1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2021.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad cymdeithasau budd cymunedol? OQ57315
Llywydd, rwy'n diolch i Peter Fox am y cwestiwn yna. Darperir cyllid craidd i Ganolfan Cydweithredol Cymru a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru i gefnogi datblygiad mentrau cydweithredol, gan gynnwys cymdeithasau budd cymunedol. Mae cymorth gan wasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a phrosiect cadernid Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru hefyd ar gael i hyrwyddo eu sefydliad yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb yna. Yn ddiweddar, cefais y pleser o drafod fy Mil bwyd arfaethedig gydag aelodau Câr-y-Môr, cymdeithas budd cymunedol, y bydd fy nghyd-Aelodau yn y gorllewin yn gwbl ymwybodol ohoni. Y mae'n eiddo i dros 100 o aelodau lleol, ond yn canolbwyntio ar wasanaethu buddiannau ehangach eu cymuned leol. Roedd yn wych clywed am eu cynlluniau a sut y mae eu gwaith yn cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy ein hamgylchedd arfordirol. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw godi rhai problemau yr oedden nhw wedi eu cael, sydd wedi llesteirio datblygiad cymdeithasau budd cymunedol ledled Cymru. Er enghraifft, roedd angen sicrhau bod dealltwriaeth eang o'r model cymdeithas budd cymunedol ymysg sefydliadau'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus, yn ogystal â darparwyr cyllid, fel banciau. Oherwydd diffyg gwybodaeth am sut y maen nhw'n gweithio, mae rhai cymdeithasau budd cymunedol wedi cael trafferth yn cael gafael ar ffynonellau cyllid dibynadwy, yn ogystal â mynediad at gyngor a chymorth digonol, ac mae ofn y gallan nhw fynd i'r wal os na ellir mynd i'r afael â hyn yn gyflym. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod cymdeithasau budd cymunedol yn ffordd bwysig o hyrwyddo datblygiad cynaliadwy yng Nghymru? A beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu cymdeithasau budd cymunedol, fel Câr-y-Môr, i wireddu eu potensial ac i helpu eraill i gopïo'r model hwn i greu mwy o fusnesau â pherchnogion lleol? Diolch.
Llywydd, rwy'n diolch i Peter Fox am hynna. Rwy'n gyfarwydd â Câr-y-Môr, ond yn fwy yng nghyd-destun y de-orllewin, yn ardal Solfach a Thyddewi, ac mae'n enghraifft ardderchog o fenter fasnachol, ond â gwreiddiau cymunedol cryf, sydd â'r nod o sefydlu'r fferm gwymon a physgod cregyn fasnachol gyntaf yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n debygol bod y pethau y maen nhw wedi eu dweud wrth Peter Fox yn wir: gwell dealltwriaeth o'r model newydd hwnnw a'r hyn y gall cymdeithasau budd cymunedol ei wneud, yn enwedig gwell dealltwriaeth ymhlith darpar fuddsoddwyr masnachol, fel nad ydyn nhw'n ddibynnol ychwaith ar eu gallu i godi arian o gymunedau lleol iawn neu drwy Lywodraeth Cymru. Ceir potensial gwirioneddol am fuddsoddiad masnachol mewn rhai o'r syniadau hyn hefyd. Rwy'n berffaith hapus, Llywydd, i ofyn i fy swyddogion gyfarfod â Câr-y-Môr i glywed yn uniongyrchol ganddyn nhw am eu profiad eu hunain, ac yna i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo'r ddealltwriaeth o gymdeithasau budd cymunedol, a chwilio am ffyrdd newydd y gellir eu hyrwyddo ymhellach yng Nghymru.
Cefais gyfarfod yn ddiweddar â Mark Hooper o Fanc Cambria yn Abertyleri i drafod y cyfleusterau bancio sydd ar gael mewn gwahanol rannau o'n cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan heddiw, yn ei datganiad ar y rhaglen lywodraethu, ei hymrwymiad i fancio cymunedol. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai'r flaenoriaeth ar gyfer bancio cymunedol a bwrw ymlaen â lansiad Banc Cambria, fel banc cymunedol cenedlaethol yng Nghymru, yw sicrhau bod gan bobl ledled y wlad gyfan afael ar wasanaethau ariannol yn eu cymunedau eu hunain, a bod gan rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig wasanaethau bancio ac ariannol ar gael iddyn nhw gyda changhennau yn ôl ar y stryd fawr?
Llywydd, rwy'n cytuno yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Alun Davies yn y fan yna. Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi sefydliad banc cymunedol i Gymru, sydd â'i bencadlys yma yng Nghymru, sy'n eiddo i'w aelodau ac yn cael ei redeg er eu budd fel sefydliad ariannol cymunedol cydfuddiannol. Rwy'n gwybod mai nod Banc Cambria yw darparu gwasanaethau bancio manwerthu llawn bob dydd, yn enwedig yn y cymunedau hynny lle'r ydym ni wedi gweld ymadawiad sefydliadau ariannol prif ffrwd, gan adael llawer o strydoedd mawr heb gyfleusterau y mae llawer o bobl wedi dibynnu arnyn nhw. Rwy'n cofio yn iawn, Llywydd, ymweliad â Bwcle gyda fy nghyd-Aelod Jack Sargeant, pan oedd Jack yn gallu pwyntio, o un man ar y stryd fawr, at bedwar gwahanol adeilad—un neu ddau ohonyn nhw yn adeiladau nodedig—a oedd, hyd yn oed bum mlynedd yn ôl, wedi eu meddiannu gan fanciau prif ffrwd, ac mae pob un ohonyn nhw wedi diflannu o'r stryd fawr honno. A'r pwysigrwydd yr ydym yn ei neilltuo i'r syniad o ddatblygu banc cymunedol i Gymru yw dod â'r gwasanaethau hynny yn ôl i'r stryd fawr yn y ffordd yr awgrymodd Alun Davies, ac i wneud hynny yn arbennig yn y mannau hynny lle mae'r sefydliadau ariannol prif ffrwd hynny, a wnaeth lawer o arian o'r cymunedau hynny, wedi ffoi, gan adael ychydig iawn ar eu holau yn aml iawn.
Rwy'n cofio'r ymweliad gyda'r Prif Weinidog â Bwcle yn fy etholaeth i yn annwyl iawn. Roedd yn ymweliad ardderchog rai misoedd yn ôl. Roedd hi'n Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ddydd Sadwrn diwethaf, fel y gwyddom ni, a'r busnesau bach hynny, fel y cigyddion ar stryd fawr Bwcle, y trinwyr gwallt ar stryd fawr Bwcle a'r llu o fusnesau eraill, sy'n cadw mwy o arian yn ein cymunedau bob un diwrnod o'r flwyddyn. Ac, fel fy nghyd-Aelod Alun Davies, cefais sgwrs wych yn ddiweddar â Mark Hooper o Fanc Cambria am y mathau o fuddion y gall banc cymunedol eu cynnig i fusnesau bach a chanolig eu maint. Felly, rwy'n croesawu'r ymgyrch gan y Prif Weinidog i ysgogi'r agenda feiddgar hon i'r cam hwn, lle'r ydym ni wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru, ac fe fydd yn cael ei gyflawni yng Nghymru. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog sut y gallwn ni barhau â'r math hwn o agenda feiddgar lle mae pwyslais cymunedol yn gwbl ganolog i'n rhaglen lywodraethu feiddgar a radical?
Wel, rwy'n diolch i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Roeddwn innau hefyd allan ddydd Sadwrn, yn nodi Dydd Sadwrn Busnesau Bach ac yn cyfarfod â busnesau sy'n gwneud cymaint i gadw ein strydoedd mawr yn fywiog ac yn fyw. Roedd gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, Llywydd, a ddaeth â'r syniad o fanc cymunedol i Lywodraeth Cymru gyntaf, ffigurau dramatig iawn ar y gostyngiad i fenthyciadau i fentrau bach iawn o fewn radiws o filltir i fanc masnachol pan na fydd ar gael yn yr ardal honno mwyach. O fewn blwyddyn, mae benthyca i'r sector hwnnw yn gostwng yn wirioneddol, a dyna pam, yn ogystal â bod yn ddatblygiad pwysig iawn i bobl unigol sydd fel arall wedi eu hallgáu yn ariannol, bydd bod â banc cymunedol ar y stryd fawr yn dda iawn i'r busnesau lleol hynny hefyd—nad ydyn nhw'n chwilio am symiau mawr o arian, ond sy'n ceisio gwneud y buddsoddiad bach nesaf hwnnw sy'n rhoi'r busnes hwnnw ar y llwybr i ehangu ac i ffyniant pellach. Bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad yma ar lawr y Senedd yr wythnos nesaf ar greu banc cymunedol Cymru, ac rwy'n credu y bydd yn dangos y ffyrdd y gallwn ni, fel y dywedodd Jack Sargeant, barhau i gefnogi'r agenda honno sy'n canolbwyntio ar y gymuned.