Cymdeithasau Budd Cymunedol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:38, 7 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n diolch i Peter Fox am y cwestiwn yna. Darperir cyllid craidd i Ganolfan Cydweithredol Cymru a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru i gefnogi datblygiad mentrau cydweithredol, gan gynnwys cymdeithasau budd cymunedol. Mae cymorth gan wasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a phrosiect cadernid Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru hefyd ar gael i hyrwyddo eu sefydliad yng Nghymru.