaethygu sy'n digwydd o ganlyniad i hynny. Soniodd Sam Rowlands am stori bersonol gyda'r diweddar Gynghorydd William Knightly o Dowyn. Mae gennyf atgofion hoffus amdano, fel y bydd gan lawer o'r Aelodau o ogledd Cymru ar ein meinciau, mae'n siŵr.
Weinidog, roedd yn addawol clywed am waith Llywodraeth Cymru ar dreialon clinigol ar gyfer triniaeth, a chydnabod yr angen am dreialon clinigol, oherwydd os ydym am fwrw ymlaen â hyn ac edrych o ddifrif ar driniaethau fel hyn, credaf fod angen inni arwain ar geisio datblygu ymchwil ar hyn fel ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Trist oedd clywed am eich ewythr Robert a'i frwydr bersonol gyda'r clefyd. Hoffwn gloi'r ddadl heddiw drwy annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.