Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn o faint yr ydym ni wedi dibynnu ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â'n sefydliadau trydydd sector, i'n helpu ni fel Llywodraeth drwy bandemig COVID-19. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr ac mae wedi clywed eich cais, ac rwy'n siŵr, yn y dadleuon yr ydym ni'n eu cynnal yn rheolaidd ynghylch trydydd sector Cymru, y bydd hi'n ystyried eich cais.