Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Wel, rwy'n sicr yn cytuno â'r pwynt olaf, Llywydd, pan fo unrhyw berson yn gwneud gwaith ar ran budd y cyhoedd yng Nghymru ac mewn swydd a benodir yn gyhoeddus i wneud hynny, yna mae wedi ei rwymo gan lyfrau rheolau nad ydyn nhw wedi eu llunio ganddyn nhw eu hunain, ac nad y person hwnnw ddylai fod yr unig feirniad o ba un a yw'n cydymffurfio â'r llyfrau rheolau hynny.
Nid wyf i'n gyfarwydd â manylion y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan brif weithredwr Banc Datblygu Cymru yn y ffordd y mae arweinydd Plaid Cymru. Os oes pryderon penodol y dylid ymchwilio iddyn nhw, yna mae angen tynnu sylw'r Llywodraeth atyn nhw ac yna byddan nhw'n yn cael y sylw hwnnw.