2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 7 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:46, 7 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r niferoedd sydd yn dioddef o COVID-19 yn parhau'n styfnig o uchel, ac erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r amrywiolyn omicron wedi dod i'n plith, gyda'r ystadegau'n dangos, neu'n awgrymu, o leiaf, fod yr haint yn dyblu bob deuddydd. Mae nifer o ysgolion yn Nwyfor Meirionnydd wedi gorfod gyrru eu plant yn ôl o'r ysgol yn ddiweddar. Roedd fy mab fy hun wedi cael ei yrru nôl am 10 diwrnod o Ysgol Godre'r Berwyn, y Bala, oherwydd niferoedd uchel y plant a phobl ifanc oedd efo COVID yno. Ond mae yna bryder mawr ymhlith rhieni yn rhai o'r ardaloedd yma nad ydy plant wedi cael cynnig y brechlyn eto. Dwi'n nodi bod y Llywodraeth wedi gwneud cyhoeddiad heddiw y caiff yr hwblyn ei gynnig i bob oedolyn yng Nghymru cyn diwedd Ionawr. A wnewch chi sicrhau bod datganiad yn cael ei wneud mor fuan â phosib ynghylch erbyn pryd y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael cynnig y brechlyn hefyd, os gwelwch yn dda?